|
|
Cofrestrwch nawr ar gyfer y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol! Bydd Kellie Williams un o’r diwrnod yn y farchnad digidol ble bydd hi’n cynnig enghreifftiau ymarferol o sut i fynd i’r afael â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Darllenwch blog Kellie ar ei barn ar y Fframwaith a pam dylech chi fynd y digwyddiad.
|
|
|
Ysbrydolwyd gan Jo Cox
16-18 Mehefin 2017
Wedi’i ysbrydoli gan Jo Cox AS, a lofruddiwyd y llynedd, nod The Great Get Together yw tynnu ynghyd gymunedau, disgyblion, cymdogion a ffrindiau i rannu a dathlu'r hyn sydd gennym yn gyffredin. Darllenwch lythyr Kirsty Williams, yr Ysgrifennyd Cabinet dros Addysg sy'n gwahnodd ysgolion i gymryd rhan.
|
|
|
Saith categori, yn cynnwys:
- Pennaeth y flwyddyn.
- Gwobr am hyrwyddo llesiant a gynhwysiant disgyblion yn yr ysgol.
- Gwobr am gefnogi athrawon a dysgwyr.
- Gwobr ysgol gyfan am hyrwyddo cydberthnasau â rhieni a’r gymuned.
|
Casglu Data Profion
Cenedlaethol Cymru
Y
dyddiad terfynol ar gyfer llwytho data ydi 7 Mehefin neu’r dyddiad a ddynodwyd gan
eich Awdurdod Lleol/Consortiwm.
Rhaid llofnodi datganiad ar gyfer 2017 a’u
cyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 16 Mehefin.
Mae'r adnodd cymorth diagnostig ar gyfer y profion darllen a rhifedd cenedlaethol nawr ar gael. Bydd yr adnodd hwn yn helpu athrawon i ddadansoddi canlyniadau
profion rhifedd eu disgyblion ac yn mapio’u perfformiad ar sail y Fframwaith
Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.
Canllawiau i rieni a gofalwyr: Sut mae fy mhlentyn yn datblygu yn y Cyfnod Sylfaen? Sut roedd yr ysgol heddiw? – cynradd ac uwchradd
Bob blwyddyn, rydym wedi darparu canllawiau i rieni a gofalwyr plant ar ddiwedd eu blwyddyn cyntaf yn y Cyfnod Sylfaen, dysgwyr ar ddiwedd Blynyddoedd 2 a 6 mewn ysgol gynradd a’r rhai ar ddiwedd Blwyddyn 9 mewn ysgol uwchradd.
Mae ymchwil ar ymgysylltu â rhieni wedi dangos bod nifer cynyddol o rieni a gofalwyr yn mynd ar-lein i gael gwybodaeth i helpu eu plant. O ganlyniad felly, byddwn yn ystyried lleihau nifer y copïau caled o’r cyhoeddiad hwn yn y dyfodol.
Os hoffai eich ysgol derbyn copïau caled dwyieithog o’r canllawiau diwygiedig eleni, a/neu fersiynau ieithoedd cymunedol ohonynt, ewch i dudalen Dysgu Cymru a llenwch ein ffurflen gais erbyn dydd Iau 25 Mai 2017 fan bellaf.
Daw'r newid i rym ar unwaith. Y cwbl y disgwylir i ysgolion ei ddarparu yw adroddiad naratif blynyddol i rieni/gofalwyr wedi'i seilio ar y Fframwaith yn y canlynol:
- Cymraeg, Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3
- Iaith, Llythrennedd a Sgiliau Cyfathrebu a Datblygiad Mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen.
Bydd y newid hwn yn effeithio ar bob ysgol.
Rydym eisiau eich barn ar y ffordd orau i weithredu'r system newydd i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn cau 9 Mehefin, 2017.
Profi gan ddefnyddwyr
ar gyfer Dysgu Cymru
Bydd
yr holiadur
byr hwn yn profi pa mor dda y mae'r safle wedi'i gynllunio, ac
yn ein helpu i sicrhau ei bod yn haws dod o hyd i'n dogfennau. Fel rhan o
ymdrechion i barhau i wella, efallai y byddwn yn anfon rhagor o holiaduron drwy
Dysg. Rydym yn gwerthfawrogi'ch help yn fawr!
Gwahoddir athrawon ac ymarferwyr i’n helpu i adnabod adnoddau cyfrwng Cymraeg newydd.
Y
diweddaraf am holl newyddion a datblygiadau addysg Llywodraeth Cymru.
Dilynwch
ni ar facebook.com/addysgcymru ac ar cyfrif Twitter @LlC_Addysg
Mae dros 500k o bobl wedi dechrau cwrs dysgu #Cymraeg ar Duolingo.
Ai Pennaeth ysgol ydych chi sydd â diddordeb mewn arweinyddiaeth er eich budd eich hunan, eich ysgol ac er budd y system addysg gyfan? Mae arnom angen eich help i hoelio sylw Academi Genedlaethol
Arweinyddiaeth Addysgol ar agweddau penodol. Gallwch wneud hynny drwy ddod i un o'r pedwar digwyddiad sy'n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru.
21 Mai yw Dydd Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd ar gyfer deialog a datblygu yr UN. Mae nifer o ffyrdd y gallai'ch ysgol ddathlu fellly darganfyddwch fwy a rhannwch eich gweithgareddau drwy bostio nhw ar cyfrif Twitter eich ysgol #dathluamrywiaethddiwylliannol.
Ydych chi wedi archebu eich lle ar gyfer CwrddHwb Aberhonddu eto? Bydd Aled Williams yn siarad am sut y mae adnoddau Hwb wedi caniatáu iddo ymgorffori’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn ei waith addysgu ar ein CwrddHwb Aberhonddu.
Pecyn newydd sbon sy'n helpu athrawon ac artistiaid i weithio gyda'i gilydd i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd drwy'r celfyddydau mynegiannol a sy'n dangos sut gall y celfyddydau creadigol ddarparu cyfleoedd sbardunol a chyfoethog i helpu athrawon.
Cyfle olaf i gofrestru ar gyfer hyfforddiant arolygwyr cymheiriaid
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Gwener, 26 Mai.
Rhaid i bob arolygydd cymheiriaid fynychu hyfforddiant Estyn yn yr haf i fod yn gymwys i arolygu o dan y fframwaith newydd o Fedi.
Cysylltwch â digwyddiadau@estyn.gov.uk neu ffoniwch 02920 446510 i sicrhau gwahoddiad os nad ydych wedi cael un.
Mae hyfforddiant ar gael yn Ne, De Orllewin, Canolbarth a Gogledd Cymru ar ddewis o ddyddiadau ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf, er bod rhywfaint o gyfyngiad ar nifer y lleoedd erbyn hyn.
Cyhoeddiad a grëwyd gan y Rhwydwaith Maethu yw GREATER EXPECTATIONS. Nod y cylchgrawn hwn yw cefnogi gofalwyr maeth ar sut i helpu’r plant dan eu gofal godi eu dyheadau academaidd a llwyddo yn yr ysgol.
|