|
|
Mae’r ddogfen hon yn cynnig cymorth i
ysgolion a lleoliadau drwy roi atebion i gwestiynau allweddol ynglŷn â’r
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) a’r Profion Darllen a
Rhifedd Cenedlaethol.
|
|
|
Dyddiadau i'r dyddiadur
Er gwybodaeth, cynhelir y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn 2018 ar 25 Ebrill i 9 Mai ar gyfer ysgolion uwchradd ac o 2 i 9 Mai ar gyfer ysgolion cynradd.
|
#DiwygioAddysgCymru
Yn cau heddiw
Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad i weithredu newidiadau newydd i'r system mae eich barn yn bwysig.
Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - Egwyddorion Cyffredinol wedi'u cytuno
Ar ddechrau'r wythnos hon, trafododd a chytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar egwyddorion cyffredinol Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Mae’r garreg filltir bwysig hon yn dod â phroses graffu Cyfnod 1 i ben ac yn golygu y bydd y Bil yn awr yn symud ymlaen i gam 2 o'r broses ddeddfu. Gallwch ddilyn hynt y Bil a dod o hyd i wybodaeth amdano, yn cynnwys adroddiadau Cyfnod 1 Pwyllgorau’r Cynulliad. Gallwch hefyd wylio'r ddadl am yr Egwyddorion Cyffredinol.
Adroddiad ymchwil yw hwn a wnaed gan bobl ifanc o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr am eu profiadau o addysg a’r rhwystrau i’w dysgu.
Llwybr i addysgu yng Nghymru yn seiliedig ar gyflogaeth yw’r Rhaglen Athrawon Graddedig. Os ydych wedi neu wrthi'n derbyn hyfforddiant RhAG neu yn rhanddeiliad (ysgolion, consortia neu SAU) hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn.
Ai Pennaeth ysgol ydych chi sydd â diddordeb mewn arweinyddiaeth er eich budd eich hunan, eich ysgol ac er budd y system addysg gyfan? Mae arnom angen eich help i hoelio sylw Academi Genedlaethol
Arweinyddiaeth Addysgol ar agweddau penodol. Gallwch wneud hynny drwy ddod i un o'r pedwar digwyddiad sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.
Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu – Lansiad Astudiaeth Cenedlaethol
Mae'r Llywodraeth Cymru wedi lansio astudiaeth ledled y wlad – 'Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu - Cymru' mewn partneriaeth â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygu (OECD) i ddatblygu diwylliant dysgu proffesiynol o fewn ac ar draws ein ysgolion a chefnogi trosglwyddiad i'r cwricwlwm newydd. Os gwahoddir eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr, byddem yn croesawu eich cyfranogiad ac adborth agored ac onest. Mae’r arolwg yn gwbl gyfrinachol.
Peidiwch â cholli’ch cyfle! Caiff digwyddiad olaf CwrddHwb y flwyddyn academaidd hon ei gynnal yng Ngwesty Castle of Brecon ar 13 Mehefin. Cadwch eich lle nawr!
Profiad gwell
wrth ddefnyddio Hwb!
Mae'r gwelliannau i'ch profiad o ddefnyddio Hwb bellach ar
gael ac yn barod i chi.
Byddwch chi'n sylwi ar rai newidiadau wrth ichi fewngofnodi,
sy'n cynnwys gwedd newydd a nodweddion newydd, sydd wedi'u cynllunio i'ch
bodloni chi a'ch anghenion.
Darllenwch
ein erthygl
newyddion am restr lawn o welliannau.
Mae’r pecyn hwn wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan ymarferwyr sy’n arwain gweithgareddau mewn coetiroedd. Gallwch wneud gweithgareddau unigol neu fwy nag un i adeiladu ar yr hyn sy’n cael ei ddysgu (CA2-3).
Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am 81 o'r lleoedd pwysicaf yn hanes Cymru, o gestyll ac abatai, i raeadrau a chamlesi. Yn ogystal â darparu gwybodaeth gyffredinol ar y lleoliadau hyn i gyd, mae’r map yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol addysgiadol i blant 7 i 11 oed. Mae’r adnodd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Ap yr Wythnos - Hoop
Defnyddiwch Hoop i ddod o hyd i bethau i'w gwneud gyda dy blant gan gynnwys gweithgareddau Cymraeg i Blant. #Cymraeg
Yn dilyn yr achosion o derfysgaeth yn ddiweddar yn y DU, dylai ysgolion a threfnwyr teithiau ysgol / ymweliadau ystyried y cyngor canlynol gan y Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored. Awgrymir hefyd eich bod yn gwirio tudalennau gwe’r Swyddfa Gartref, a gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) i gael cyngor dramor.
Lansiwyd ym mis Mai gyda digwyddiadau yn ne a Gogledd Cymru, mae’r ganolfan ar-lein yn cynnal ystod o ddeunyddiau defnyddiol ar gyfer athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Rydym yn chwilio am fwy o enghreifftiau o arfer gorau gan eich ysgol i’w rhannu!
Cynnal y momentwm mewn dysgu byd-eang
Mae cynhadledd olaf Rhaglen Dysgu Byd-Eang Cymru, sydd yn agored ac am ddim i bob ysgol yng Nghymru, yn digwydd ar 22 Mehefin yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd. Ymunwch â ni i weld cyflwyniadau gan ddisgyblion, gweithdai rhyngweithiol o dan arweiniad athrawon a hyfforddwyr profiadol, a diweddariadau ar y cwricwlwm newydd gyda Llywodraeth Cymru a’r fframwaith arolygu newydd gydag Estyn. Cadwch eich lle erbyn 15 Mehefin drwy gysylltu â lbuckley@educationdevelopmenttrust.com
|