eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 9 Mehefin 2017 (Rhifyn 497)

9 Mehefin 2017 • Rhifyn 497

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

LNFFAQ

Llythrennedd a rhifedd – atebion i’ch cwestiynau

Mae’r ddogfen hon yn cynnig cymorth i ysgolion a lleoliadau drwy roi atebion i gwestiynau allweddol ynglŷn â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) a’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. 

Tests130130 10

Dyddiadau i'r dyddiadur  

Er gwybodaeth, cynhelir y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn 2018  ar 25 Ebrill i 9 Mai ar gyfer ysgolion uwchradd ac o 2 i 9 Mai ar gyfer ysgolion cynradd.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Am y diweddaraf am ddatblygiadau’n ymwneud â’r cwricwlwm newydd, cymerwch olwg ar ein cylchlythyr 

#DiwygioAddysgCymru

Cyfle olaf i wneud gwahaniaeth i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd

Yn cau heddiw!

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad i weithredu newidiadau newydd i'r system mae eich barn yn bwysig.

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - Egwyddorion Cyffredinol wedi'u cytuno

Ar ddechrau'r wythnos hon, trafododd a chytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar egwyddorion cyffredinol Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Mae’r garreg filltir bwysig hon yn dod â phroses graffu Cyfnod 1 i ben ac yn golygu y bydd y Bil yn awr yn symud ymlaen i gam 2 o'r broses ddeddfu. Gallwch ddilyn hynt y Bil a dod o hyd i wybodaeth amdano, yn cynnwys adroddiadau Cyfnod 1 Pwyllgorau’r Cynulliad. Gallwch hefyd wylio'r ddadl am yr Egwyddorion Cyffredinol

Rhaglen Athrawon Graddedig – rydym eisiau clywed eich barn

Llwybr i addysgu yng Nghymru yn seiliedig ar gyflogaeth yw’r Rhaglen Athrawon Graddedig. Os ydych wedi neu wrthi'n derbyn hyfforddiant RhAG neu yn rhanddeiliad (ysgolion, consortia neu SAU) hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn.

Sioeau Teithiol Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Ai Pennaeth ysgol ydych chi sydd â diddordeb mewn arweinyddiaeth er eich budd eich hunan, eich ysgol ac er budd y system addysg gyfan? Mae arnom angen eich help i hoelio sylw Academi Genedlaethol 

Arweinyddiaeth Addysgol ar agweddau penodol. Gallwch wneud hynny drwy ddod i un o'r pedwar digwyddiad sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.

Addysg i Deithwyr Sipsiwn. Y Prosiect Teithio Ymlaen

Adroddiad ymchwil yw hwn a wnaed gan bobl ifanc o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr am eu profiadau o addysg a’r rhwystrau i’w dysgu.

Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu – Lansiad Astudiaeth Cenedlaethol

Wythnos hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio astudiaeth ledled y wlad – 'Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu - Cymru' mewn partneriaeth â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygu (OECD) i ddatblygu diwylliant dysgu proffesiynol o fewn ac ar draws ein ysgolion a chefnogi trosglwyddiad i'r cwricwlwm newydd.  Os gwahoddir eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr, byddem yn croesawu eich cyfranogiad ac adborth agored ac onest.  Mae’r arolwg yn gwbl gyfrinachol.

diweddariadau ôl-16

Athrawon addysg bellach ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith  – Rhowch eich barn!

Dyma gyfle i chi rhoi eich barn gan gymryd rhan yn ein harolwg ymgysylltu ar gyfer safonau proffesiynol newydd i athrawon AB ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.  Datblygwyd y safonau hyn gan grŵp o athrawon/ ymarferwyr o’r ddwy sector.

Wythnos Addysg Oedolion: 19-25 Mehefin 2017

Bydd Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei chynnal yn fuan. Gall dysgu agor pob mathau o ddrysau, o ieithoedd i gyfrifiaduron, gofal plant i gyllid. Os ydych yn darparu cyfleoedd dysgu a sesiynau sgiliau ar gyfer oedolion ymunwch â’r ymgyrch er mwyn dathlu a hyrwyddo’r hyn yr ydych yn ei gynnig. #carudysgu a dilynwch @PorthSgiliauGC i gael y newyddion diweddaraf. 

Adnoddau

Dewch i archwilio Cymru!

Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am 81 o'r lleoedd pwysicaf yn hanes Cymru, o gestyll ac abatai, i raeadrau a chamlesi.  Yn ogystal â darparu gwybodaeth gyffredinol ar y lleoliadau hyn i gyd, mae’r map yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol addysgiadol i blant 7 i 11 oed. Mae’r adnodd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.  

Adnoddau i gefnogi addysgu TGAU CBAC Hanes

Mae’r adnodd hwn nawr ar gael ar Hwb i gefnogi ymarferwyr gyda  bersbectif Cymreig ‘Uned 3 ym manyleb TGAU CBAC Hanes. Anelir yr adnodd hwn at ymarferwyr yng Nghymru a fydd yn addysgu’r manyleb TGAU CBAC o fis Medi 2017 ymlaen.

Plantlife: Allweddi’r Coetiroedd

Mae’r pecyn hwn wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan ymarferwyr sy’n arwain gweithgareddau mewn coetiroedd. Gallwch wneud gweithgareddau unigol neu fwy nag un i adeiladu ar yr hyn sy’n cael ei ddysgu.

Ap yr Wythnos

Agorwch Hoop i ddarganfod pethau newydd i'w gwneud heddiw neu gelli di gynllunio dy benwythnos. #Cymraeg

hwb

CwrddHwb Aberhonddu – 1 wythnos i fynd

Peidiwch â cholli’ch cyfle! Caiff digwyddiad olaf CwrddHwb y flwyddyn academaidd hon ei gynnal yng Ngwesty Castle of Brecon ar 13 Mehefin. Cadwch eich lle nawr!

Profiad gwell wrth ddefnyddio Hwb!

Mae'r gwelliannau i'ch profiad o ddefnyddio Hwb bellach ar gael ac yn barod i chi. 

Byddwch chi'n sylwi ar rai newidiadau wrth ichi fewngofnodi, sy'n cynnwys gwedd newydd a nodweddion newydd, sydd wedi'u cynllunio i'ch bodloni chi a'ch anghenion. 

Darllenwch ein erthygl newyddion am restr lawn o welliannau.

newyddion arall am addysg

Cynhadledd Flynyddol Bagloriaeth Cymru – Prifysgol Caerdydd 29ain Mehefin 2017

Mae athrawon a chydlynwyr Bagloriaeth Cymru yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiad datblygu sgiliau undydd am ddim sy’n canolbwyntio ar sgiliau hanfodol, datrys problemau a’r cylch ymchwil. Er mwyn trefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol yma neu gysylltu â business.desk@cscjes.org.uk 

Y Cyfnewid Gofal ac Addysg 

Lansiwyd ym mis Mai gyda digwyddiadau yn ne a Gogledd Cymru, mae’r ganolfan ar-lein yn cynnal ystod o ddeunyddiau defnyddiol ar gyfer athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Rydym yn chwilio am fwy o enghreifftiau o arfer gorau gan eich ysgol i’w rhannu! 

Cynllunio diogelwch ar gyfer teithiau ysgol

Yn dilyn yr achosion o derfysgaeth yn ddiweddar yn y DU, dylai ysgolion a threfnwyr teithiau ysgol / ymweliadau  ystyried y cyngor canlynol gan y Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored.  Awgrymir hefyd eich bod yn gwirio tudalennau gwe’r Swyddfa Gartref, a gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) i gael cyngor dramor.  (Mae’r ddolen isod yn Saesneg yn unig).

Cynnal y momentwm mewn dysgu byd-eang 

Mae cynhadledd olaf Rhaglen Dysgu Byd-Eang Cymru, sydd yn agored ac am ddim i bob ysgol yng Nghymru, yn digwydd ar 22 Mehefin yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd. Ymunwch â ni i weld cyflwyniadau gan ddisgyblion, gweithdai rhyngweithiol o dan arweiniad athrawon a hyfforddwyr profiadol, a diweddariadau ar y cwricwlwm newydd gyda Llywodraeth Cymru a’r fframwaith arolygu newydd gydag Estyn. Cadwch eich lle erbyn 15 Mehefin drwy gysylltu â lbuckley@educationdevelopmenttrust.com

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews