|
|
Mae’r ddogfen hon yn crynhoi ymatebion i’r ymgynghoriad ar safonau
proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a gynhaliwyd rhwng 2 Mawrth a 4
Mai 2017.
|
|
|
Dyddiau cau 10 Gorffennaf.
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y cynllun CALU nesaf
|
|
|
Mae'r gwelliannau i'ch profiad o ddefnyddio
Hwb bellach ar gael ac yn barod i chi.
Byddwch chi'n sylwi ar rai newidiadau wrth
ichi fewngofnodi, sy'n cynnwys gwedd newydd a nodweddion newydd, sydd wedi'u
cynllunio i'ch bodloni chi a'ch anghenion.
Darllenwch ein erthygl
newyddion am restr lawn o welliannau.
|
Digwyddiad
Cyfoethogi a Phrofiadau’r GCA – 26 Mehefin
Gwahoddir penaethiaid,
athrawon, cynorthwywyr addysgu a llywodraethwyr o bob ysgol ym Mlaenau Gwent,
Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thor-faen i fynychu'r digwyddiad RHAD AC AM
DDIM ar sut i gyfoethogi dysgu a chyflwyno dysgu drwy brofiad yn eich
ysgol.
Bydd y diwrnod byr yn cynnwys tair elfen: rhannu arferion gorau a
syniadau o ysgolion eraill, ac araith gyweirnod gan yr Athro Colin Beard gan
ysgol busnes Sheffield. Archebwch eich lle heddiw
Mae’r ymgynghoriad
ar gyfer y Fframwaith Gweithredu ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol
yn fyw. Mae'r cynigion hyn yn cael eu hanelu at wella canlyniadau ar gyfer
dysgwyr sy’n derbyn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol. I
gefnogi'r ymgynghoriad hwn, bydd digwyddiadau ar y 14 Gorffennaf a 20 Gorffennaf 2017
Gallwch archebu lle ar y digwyddiadau yn awr
Am wybodaeth bellach am y
digwyddiadau hyn, cysylltwch â WELLBEINGshare
Rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd 2018 -
Enwebiadau Ar Agor!
Mae’r Grŵp
Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr
Anrhydeddau Penblwydd 2018. Os ydych yn
gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sectorau Addysg, Llywodraeth Lleol,
Cymunedau, Trechu Tlodi, Tai ac Adfywio sydd wedi dangos llwyddiant neu
wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 28/07/2017. Cysylltwch â ni trwy
e-bost i dderbyn
ffurflenni a gwybodaeth bellach.
Dyddiadau i'r
dyddiadur
Er gwybodaeth, cynhelir y Profion Darllen a
Rhifedd Cenedlaethol yn 2018 ar 25 Ebrill i 9 Mai ar gyfer ysgolion
uwchradd ac o 2 i 9 Mai ar gyfer ysgolion cynradd.
Dyma gyfle i chi rhoi eich barn gan gymryd rhan yn ein harolwg ymgysylltu ar gyfer safonau proffesiynol newydd i athrawon AB ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Datblygwyd y safonau hyn gan grŵp o athrawon/ ymarferwyr o’r ddwy sector.
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017 yw
gwobrau mwyaf nodedig Cymru yn eu maes. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn
ffurflenni cais wedi'u llenwi fydd hanner
dydd ar 23 Mehefin 2017 Maent yn dathlu llwyddiant eithriadol
unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith sydd wedi rhagori
wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes
Hyfforddeiaethau a Brentisiaethau ledled Cymru.
Bydd Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei
chynnal yn fuan iawn. Os ydych yn darparu cyfleoedd dysgu a sesiynau sgiliau ar
gyfer oedolion dyma’r amser delfrydol i annog unigolion i fynd ati i ddiweddaru
eu sgiliau. Ymunwch â’r ymgyrch er mwyn helpu i ddathlu a hyrwyddo’r ŵyl ddysgu
arbennig hon.. #carudysgu a dilynwch @PorthSgiliauGC i gael y newyddion
diweddaraf.
Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn ddigwyddiad
blynyddol sy'n rhoi'r cyfle i sefydliadau gwaith ieuenctid a phobl ifanc
ddathlu effaith gwaith ieuenctid a'r hyn y mae'n ei gyflawni. Bydd nifer o ddigwyddiadau a
gweithgareddau'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru, a bydd yr wythnos yn
cael ei lansio yn Noson Gwobrwyo Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid yng
Nghaerdydd ar 23 Mehefin.
Defnyddiwch
#LoveYouthWork #CaruGwaithIeuenctid, a cofrestru ar gyfer y Thunderclap
Mae Wythnos Ffoaduriaid yn dechrau ar19 Mehefin.
Mae Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru yn cynnig adnoddau i helpu’ch ysgol ddathlu’r
cyfraniad y mae ffoaduriaid yn ei wneud i’n gwlad, ac i annog disgyblion i
archwilio materion cymhleth megis mewnfudo a chyd-ddibyniaeth
Mae FMSP Cymru yn chwilio am athrawon mathemateg, darlithwyr a myfyrwyr ôl-raddedig profiadol a brwdfrydig i ddatblygu a chyflwyno rhaglen gyfoethogi Mathemateg Safon Uwch newydd cyffrous ar gyfer mathemategwyr mwyaf addawol Cymru. E-bostiwch eich CV byr ac amlinelliad byr o'ch profiad i Stephen Earles ste9@aber.ac.uk erbyn 23 o Fehefin
Mae'r Rhwydwaith yn awyddus i
recriwtio unigolion brwdfrydig a myfyriol o bob cyfnod addysg ym maes
mathemateg yn ymarferwyr ymchwilwyr Os oes gennych ddiddordeb mewn
defnyddio ymchwil sy'n seiliedig ar weithredu i ddatblygu addysgeg mathemateg,
gallwch ddysgu rhagor yma.
Llwybr
i addysgu yng Nghymru yn seiliedig ar gyflogaeth yw’r Rhaglen Athrawon
Graddedig. Os ydych wedi neu wrthi'n derbyn hyfforddiant RhAG neu yn
rhanddeiliad (ysgolion, consortia neu SAU) hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich
barn.
Agor tan 5
Gorffennaf
Mae gan ganolfannau, dysgwyr a rhanddeiliaid
eraill ddwy wythnos ar ôl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ganlyniadau
rheoleiddiol Cymwysterau Cymru a'r broses o fapio Amodau. Mae'r gwaith hwn yn
helpu i sicrhau bod ei weithgareddau rheoleiddio yn canolbwyntio ar ddysgwyr
a'r system gymwysterau yng Nghymru.
Y Gwasanaeth Cynghori
Ariannol – Fframwaith Canlyniadau Athrawon
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi datblygu
cyfres o fframweithiau
canlyniadau ac offerynnau mesur i helpu i ddarparu ffordd safonol o fesur
effaith addysg ariannol. Mae hyn yn cynnwys Fframwaith
Canlyniadau Athrawon, sy’n adnabod y canlyniadau a’r dangosyddion allweddol
a fydd yn helpu i wella sgiliau,
gwybodaeth a dealltwriaeth athrawon i
sicrhau eu bod yn addysgu addysg ariannol effeithiol yn yr ystafell
ddosbarth.
|