|
|
Yn
ddiweddar, ysgrifennodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i benaethiaid
ysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig a gynhelir, ac unedau cyfeirio disgyblion
yng Nghymru am y canllawiau statudol Cefnogi Dysgwyr
ag Anghenion Gofal Iechyd. Gellir gweld copi o'r llythyr yma
|
|
|
Sioeau Teithiol
Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol
Mae’r
Academi Cenedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol er mwyn
galluogi datblygu arweinyddiaeth o ansawdd uchel ar draws y system. Rydym yn
gwahodd penaethiaid ac arweinwyr eraill i'r sioeau teithiol sydd ar y gweill ar
draws Cymru. Bydd y rhain yn rhoi cyfle gwerthfawr i chi i helpu i lunio ffocws
yr Academi.
|
|
|
Mae cofrestru ar gyfer
y digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol ar agor! Bydd y diwrnod yn cynnwys
anerchiad agoriadol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams;
sgwrs cyweirnod gan John Jackson o London Grid for Learning, gweithdai a
marchnad digidol.
|
Bydd yr adnodd cymorth diagnostig ar gyfer y profion darllen a rhifedd cenedlaethol ar
gael yfory (11 Mai 2017). Bydd yr adnodd hwn
yn helpu athrawon i ddadansoddi canlyniadau profion rhifedd eu disgyblion ac yn
mapio’u perfformiad ar sail y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.
Casglu Data Profion Cenedlaethol Cymru
Y dyddiad terfynol ar gyfer llwytho
data ydi 7 Mehefin
neu’r dyddiad a ddynodwyd gan eich Awdurdod Lleol/Consortiwm.
Pan fydd prawf olaf y cylch profion
wedi’i weinyddu, rhaid i’r pennaeth cadarnhau bod pob canllaw wedi ei dilyn.
Rhaid llofnodi datganiad ar gyfer 2017 a’u cyflwyno i’r consortiwm perthnasol
erbyn 16 Mehefin.
Rydym
yn gwahodd penaethiaid yng Nghymru i enwebu un disgybl sy'n gweithio'n galed, benderfynol
ac uchelgeisiol ym mlwyddyn 10 neu 11 i gystadlu am le ar wythnos profiad
gwaith unigryw yn Llundain ym mis Gorffennaf 2017.
Rydym
am gael eich barn ar Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am
Gyrchfannau) (Gweithgareddau Rhagnodedig) (Cymru) 2017.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu arolwg ar ganllawiau
diogelu statudol Cadw
Dysgwyr yn Ddiogel, modiwlau
e-ddysgu Diogelu cysylltiedig sydd ar Hwb ac
anghenion hyfforddi Diogelu mewn ysgolion.
Mae’n
bosib y bydd rhywun yn cysylltu â chi i ofyn i chi ein helpu ni i asesu sut
mae’r polisi Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer presenoldeb yn yr ysgol wedi
‘i roi ar waith ar draws Cymru. Cynhelir y gwerthusiad rhwng 10 Ebrill
a 31 Gorffennaf 2017.
Rydyn
ni wedi comisiynu ICF Consulting ac Arad Research i werthuso gweithrediad o
Hysbysiadau Cosb Benodedig.
Profi gan ddefnyddwyr ar gyfer Dysgu Cymru
Bydd yr holiadur
byr hwn yn profi pa mor dda y mae'r safle wedi'i gynllunio,
ac yn ein helpu i sicrhau ei bod yn haws dod o hyd i'n dogfennau. Fel rhan o ymdrechion i barhau i wella,
efallai y byddwn yn anfon rhagor o holiaduron drwy Dysg. Rydym yn
gwerthfawrogi'ch help yn fawr!
Y
diweddaraf am holl newyddion a datblygiadau addysg Llywodraeth Cymru.
Dilynwch ni ar facebook.com/addysgcymru ac ar cyfrif Twitter @LlC_Addysg
Wythnos i fynd tan ein CwrddHwb Maesteg. Archebwch eich
lle nawr!
Mae’r cyfnod i ymgeisio ar gyfer y Gwobrau yn cau ar 17 Mai 2017.
Mae Gwobrau eleni’n edrych i ddathlu cyflawniadau athrawon Almaeneg ar draws y DU.
|