eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 26 Mai 2017 (Rhifyn 496)

26 Mai 2017 • Rhifyn 496

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

LNFFAQ

Llythrennedd a rhifedd – atebion i’ch cwestiynau

Mae’r ddogfen wybodaeth hon yn cynnig cymorth i ysgolion a lleoliadau drwy roi atebion i gwestiynau allweddol ynglŷn â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) a’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. 

Tests130130 10

Mae'r broses o adrodd am y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol yn newid

Daw'r newid i rym ar unwaith. Y cwbl y disgwylir i ysgolion ei ddarparu yw adroddiad naratif blynyddol i rieni/gofalwyr wedi'i seilio ar y Fframwaith yn y canlynol:

  • Cymraeg, Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 
  • Iaith, Llythrennedd a Sgiliau Cyfathrebu a Datblygiad Mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen.

Bydd y newid hwn yn effeithio ar bob ysgol.

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol

Casglu Data Profion Cenedlaethol Cymru

Y dyddiad terfynol ar gyfer llwytho data ydi 7 Mehefin neu’r dyddiad a ddynodwyd gan eich Awdurdod Lleol/Consortiwm.

Datganiad y Pennaeth

Rhaid llofnodi datganiad ar gyfer 2017 a’u cyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 16 Mehefin.

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol Adnodd Cymorth Diagnostig - ar gael nawr

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Post Blog newydd Cwriwcwlwm i Gymru

Ni'n siŵr bod teitl diddorol y blogiad hwn, wedi ei gyhoeddi gan James Kent ar blog GCA, yn denu sylw unrhyw un sydd â diddordeb yn natblygiad ein cwricwlwm newydd.

Athrawon addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith ymarferwyr – Rhowch eich barn!

Dyma gyfle i chi rhoi eich barn gan gymryd rhan yn ein harolwg ymgysylltu ar gyfer safonau proffesiynol newydd i athrawon AB ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.  Datblygwyd y safonau hyn gan grŵp o athrawon/ ymarferwyr o’r ddwy sector.

Cyfle unigryw i athrawon gwyddoniaeth y DU i ymweld â CERN

Bydd y profiad hwn yn ymgysylltu myfyrwyr ac ysbrydoli gwersi gwyddoniaeth.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys ymweliad dysgu 3.5 diwrnod i CERN yn Genefa o'r 12-15 Rhagfyr 2017. Mae gwobr BRWDFRYDEDD o £ 1,200 ar gael i’r digwyddiad.

Mae rhifyn diweddaraf o'r bwletin ar adrodd ar berfformiad ysgolion nawr ar gael

The Great Get Together 

16-18 Mehefin 2017

Wedi’i ysbrydoli gan Jo Cox AS, a lofruddiwyd y llynedd, nod The Great Get Together yw tynnu ynghyd gymunedau, disgyblion, cymdogion a ffrindiau i rannu a dathlu'r hyn sydd gennym yn gyffredin. Darllenwch lythyr Kirsty Williams, yr Ysgrifennyd Cabinet dros Addysg sy'n gwahnodd ysgolion i gymryd rhan.

Rhaglen Athrawon Graddedig – rydym eisiau clywed eich barn

Llwybr i addysgu yng Nghymru yn seiliedig ar gyflogaeth yw’r Rhaglen Athrawon Graddedig. Os ydych wedi neu wrthi'n derbyn hyfforddiant RhAG neu yn rhanddeiliad (ysgolion, consortia neu SAU) hoffai Llywodraeth Cymru glywed eich barn.

Yr Ysgol fel Sefydliad sy'n Dysgu - Astudiaeth Cenedlaethol

Bwriad yr astudiaeth, sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yw datblygu diwylliant dysgu proffesiynol o fewn ac ar draws ein ysgolion i gefnogi trosglwyddiad i'r cwricwlwm newyddOs gwahoddir eich ysgol i gwblhau'r arolwg byr yn lansio mis nesaf, byddem yn croesawu eich cyfranogiad ac adborth agored ac onest.

Cynllun gweithredu cenedlaethol i gael ei greu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein - Kirsty Williams

Cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg yn ddiweddar fod cynllun gweithredu cenedlaethol newydd i gael ei greu i ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein.

Cyflwyno cynlluniau i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth athrawon – Kirsty Williams

Helpu athrawon i ddatblygu i fod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr i wella safonau yn ein hysgolion fydd sylw'r academi arweinyddiaeth newydd.

Canllawiau Cefnogi Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion, Golygiad Cymru

Cynlluniwyd y canllawiau hyn gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar gyfer  cynradd ac ysgolion uwchradd wrth ymgynghori â rhan-ddeiliaid. Mae'r canllawiau hyn yn nodi deg cam allweddol er mwyn gwneud y gwaith o nodi a chefnogi gofalwyr ifanc mor hawdd ag y mae'n bosibl, yn ogystal â helpu ysgolion i adeiladu ar arfer da.

Ymgynghoriad Anghenion Dysgu Ychwanegol

Rydym eisiau eich barn

Cymrwch ran yn yr ymgynghoriad ar y ffordd orau i weithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.  Yn cau 9 Mehefin, 2017.

#TrafodyCymoedd

Byw neu’n gweithio yng nghymoedd y de?  Sut ydych chi’n teimlo am eich cymuned, beth all helpu cefnogi eich dyfodol chi, dyfodol eich teulu a’ch ysgol?  Byddwn yn ddiolchgar iawn os allwch chi gymryd 10 munud i gwblhau ein harolwg a’i basio ymlaen at unrhyw gydweithwyr, rheini, llywodraethwyr a ffrindiau sydd hefyd yn rhan o’r cymunedau hyn.

Rheoliadau ar rannu gwybodaeth am fyfyrwyr

Rydym am gael eich barn ar Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru)  2017 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Gyrchfannau) (Gweithgareddau Rhagnodedig) (Cymru) 2017

Ap yr Wythnos

Bysellfwrdd arall ar gael ar gyfer y Gymraeg – Gboard nawr ar gael ar Apple ac Android #Cymraeg

dyddiadau i'ch dyddiadur

Sioeau Teithiol Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Ai Pennaeth ysgol ydych chi sydd â diddordeb mewn arweinyddiaeth er eich budd eich hunan, eich ysgol ac er budd y system addysg gyfan? Mae arnom angen eich help i hoelio sylw Academi Genedlaethol 

Arweinyddiaeth Addysgol ar agweddau penodol. Gallwch wneud hynny drwy ddod i un o'r pedwar digwyddiad sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.

diweddariadau ôl-16

Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017

Dydd Gwener 20 Hydref 2017 yn y Celtic Manor, Casnewydd

Mae ffurflenni cais ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar gael yn awr.  Mae’r Gwobrau’n dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu sy’n seiliedig ar waith sydd wedi rhagori wrth gyfrannu y Rhaglen Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais fydd hanner dydd ar 23 Mehefin 2017.

Wythnos Addysg Oedolion
19 – 25 Mehefin 2017

Cofrestrwch eich digwyddiad yma a derbyn 'Digwyddiad mewn Blwch' am ddim, yn cynnwys eitemau hyrwyddo a theitlau Stori Sydyn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Wythnos Addysg Oedolion, cysylltwch â nisha.patel@learningandwork.org.uk.

hwb

CwrddHwb Aberhonddu – 13 Mehefin

Ydych chi wedi archebu eich lle ar gyfer CwrddHwb Aberhonddu eto? Bydd siaradwyr yn cynnwys: South West Grid for Learning, J2e, IntoFilm Cymru, Encyclopedia Britannica, Y Brifysgol Agored, Ysgol Gynradd Darran Park ac Ysgol Gynradd All Saints.

newyddion arall am addysg

Sefydlu Senedd Ieuenctid newydd i Gymru

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru am glywed eich barn am Senedd Ieuenctid i Gymru. Gallwch chi gymryd rhan drwy cwblhau'r ymgynghoriad ar-lein, gwahodd Tîm Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'ch ysgol neu drwy fynychu un o'r digwyddiadau Ymgynghoriad Senedd Ieuenctid Cymru pwrpasol.

Cylchgrawn Gweiddi - CA3 – Cymraeg Iaith Gyntaf

Rhifyn 42 – Erthygl 50

Mae cylchgrawn Gweiddi nawr yn fyw! Thema’r rhifyn yma yw “Erthygl 50”, a rydyn ni’n edrych ar beth yw goblygiadau ei thanio i ynysoedd Prydain wrth baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd. Beth mae ‘Brexit’ yn ei olygu? Beth yn y byd yw Erthygl 50? Sawl iaith sy’n cael ei siarad yn Senedd yr Undeb Ewropeaidd?  Darllenwch a mwynhewch!

E-bwletin Llywodraethwyr Cymru – Mai 2017

Rydym yn gobeithio y bydd yr e-fwletin diweddaraf yma o ddiddordeb i chi ac yn addysgiadol. Os oes gennych unrhyw sylwadau am y cynnwys, neu unrhyw syniadau am ddefnydd yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â ni. Rydym yn croesawu eich barn. Tanysgrifwch yma.

Cynhadledd Flynyddol Bagloriaeth Cymru – Prifysgol Caerdydd 29ain Mehefin 2017

Mae athrawon a chydlynwyr Bagloriaeth Cymru yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiad datblygu sgiliau undydd am ddim sy’n canolbwyntio ar sgiliau hanfodol, datrys problemau a’r cylch ymchwil. Er mwyn trefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol yma neu gysylltu â business.desk@cscjes.org.uk 

Cyfle olaf i ymuno a'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion

Ydych chi eisiau data am iechyd a lles eich myfyrwyr yn rhad ac am ddim? Mae recriwtio ysgolion uwchradd ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn agored tan ddiwedd yr wythnos hon. Ymunwch nawr

Adnoddau i ddathlu 50 mlynedd o undod yn Affrica

Mae Diwrnod Affrica yn digwydd bob blwyddyn ar 25 Mai, gyda 2017 yn dynodi 50 mlynedd ers pan gafodd Undeb Affrica ei sefydlu.  Mae gan Gymru nifer o gysylltiadau â gwahanol wledydd yn Affrica – mae Rhaglen Dysgu Byd-Eang - Cymru wedi dethol adnoddau i helpu eich ysgol i ymuno yn y dathliadau. 

Rhoi'r sgiliau i bobl ifanc ffynnu yn yr unfed ganrif ar hugain

Mae'r Cyngor Prydeinig yn cynnig taith ddysgu yn rhad ac am ddim i helpu athrawon ddatblygu eu harfer trwy gydweithredu rhyngwladol. Mae’r athrawon sy'n cymryd rhan yn Cysylltu Ystafelloedd Dosbarth yn elwa o gyrsiau hyfforddiant sgiliau craidd a ariennir yn llawn, yn cael mynediad i rwydwaith ryngwladol o athrawon o'r un anian a £3,000 o grantiau i ymweld ag ysgolion partner dramor.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews