eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 4 Mai 2017 (Rhifyn 493)

4 Mai 2017 • Rhifyn 493

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Tests130130

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – Canllawiau i Rieni a Gofalwyr

A fyddech cystal â rhannu’r ddolen yma ar wefan eich ysgol a rhoi gwybod i rieni a gofalwyr amdanynt drwy e-bost neu gylchlythyr. 

DCFnotwhatyouthink9090

Post newydd ar flog Cwricwlwm i Gymru

“Oes angen technoleg i gyflawni pob un o’r sgiliau cymhwysedd digidol?” Nac oes!

professionalstandards9090

Athrawon – eich cyfle olaf i leisio eich barn

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad ar gyfer safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.   Nod y safonau newydd yw datblygu cynhwysedd arweinyddiaeth a chefnogi ymarferwyr i barhau i ddatblygu drwy gydol eu gyrfa. Mae’r ymgynghoriad yn cau heddiw.

educationwalescolours9090

Newyddion Addysg Llywodraeth Cymru

Y diweddaraf am holl newyddion a datblygiadau addysg Llywodraeth Cymru.

Dilynwch ni ar facebook.com/addysgcymru ac ar cyfrif Twitter @LlC_Addysg

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Trefniadau Gwirio Allanol a Chymedroli Clystyrau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet Ddatganiad ar ddeilliannau  a terfyniad i’r rhaglen Gwirio Allanol wedi dwy flynedd o weithredu llwyddiannus.

Daeth cymedroli clystyrau i fod yn ofyniad statudol ym mis Medi 2015 a mae pob ysgol yng Nghymru i gymryd rhan yn nhrefniadau cymedroli clystyrau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3. 

Athrawon a chynghorwyr: Cofrestrwch ar gyfer cynhadledd UCAS a Cymwysterau Cymru!

Os ydych yn athro neu'n gynghorwr sy'n gweithio gyda myfyrwyr yng Nghymru, mae tocynnau ar gael o hyd ar gyfer digwyddiadau UCAS am ddim yng Ngogledd a De Cymru. Caiff pynciau megis Bagloriaeth Cymru, newidiadau i gymwysterau yng Nghymru a chymwysterau galwedigaethol eu trafod yn y digwyddiadau a noddir gan Cymwysterau Cymru ar 15 ac 17 Mai. 

Gwerthuso’r Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyhoeddwyd am golli’r ysgol yn rheolaidd

Mae’n bosib y bydd rhywun yn cysylltu â chi i ofyn i chi ein helpu ni i asesu sut mae’r polisi Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer presenoldeb yn yr ysgol wedi ‘i roi ar waith ar draws Cymru. Cynhelir y gwerthusiad  rhwng 10 Ebrill tan 31 Gorffennaf 2017.

Rydyn ni wedi comisiynu ICF Consulting ac Arad Research i werthuso gweithrediad o Hysbysiadau Cosb Benodedig.

Ymgynghoriad: pennau adrenalin argyfwng mewn ysgolion  

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal ymgynghoriad ar chwistrellwyr adrenalin awtomatig mewn ysgolion ar y ddolen isod. Mae hyn yn effeithio ar ysgolion yng Nghymru a hoffwn annog eich barn.  Mae’r ymgynghoriad yn cau yfory, 5 Mai 2017.

Rydym am glywed eich barn ar sut orau i weithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd

Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 9 Mehefin 2017

Enwebwch fyfyriwr ar gyfer cystadleuaeth Wythnos Llundain 2017

Rydym yn gwahodd penaethiaid yng Nghymru i enwebu un disgybl sy'n gweithio'n galed, benderfynol ac uchelgeisiol ym mlwyddyn 10 neu 11 i gystadlu am le ar wythnos profiad gwaith unigryw yn Llundain ym mis Gorffennaf 2017. 

Cadw perfformwyr ifanc yn ddiogel: arferion gorau

Mae canllawiau arferion gorau newydd ar berfformiad plant ar gael. Gallwch gael gafael ar y ddogfen ymhlith cyfres o ganllawiau ar berfformiad plant, sydd ar gael ar wefan Dysgu Cymru.

Ymgyrch wybodaeth A* wrth i gyrsiau TGAU yng Nghymru gael eu diwygio

Mae cyrsiau TGAU yng Nghymru yn newid - ac mae Cymwysterau Cymru yn lansio ymgyrch wybodaeth i wneud yn siŵr y caiff y diwygiadau eu deall yn llawn - darllenwch fwy.

Ceisio barn ysgolion a dysgwyr

Mae’r arolwg ar agor tan 5 Gorffennaf

Mae Cymwysterau Cymru yn gwahodd canolfannau, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill i gymryd rhan mewn arolwg ar ei ddeilliannau rheoleiddio a’r broses o fapio Amodau. Mae’r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod ei weithgareddau rheoleiddio yn canolbwyntio ar ddysgwyr a’r system gymwysterau yng Nghymru. 

diweddariadau ôl-16

Pedwar o arbenigwyr o Gymru i gynrychioli’r du yng nghystadleuaeth sgiliau fwya’r byd

Mae pedwar o gystadleuwyr o Gymru wedi’u dewis i gynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth sgiliau fwya’r byd, WorldSkills, a gynhelir yn Abu Dhabi fis Hydref eleni.

Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017

Dydd Gwener 20 Hydref 2017 yn y Celtic Manor, Casnewydd

Mae ffurflenni cais ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar gael yn awr.  Mae’r Gwobrau’n dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu sy’n seiliedig ar waith sydd wedi rhagori wrth gyfrannu y Rhaglen Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais fydd hanner dydd ar 23 Mehefin 2017.

Ffigurau newydd yn dangos bod nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru wedi lleihau yn ystod 2016

Mae’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, wedi croesawu ffigurau newydd sy’n dangos lleihad yn nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yn ystod 2016.

hwb

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017 – 21 Mehefin 2017

Mae cofrestru ar gyfer y digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol yn agor ddydd Llun nesaf. Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad

Maesteg HwbMeet – 16 Mai

Hoffech chi weld arfer dda athrawon sy’ ar flaen y gad wrth ddefnyddio technoleg? Cyfarfodydd anffurfiol yw CwrddHwb ar gyfer y rheini sy’n chwilio am syniadau arloesol ar gyfer addysgu a dysgu digidol. Archebwch eich lle ar gyfer CwrddHwb Maesteg nawr!

Anoddau Diwrnod VE

Diwrnod VE yw 8 Mai. Edrychwch ar ein hadnoddau ail ryfel byd ar bynciau megis sut brofiad oedd ar gyfer menywod a phlant yn ystod y rhyfel (CA2/3).

Eich Clwb Eich Ffordd: Llythrennedd Digidol

Cefnogi Fframwaith Cymhwysedd Digidol, mae'r adnodd hwn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau llythrennedd ddigidol mewn clwb ffilm neu ystafell ddosbarth (CA3/4).

newyddion addysg arall

Gwobrau Athrawon Almaeneg 2017

Mae Gwobrau eleni’n edrych i ddathlu cyflawniadau athrawon Almaeneg ar draws y DU. Mae’r cyfnod i ymgeisio ar gyfer y Gwobrau yn cau ar 17 Mai 2017.

Cyfle dysgu proffesiynol i athrawon, a ariennir yn llawn 

Mae Cysylltu Ystafelloedd Dosbarth yn darparu cyrsiau dysgu proffesiynol i athrawon i’w helpu i arfogi myfyrwyr gyda rhai o'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn cymdeithas fyd-eang (a elwir hefyd yn sgiliau 'ehangach' neu 'craidd'). Mae dau gwrs hyfforddi yn cael eu darparu yn Gymraeg neu yn Saesneg ledled Cymru, gan ddarparwr cymwys y Cyngor Prydeinig, sef Meddwl, Dysgu, Herio. Gwyliwch ddarn fideo Cysylltu Ystafelloedd Dosbarth

'Siarad yn Broffesiynol' 2017

8 Mai 2017, Neuadd y Ddinas Caerdydd

Mae Cyngor y Gweithlu'n gwahodd 4 comisynydd Cymru i sôn am ddyfodol addysg Cymru a’r rôl y gallant eu chwarae wrth siapio polisi addysg. Darllenwch fwy i weld pwy fydd brif siaradwyr y llwyfan

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews