eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 9 Mehefin 2017 (Rhifyn 170)

9 Mehefin 2017 • Rhifyn 170

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

LNFFAQ

Llythrennedd a rhifedd – atebion i’ch cwestiynau

Mae’r ddogfen hon yn cynnig cymorth i ysgolion a lleoliadau drwy roi atebion i gwestiynau allweddol ynglŷn â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) a’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. 

Tests130130 9

Dyddiadau i'r dyddiadur  

Er gwybodaeth, cynhelir y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol yn 2018 ar 25 Ebrill i 9 Mai ar gyfer ysgolion uwchradd ac o 2 i 9 Mai ar gyfer ysgolion cynradd.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Am y diweddaraf am ddatblygiadau’n ymwneud â’r cwricwlwm newydd, cymerwch olwg ar ein cylchlythyr 

#DiwygioAddysgCymru

Cyfle olaf i wneud gwahaniaeth i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd

Yn cau heddiw

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad i weithredu newidiadau newydd i'r system mae eich barn yn bwysig.

Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) - Egwyddorion Cyffredinol wedi'u cytuno

Ar ddechrau'r wythnos hon, trafododd a chytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar egwyddorion cyffredinol Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Mae’r garreg filltir bwysig hon yn dod â phroses graffu Cyfnod 1 i ben ac yn golygu y bydd y Bil yn awr yn symud ymlaen i gam 2 o'r broses ddeddfu. Gallwch ddilyn hynt y Bil a dod o hyd i wybodaeth amdano, yn cynnwys adroddiadau Cyfnod 1 Pwyllgorau’r Cynulliad. Gallwch hefyd wylio'r ddadl am yr Egwyddorion Cyffredinol

Addysg i Deithwyr Sipsiwn - Y Prosiect Teithio Ymlaen

Adroddiad ymchwil yw hwn a wnaed gan bobl ifanc o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr am eu profiadau o addysg a’r rhwystrau i’w dysgu.

Rhaglen Athrawon Graddedig – rydym eisiau clywed eich barn

Llwybr i addysgu yng Nghymru yn seiliedig ar gyflogaeth yw’r Rhaglen Athrawon Graddedig. Os ydych wedi neu wrthi'n derbyn hyfforddiant RhAG neu yn rhanddeiliad (ysgolion, consortia neu SAU) hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn.

Sioeau Teithiol Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Ai Pennaeth ysgol ydych chi sydd â diddordeb mewn arweinyddiaeth er eich budd eich hunan, eich ysgol ac er budd y system addysg gyfan? Mae arnom angen eich help i hoelio sylw Academi Genedlaethol 

Arweinyddiaeth Addysgol ar agweddau penodol. Gallwch wneud hynny drwy ddod i un o'r pedwar digwyddiad sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.

Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu – Lansiad Astudiaeth Cenedlaethol

Mae'r Llywodraeth Cymru wedi lansio astudiaeth ledled y wlad – 'Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu - Cymru' mewn partneriaeth â’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygu (OECD) i ddatblygu diwylliant dysgu proffesiynol o fewn ac ar draws ein ysgolion a chefnogi trosglwyddiad i'r cwricwlwm newydd.  Os gwahoddir eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr, byddem yn croesawu eich cyfranogiad ac adborth agored ac onest.  Mae’r arolwg yn gwbl gyfrinachol.

hwb

CwrddHwb Aberhonddu – 1 wythnos i fynd

Peidiwch â cholli’ch cyfle! Caiff digwyddiad olaf CwrddHwb y flwyddyn academaidd hon ei gynnal yng Ngwesty Castle of Brecon ar 13 Mehefin. Cadwch eich lle nawr!

Profiad gwell wrth ddefnyddio Hwb!

Mae'r gwelliannau i'ch profiad o ddefnyddio Hwb bellach ar gael ac yn barod i chi. 

Byddwch chi'n sylwi ar rai newidiadau wrth ichi fewngofnodi, sy'n cynnwys gwedd newydd a nodweddion newydd, sydd wedi'u cynllunio i'ch bodloni chi a'ch anghenion.

 Darllenwch ein erthygl newyddion am restr lawn o welliannau.

Plantlife: Allweddi’r Coetiroedd

Mae’r pecyn hwn wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio gan ymarferwyr sy’n arwain gweithgareddau mewn coetiroedd. Gallwch wneud gweithgareddau unigol neu fwy nag un i adeiladu ar yr hyn sy’n cael ei ddysgu (CA2-3).

adnoddau

Dewch i archwilio Cymru!

Mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am  81 o'r lleoedd pwysicaf yn hanes Cymru, o gestyll ac abatai, i raeadrau a chamlesi.  Yn ogystal â darparu gwybodaeth gyffredinol ar y lleoliadau hyn i gyd, mae’r map yn cynnwys gweithgareddau rhyngweithiol addysgiadol i blant 7 i 11 oed. Mae’r adnodd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.  

Ap yr Wythnos - Hoop

Defnyddiwch Hoop i ddod o hyd i bethau i'w gwneud gyda dy blant gan gynnwys gweithgareddau Cymraeg i Blant. #Cymraeg

NEWYDDION ARALL AM ADDYSG

Cynllunio diogelwch ar gyfer teithiau ysgol

Yn dilyn yr achosion o derfysgaeth yn ddiweddar yn y DU, dylai ysgolion a threfnwyr teithiau ysgol / ymweliadau  ystyried y cyngor canlynol gan y Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored.  Awgrymir hefyd eich bod yn gwirio tudalennau gwe’r Swyddfa Gartref, a gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) i gael cyngor dramor. 

Y Cyfnewid Gofal ac Addysg 

Lansiwyd ym mis Mai gyda digwyddiadau yn ne a Gogledd Cymru, mae’r ganolfan ar-lein yn cynnal ystod o ddeunyddiau defnyddiol ar gyfer athrawon sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Rydym yn chwilio am fwy o enghreifftiau o arfer gorau gan eich ysgol i’w rhannu! 

Cynnal y momentwm mewn dysgu byd-eang 

Mae cynhadledd olaf Rhaglen Dysgu Byd-Eang Cymru, sydd yn agored ac am ddim i bob ysgol yng Nghymru, yn digwydd ar 22 Mehefin yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd. Ymunwch â ni i weld cyflwyniadau gan ddisgyblion, gweithdai rhyngweithiol o dan arweiniad athrawon a hyfforddwyr profiadol, a diweddariadau ar y cwricwlwm newydd gyda Llywodraeth Cymru a’r fframwaith arolygu newydd gydag Estyn. Cadwch eich lle erbyn 15 Mehefin drwy gysylltu â lbuckley@educationdevelopmenttrust.com

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews