|
|
Yn ddiweddar, ysgrifennodd Gweinidog y Gymraeg a
Dysgu Gydol Oes i benaethiaid ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig
a gynhelir, ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru am y canllawiau statudol
Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd. Gellir gweld copi o'r llythyr yma.
|
|
|
Sioeau Teithiol
Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol
Mae’r Academi Cenedlaethol Arweinyddiaeth
Addysgol er mwyn galluogi datblygu arweinyddiaeth o ansawdd uchel ar draws y
system. Rydym yn gwahodd penaethiaid ac arweinwyr eraill i'r sioeau teithiol sydd ar y gweill ar draws Cymru.
Bydd y rhain yn rhoi cyfle gwerthfawr i chi i helpu i lunio ffocws yr Academi.
|
|
|
Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad dysgu
digidol cenedlaethol ar agor!
Bydd y diwrnod yn cynnwys anerchiad agoriadol gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams; sgwrs cyweirnod gan John
Jackson o London Grid for Learning, gweithdai a marchnad digidol.
|
Bydd yr adnodd cymorth diagnostig ar gyfer y profion darllen a rhifedd cenedlaethol
ar gael yfory, 11 Mai. Bydd yr adnodd hwn yn helpu athrawon i ddadansoddi canlyniadau
profion rhifedd eu disgyblion ac yn mapio’u perfformiad ar sail y Fframwaith
Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.
Casglu Data Profion
Cenedlaethol Cymru
Y
dyddiad terfynol ar gyfer llwytho data ydi 7 Mehefin neu’r dyddiad a ddynodwyd gan
eich Awdurdod Lleol/Consortiwm.
Pan
fydd prawf olaf y cylch profion wedi’i weinyddu, rhaid i’r pennaeth cadarnhau
bod pob canllaw wedi ei dilyn. Rhaid llofnodi datganiad ar gyfer 2017 a’u
cyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 16 Mehefin.
Rydym
yn gwahodd penaethiaid yng Nghymru i enwebu un disgybl sy'n gweithio'n galed,
benderfynol ac uchelgeisiol ym mlwyddyn 10 neu 11 i gystadlu am le ar wythnos
profiad gwaith unigryw yn Llundain ym mis Gorffennaf 2017.
Rydym
am gael eich barn ar Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru)
2017 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Gyrchfannau) (Gweithgareddau
Rhagnodedig) (Cymru) 2017.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu
arolwg ar ganllawiau diogelu statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel, modiwlau e-ddysgu Diogelu cysylltiedig sydd ar Hwb ac anghenion hyfforddi Diogelu mewn ysgolion.
Mae’n
bosib y bydd rhywun yn cysylltu â chi i ofyn i chi ein helpu ni i asesu sut
mae’r polisi Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer presenoldeb yn yr ysgol wedi
‘i roi ar waith ar draws Cymru. Cynhelir y gwerthusiad rhwng 10 Ebrill a
31 Gorffennaf 2017.
Rydyn
ni wedi comisiynu ICF Consulting ac Arad Research i werthuso gweithrediad o
Hysbysiadau Cosb Benodedig.
Profi gan ddefnyddwyr
ar gyfer Dysgu Cymru
Bydd
yr holiadur
byr hwn yn profi pa mor dda y mae'r safle wedi'i gynllunio, ac
yn ein helpu i sicrhau ei bod yn haws dod o hyd i'n dogfennau. Fel rhan o
ymdrechion i barhau i wella, efallai y byddwn yn anfon rhagor o holiaduron drwy
Dysg. Rydym yn gwerthfawrogi'ch help yn fawr!
Y
diweddaraf am holl newyddion a datblygiadau addysg Llywodraeth Cymru.
Dilynwch
ni ar facebook.com/addysgcymru ac ar cyfrif Twitter @LlC_Addysg
Wythnos
i fynd tan ein CwrddHwb Maesteg. Archebwch eich lle nawr!
|