|
|
Darllenwch erthygl yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n
esbonio’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol newydd a fydd yn chwarae rhan
bwysig yn helpu disgyblion yng Nghymru cyrraedd eu potensial llawn.
|
Mae
Llywodraeth y DU yn cynnal ymgynghoriad ar chwistrellwyr adrenalin awtomatig
mewn ysgolion ar y ddolen isod. Mae hyn yn effeithio ar ysgolion yng Nghymru a
hoffwn annog eich barn.
Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 5 Mai 2017.
Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 9 Mehefin
2017.
Mae
cofrestru ar gyfer y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol yn agor ar 8 Mai.
Thema'r digwyddiad eleni yw ‘Dulliau creadigol o weithredu’r Fframwaith
Cymhwysedd Digidol'. Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad.
P'un
ai ydych dysgwyr 10 ac 11 oed yn caru cod, tynnu llun neu ysgrifennu stori, mae BAFTA YGD yn rhoi
cipolwg ar fyd creu gemau, yn ogystal a chyfle i ennill profiadau unigryw gyda
gwneuthurwyr gêm blaenllaw trwy eu cystadleuaeth flynyddol.
Hwb - Tuag at ddyfodol
digidol
Mae'r
platfform dysgu digidol arloesol ar gael erbyn hyn i bob athro cyflenwi yng
Nghymru.
Fel
athro cyflenwi, ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan y posibiliadau y gall
technolegau digidol eu cynnig i ddysgwyr? Os ydych, cliciwch yma i wneud cais am fynediad llawn at blatfform dysgu digidol Hwb (dolen allanol).
Ydych
chi wedi archebu eich lle ar gyfer CwrddHwb Maesteg eto? Bydd Ysgol Gynradd
Darren Park enillydd Gwobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2016
yn cyflwyno eu prosiect Sioe Deithiol Minecraft. Peidiwch â cholli’r cyfle! Archebwch nawr!
Hoffech
chi helpu esbonio Hwb i rieni a gofalwyr? Mae'r daflen wybodaeth hon yn rhoi
crynodeb cyflym o ddiben Hwb a phob un o'i nodweddion. Lawrlwythwch gopi nawr!
Gwahoddir athrawon ac ymarferwyr i’n helpu i adnabod adnoddau cyfrwng Cymraeg newydd.
Helpwch y
plant sydd yn eich dosbarth Derbyn i deimlo fel awduron go iawn y tymor hwn
drwy greu’u llyfr eu hunain, gan ddefnyddio deunyddiau gwneud llyfr Pori Drwy
Stori. Gallwch ddarganfod syniadau newydd ac ysbrydoliaeth yn ein canllaw a phecyn ar lein i athrawon.
Dyddiad cau ar gyfer eich ceisiadau - 31 Mai 2017
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans
Cymru’n gwahodd pob ysgol uwchradd yng Nghymru i wneud cais i hyfforddwyr
gwirfoddol ymweld â’u hysgol i ddysgu CPR achub bywyd. Cofrestrwch heddiw!
Mae
Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) newydd lansio bwrsari newydd sbon ar gyfer
colegau ac ysgolion.
Bydd
y bwrsari hwn yn rhoi cyfle i ysgolion a cholegau, a fyddai fel arall yn colli
allan, i ymgeisio am fwrsari o rhwng £50 a £300 i’w ddefnyddio ar gyfer cost
mynediad, dysgu a hyd yn oed llety yn CyDA. Cysylltwch ag education@cat.org.uk
am ragor o wybodaeth am y bwrsari, ffurflen gais, hyfforddiant ac archebu.
03/05/2017-5:30pm-7:30pm, Porth Eirias, Bae Colwyn
Bydd
y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar addysg plant a phobl ifanc sydd wedi bod
mewn gofal, a bydd o ddiddordeb i athrawon, gofalwyr maeth, gweithwyr
cymdeithasol ac ymarferwyr.
|