|
|
Mae £1m i gael ei fuddsoddi i ddatblygu sgiliau staff sy'n addysgu'r cwricwlwm i blant 3 i 7 oed yng Nghymru.
|
|
|
Mae’r ddogfen wybodaeth hon yn cynnig cymorth i
ysgolion a lleoliadau drwy roi atebion i gwestiynau allweddol ynglŷn â’r
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) a’r Profion Darllen a
Rhifedd Cenedlaethol.
|
|
|
Daw'r newid i rym ar unwaith. Y cwbl y
disgwylir i ysgolion ei ddarparu yw adroddiad naratif blynyddol i
rieni/gofalwyr wedi'i seilio ar y Fframwaith yn y canlynol:
- Cymraeg,
Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3
- Iaith,
Llythrennedd a Sgiliau Cyfathrebu a Datblygiad Mathemategol yn y Cyfnod
Sylfaen.
Bydd y newid hwn yn effeithio
ar bob ysgol.
|
Casglu Data Profion
Cenedlaethol Cymru
Y
dyddiad terfynol ar gyfer llwytho data ydi 7 Mehefin neu’r dyddiad a ddynodwyd gan
eich Awdurdod Lleol/Consortiwm.
Rhaid
llofnodi datganiad ar gyfer 2017 a’u cyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 16
Mehefin.
Ni'n
siŵr bod teitl diddorol y blogiad hwn, wedi ei gyhoeddi gan James Kent ar blog GCA, yn denu sylw unrhyw un sydd
â diddordeb yn natblygiad ein cwricwlwm newydd.
16-18
Mehefin 2017
Wedi’i
ysbrydoli gan Jo Cox AS, a lofruddiwyd y llynedd, nod The Great Get Together yw
tynnu ynghyd gymunedau, disgyblion, cymdogion a ffrindiau i rannu a dathlu'r
hyn sydd gennym yn gyffredin. Darllenwch lythyr Kirsty Williams, yr Ysgrifennyd Cabinet
dros Addysg sy'n gwahnodd ysgolion i gymryd rhan.
Yr Ysgol fel Sefydliad sy'n Dysgu - Astudiaeth Cenedlaethol
Bwriad
yr astudiaeth, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad ar gyfer
Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yw datblygu diwylliant dysgu
proffesiynol o fewn ac ar draws ein ysgolion i gefnogi trosglwyddiad i'r
cwricwlwm newydd. Os gwahoddir eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr yn
lansio mis nesaf, byddem yn croesawu eich cyfranogiad ac adborth agored ac
onest.
Cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg yn ddiweddar fod
cynllun gweithredu cenedlaethol newydd i gael ei greu i ddiogelu plant a phobl
ifanc ar-lein.
Helpu
athrawon i ddatblygu i fod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr i wella safonau yn
ein hysgolion fydd sylw'r academi arweinyddiaeth newydd.
Cynlluniwyd
y canllawiau hyn gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar gyfer cynradd ac
ysgolion uwchradd wrth ymgynghori â rhan-ddeiliaid. Mae'r canllawiau hyn yn
nodi deg cam allweddol er mwyn gwneud y gwaith o nodi a chefnogi gofalwyr ifanc
mor hawdd ag y mae'n bosibl, yn ogystal â helpu ysgolion i adeiladu ar arfer
da.
Rydym eisiau eich barn
Cymrwch
ran yn yr ymgynghoriad ar y ffordd orau i weithredu'r system
Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd. Yn cau 9 Mehefin, 2017.
Ydych
chi wedi archebu eich lle ar gyfer CwrddHwb Aberhonddu eto? Bydd siaradwyr yn
cynnwys: South West Grid for Learning, J2e, IntoFilm Cymru, Encyclopedia
Britannica, Y Brifysgol Agored, Ysgol Gynradd Darran Park ac Ysgol Gynradd All
Saints.
Byw neu’n gweithio yng nghymoedd y
de? Sut ydych chi’n teimlo am eich cymuned, beth all helpu cefnogi eich
dyfodol chi, dyfodol eich teulu a’ch ysgol? Byddwn yn ddiolchgar iawn os
allwch chi gymryd 10 munud i gwblhau ein harolwg a’i basio ymlaen at unrhyw
gydweithwyr, rheini, llywodraethwyr a ffrindiau sydd hefyd yn rhan o’r
cymunedau hyn.
Bysellfwrdd arall ar gael ar gyfer y
Gymraeg – Gboard nawr ar gael ar Apple ac Android #Cymraeg
Ai Pennaeth ysgol ydych chi sydd â diddordeb mewn arweinyddiaeth er eich budd eich hunan, eich ysgol ac er budd y system addysg gyfan? Mae arnom angen eich help i hoelio sylw Academi Genedlaethol
Arweinyddiaeth Addysgol ar agweddau penodol. Gallwch wneud hynny drwy ddod i un o'r pedwar digwyddiad sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.
Rydym
yn gobeithio y bydd yr e-fwletin diweddaraf yma o ddiddordeb i chi ac yn
addysgiadol. Os oes gennych unrhyw sylwadau am y cynnwys, neu unrhyw syniadau
am ddefnydd yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â ni. Rydym yn croesawu
eich barn. Tanysgrifwch yma.
Mae
Diwrnod Affrica yn digwydd bob blwyddyn ar 25 Mai, gyda 2017 yn dynodi
50 mlynedd ers pan gafodd Undeb Affrica ei sefydlu. Mae gan Gymru nifer o
gysylltiadau â gwahanol wledydd yn Affrica – mae Rhaglen Dysgu Byd-Eang - Cymru
wedi dethol adnoddau i helpu eich ysgol i ymuno yn y dathliadau.
Mae'r Cyngor Prydeinig yn cynnig taith ddysgu yn
rhad ac am ddim i helpu athrawon ddatblygu eu harfer trwy gydweithredu
rhyngwladol. Mae’r athrawon sy'n cymryd rhan yn Cysylltu Ystafelloedd Dosbarth
yn elwa o gyrsiau hyfforddiant sgiliau craidd a ariennir yn llawn, yn cael
mynediad i rwydwaith ryngwladol o athrawon o'r un anian a £3,000 o grantiau i
ymweld ag ysgolion partner dramor.
|