eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 4 Mai 2017 (Rhifyn 166)

4 Mai 2017• Rhifyn 166

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Tests130130 3

Kirsty Williams yn esbonio’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol Newydd

Mae ffenestr y profion ar gyfer ysgolion cynradd yn agor heddiw. A fyddech cystal â rhannu’r ddolen yma ar wefan eich ysgol a rhoi gwybod i rieni a gofalwyr amdanynt drwy e-bost neu gylchlythyr. 

Gwyliwch allan am bostau'r sianeli Facebook a Twitter Addysg Cymru. 

DCFnotwhatyouthink9090

Post newydd ar flog Cwricwlwm i Gymru

“Oes angen technoleg i gyflawni pob un o’r sgiliau cymhwysedd digidol?” Nac oes

professionalstandards9090

Athrawon – Rydym eisiau clywed eich barn

Eich cyfle olaf i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gyfer safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.   Nod y safonau newydd yw datblygu cynhwysedd arweinyddiaeth a chefnogi ymarferwyr i barhau i ddatblygu drwy gydol eu gyrfa. Mae’r ymgynghoriad yn cau yfory.

educationwalescolours9090

Newyddion Addysg Llywodraeth Cymru

Y diweddaraf am holl newyddion a datblygiadau addysg Llywodraeth Cymru.

Dilynwch ni ar facebook.com/addysgcymru ac ar cyfrif Twitter @LlC_Addysg

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Trefniadau Gwirio Allanol a Chymedroli Clystyrau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet Ddatganiad ar ddeilliannau  a terfyniad i’r rhaglen Gwirio Allanol wedi dwy flynedd o weithredu llwyddiannus.

Daeth cymedroli clystyrau i fod yn ofyniad statudol ym mis Medi 2015 a mae pob ysgol yng Nghymru i gymryd rhan yn nhrefniadau cymedroli clystyrau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3. 

Gwerthuso’r Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyhoeddwyd am golli’r ysgol yn rheolaidd

Mae’n bosib y bydd rhywun yn cysylltu â chi i ofyn i chi ein helpu ni i asesu sut mae’r polisi Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer presenoldeb yn yr ysgol wedi ‘i roi ar waith ar draws Cymru. Cynhelir y gwerthusiad  rhwng 10 Ebrill tan 31 Gorffennaf 2017.

Rydyn ni wedi comisiynu ICF Consulting ac Arad Research i werthuso gweithrediad o Hysbysiadau Cosb Benodedig.

Ymgynghoriad: pennau adrenalin argyfwng mewn ysgolion  

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal ymgynghoriad ar chwistrellwyr adrenalin awtomatig mewn ysgolion ar y ddolen isod. Mae hyn yn effeithio ar ysgolion yng Nghymru a hoffwn annog eich barn.  

Mae’r ymgynghoriad yn cau yfory 5 Mai 2017.

Rydym am glywed eich barn ar sut orau i weithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd

Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 9 Mehefin 2017.

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: arferion gorau

Mae canllawiau arferion gorau newydd ar berfformiad plant ar gael. Gallwch gael gafael ar y ddogfen ymhlith cyfres o ganllawiau ar berfformiad plant, sydd ar gael ar wefan Dysgu Cymru.

hwb

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017 – 21 Mehefin 2017

Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol yn agor ddydd Llun nesaf. Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad

Maesteg HwbMeet – 16 Mai

Ydych chi wedi archebu eich lle ar gyfer CwrddHwb Maesteg eto? Archebwch nawr!

Adnoddau

Adnoddau ar gyfer ysgolion a cholegau – adnabod anghenion 2017

Gwahoddir athrawon ac ymarferwyr i’n helpu i adnabod adnoddau cyfrwng Cymraeg newydd. 

Wythnos Llyfrau Plant

Mae'n Wythnos Llyfrau Plant! Pam na rhannu eich adnoddau gydag athrawon eraill yn y gymuned Hwb. Defnyddiwch ein Canllaw Creu a Rhannu i weld sut y gallwch greu adnoddau ar Hwb.

Pori Drwy Stori – Adnodd tymor yr Haf Fy Llyfr

Helpwch y plant sydd yn eich dosbarth Derbyn i deimlo fel awduron go iawn y tymor hwn drwy greu’u llyfr eu hunain, gan ddefnyddio deunyddiau gwneud llyfr Pori Drwy Stori. Gallwch ddarganfod syniadau newydd ac ysbrydoliaeth yn ein canllaw a phecyn ar lein i athrawon.

Anoddau Diwrnod VE

Diwrnod VE yw 8 Mai. Edrychwch ar ein hadnoddau ail ryfel byd ar bynciau megis sut brofiad oedd ar gyfer menywod a phlant yn ystod y rhyfel (CA2/3).

Chwedlau Rhyngweithiol

Mae casgliad hwn o weithgareddau digidol rhyngweithiol yn seiliedig ar 12 chwedlau gwerin Gymreig cymorth dysgwyr yr iaith Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen a CA2.

newyddion addysg arall

Diwrnod Cau Cystadleuaeth Y Criw Mentrus - 8 Mai

Mae’ dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer Cystadleuaeth Ysgol Gynradd Genedlaethol ‘Y Criw Mentrus’ eleni wedi cael ei ymestyn i’r 8 Fai 2017.   

Mae pob gweithgaredd menter rydych wedi'i wneud ers mis Ionawr 2016 yn gymwys. Mae disgyblion yn dysgu sgiliau menter fel gwaith tîm a chreadigrwydd, wrth ddatblygu eu gallu llythrennedd a rhifedd, sgiliau digidol a sgiliau mwy meddal fel datrys problemau.  

Cyfle dysgu proffesiynol i athrawon, a ariennir yn llawn 

Mae Cysylltu Ystafelloedd Dosbarth yn darparu cyrsiau dysgu proffesiynol i athrawon i’w helpu i arfogi myfyrwyr gyda rhai o'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn cymdeithas fyd-eang (a elwir hefyd yn sgiliau 'ehangach' neu 'craidd'). Mae dau gwrs hyfforddi yn cael eu darparu yn Gymraeg neu yn Saesneg ledled Cymru, gan ddarparwr cymwys y Cyngor Prydeinig, sef Meddwl, Dysgu, Herio. Gwyliwch ddarn fideo Cysylltu Ystafelloedd Dosbarth

'Siarad yn Broffesiynol' 2017

8 Mai 2017, Neuadd y Ddinas Caerdydd

Mae Cyngor y Gweithlu'n gwahodd 4 comisynydd Cymru i sôn am ddyfodol addysg Cymru a’r rôl y gallant eu chwarae wrth siapio polisi addysg. Darllenwch fwy i weld pwy fydd brif siaradwyr y llwyfan

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews