Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Ebrill 2017

Ebrill 2017 • Rhifyn 0005

 
 

Prosiect arloesi bwyd gwerth £21 miliwn i ddiogelu miloedd o swyddi yng Nghymru

Prosiect Helix

Newyddion

Andy Richardson

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru - Nodyn gan y Cadeirydd

Bu’r misoedd diwethaf yn rhai prysur i’r Bwrdd, ynghyd â’r diwydiant yn gyffredinol yng Nghymru, a bu’r aelodau yn mynd ati i roi nifer o bethau ar waith ers ein cyfarfod diwethaf ar ddiwedd Mawrth, pan gawsom sawl adroddiad cynnydd ar ffrydiau gwaith allweddol megis Busnes a Buddsoddi; Pobl & Sgiliau; Cwsmeriaid a Marchnadoedd.

Clwstwr Diodydd

Cynnig llwncdestun i lwyddiant: Cyhoeddi Clwstwr Diodydd Cymru

Bydd cynhyrchwyr sudd a busnesau diodydd meddal yn ymuno â bragwyr a gwinllannoedd mewn clwstwr diodydd newydd sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru.

Tueddiadau Bwud a Diod

Tueddiadau Bwyd a Diod 2017

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn dadansoddi, er mwyn deall y farchnad adwerthu, i weld cyfleoedd i ddatblygu yn y dyfodol ac i roi gwaelodlin o ddata’r farchnad i gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru.

Heathrow

Uwchgynhadledd Fusnes Heathrow

Mae Llywodraeth Cymru a Heathrow Airport Ltd (HAL) yn eich gwahodd i gofrestru am Uwchgynhadledd Fusnes gyntaf i gysylltu busnesau o Gymru â chyfleoedd yng nghadwyn gyflenwi un o feysydd awyr prysura’r byd. Bydd yr Uwchgynhadledd yn cynnig cyfleoedd newydd i dyfu ar lefel leol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Wrap Cymru

Bwyd yw eich busnes, peidiwch â’i daflu i ffwrdd

Mae WRAP Cymru yn chwilio am amrywiaeth o fusnesau lletygarwch i dreialu rhaglen newydd sbon i helpu busnesau bwyd arbed arian.

Peas Please

Menter “Pys i Bawb”

Nod menter “Pys i Bawb” yw dod â ffermwyr, manwerthwyr, cadwyni o fwytai a siopau bwyd brys, arlwywyr, proseswyr ac adrannau’r llywodraeth ynghyd i gydweithio i'w gwneud yn haws i bawb fwyta llysiau. Cynhelir yr uwchgynhadledd gan y London Produce Show yng ngwesty Grosvenor yn Park Lane, Llundain, yn gweithredu fel eiriolaeth i fusnesau mawr a chyrff y llywodraeth. Bydd yr uwchgynhadledd yn foment addo, pan ddisgwylir y bydd busnesau ac eraill hefyd yn gwneud ymrwymiadau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma ynghyd â’r holl wybodaeth am y ffrydiau gwaith.

Digwyddiadau

Calendr Digwyddiadau
Digwyddiadau

Calendr Digwyddiadau ar gyfer 2017 - 2018

Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth ein calendr digwyddiadau.

FFair Bwyd a Diod

Speciality Fine Food Fair, Llundain

Speciality Fine Food Fair, Llundain yw’r digwyddiad masnach mwyaf blaenllaw yn y DU sy’n targedu prynwyr bwyd a diod o’r sector bwydydd da ac arbenigol.

Anuga

Anuga - Arddangosfa Masnach Bwyd a Diod y Byd

Prif arddangosfa masnach bwyd a diod y Byd a gynhelir bob dwy flynedd, a cyfle euraid i gwmnïau o Gymru sy’n chwilio am gyfleoedd newydd i allforio ac i’r busnesau hynny sy’n edrych am gyfle i ddatblygu eu masnach presennol gyda phrynwyr ledled y byd.

Superfast Broadband

Dosbarth Meistr Bwyd a Diod Cyflymu Cymru i Fusnesau

Galw ar bob busnes bwyd a diod! Ymunwch â Cyflymu Cymru i Fusnesau am ddosbarth meistr rhyngweithiol pedair awr o hyd sydd wedi'i gynllunio'n benodol i fusnesau sy'n gweithredu yn y diwydiant bwyd a diod.

Cyfryngau cymdeithasol

Celtic Manor
Blas Cymru

BlasCymru/TasteWales

Gweler ein Bwrdd ‘Storify’ sy'n crynhoi ein gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol yn ystod y digwyddiad Blas Cymru yn y Celtic Manor.

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilyn ar-lein: @BwydaDiodCymru