eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru 25 Ebrill 2017 (Rhifyn 492)

25 Ebrill 2017 • Rhifyn 492

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Tests130130

Kirsty Williams yn esbonio’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol Newydd

Darllenwch erthygl yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n esbonio’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol newydd a fydd yn chwarae rhan bwysig yn helpu disgyblion yng Nghymru cyrraedd eu potensial llawn.

profstandards9090

Athrawon – Rydym eisiau clywed eich barn

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad ar gyfer safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.   Nod y safonau newydd yw datblygu cynhwysedd arweinyddiaeth a chefnogi ymarferwyr i barhau i ddatblygu drwy gydol eu gyrfa. Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 4 Mai 2017.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Mesurau cyson ar gyfer dysgu ôl-16 yng Nghymru

Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 1 Mai 2017

Ymgynghoriad: pennau adrenalin argyfwng mewn ysgolion  

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal ymgynghoriad ar chwistrellwyr adrenalin awtomatig mewn ysgolion ar y ddolen isod. Mae hyn yn effeithio ar ysgolion yng Nghymru a hoffwn annog eich barn.  Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 5 Mai 2017.

Rydym am glywed eich barn ar sut orau i weithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd

Dyddiad cau yr ymgynghoriad: 9 Mehefin 2017

ExChange: Digwyddiadau lansio Canolfan Adnoddau Gofal ac Addysg

Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar addysg plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, a bydd  o ddiddordeb i athrawon, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr. Cewch fwy o wybodaeth yn un o’n digwyddiadau lansio;

  • 26/04/2017-5:30pm-7:30pm-Prifysgol Caerdydd
  • 03/05/2017-5:30pm-7:30pm-Porth Eirias, Bae Colwyn

Enwebwch fyfyriwr ar gyfer cystadleuaeth Wythnos Llundain 2017

Rydym yn gwahodd penaethiaid yng Nghymru i enwebu un disgybl sy'n gweithio'n galed, benderfynol ac uchelgeisiol ym mlwyddyn 10 neu 11 i gystadlu am le ar wythnos profiad gwaith unigryw yn Llundain ym mis Gorffennaf 2017. 

Gallai'ch disgyblion chi fod ynghlwm yn nyfodol â dyfodol gemau?

P'un ai ydyn nhw'n caru cod, tynnu llun neu ysgrifennu stori, mae BAFTA YGD yn rhoi cipolwg ar fyd creu gemau, yn ogystal a chyfle i ennill profiadau unigryw gyda gwneuthurwyr gêm blaenllaw trwy eu cystadleuaeth flynyddol.

diweddariadau ôl-16

Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2017

Dydd Gwener 20 Hydref 2017 yn y Celtic Manor, Casnewydd

Mae ffurflenni cais ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru Dosbarthiadau ar gael yn awr.  Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi’u llenwi fydd hanner dydd ar 23 Mehefin 2017.

Amser yn rhedeg allan i gystadlu am wobrau VQ eleni 

Mae’r amser yn prinhau i ganfod dysgwyr, cyflogwyr a hyfforddwyr sy’n serennu ym mhob cwr o Gymru, a hynny gan fod 26 Ebrill – y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau i Wobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) eleni – yn dynesu’n gyflym.

hwb

Hwb - Tuag at ddyfodol digidol

Mae'r platfform dysgu digidol arloesol ar gael erbyn hyn i bob athro cyflenwi yng Nghymru. 

Fel athro cyflenwi, ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan y posibiliadau y gall technolegau digidol eu cynnig i ddysgwyr? Os ydych, cliciwch yma i wneud cais am fynediad llawn at blatfform dysgu digidol Hwb (dolen allanol). 

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017 – 21 Mehefin 2017

Mae cofrestru ar gyfer y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol yn agor ar 8 Mai. Thema'r digwyddiad eleni yw ‘Dulliau creadigol o weithredu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol'. Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad.

Office 365 – profiad fideo deinamig

Mae Office 365 Video ar gael nawr ar gyfer eich ysgol drwy Hwb! Gallwch lanlwytho, rhannu a chwarae fideo yn ddiogel yn eich ysgol. Gall athrawon fanteisio ar y datblygiad cyffrous hwn i ‘fflipio’ eu hystafell ddosbarth a chaniatáu i ddysgwyr ffrydio nifer o fideos sydd wedi’u lanlwytho gan athrawon ar unrhyw ddyfais sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd. Peidiwch ag anghofio edrych ar sianeli fideo eich awdurdod lleol a’ch consortia – maen nhw i gyd ar gael ar Hwb.

Maesteg HwbMeet – 16 Mai

Ydych chi wedi archebu eich lle ar gyfer CwrddHwb Maesteg eto? Bydd Ysgol Gynradd Darren Park enillydd Gwobr Disgyblion y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol 2016 yn cyflwyno eu prosiect Sioe Deithiol Minecraft. Peidiwch â cholli’r cyfle! Archebwch nawr!

Hwb gwybodaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr

Hoffech chi helpu esbonio Hwb i rieni a gofalwyr? Mae'r daflen wybodaeth hon yn rhoi crynodeb cyflym o ddiben Hwb a phob un o'i nodweddion. Lawrlwythwch gopi nawr!

adnoddau ar HWB

Gweithgareddau Llythrenedd Film

Pecyn llythrennedd yn darparu amrywiaeth o daflenni gwaith ar gyfer dadansoddi i helpu i edrych ar y stori a'r cymeriadau o fewn unrhyw ffilm sy'n cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau dadansoddi a dehongli.

Diwydiant llechi Gogledd Cymru

Gweithgareddau a syniadau ar gyfer CA3 a 4 gan ddefnyddio eitemau gwreiddiol i ddarparu trosolwg o hanes y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru.

newyddion arall

Jornadas de español – ar gyfer athrawon yr iaith Sbaeneg (Ysgolion Cynradd ac Uwchradd)

Dydd Sadwrn 13 Mai, Ysgol Ieithoedd Tramor Modern, Prifysgol Caerdydd

Mae Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen, sydd newydd sefydlu swyddfa ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cynnig diwrnod o hyfforddiant am ddim i athrawon yr iaith Sbaeneg ar 13 Mai. Lle i 60 o athrawon yn unig sydd ar y cwrs, felly cofrestrwch cyn gynted ag y gallwch! 

Bwrsari CyDA yn agored i grwpiau ysgol a choleg

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CyDA) newydd lansio bwrsari newydd sbon ar gyfer colegau ac ysgolion.

Bydd y bwrsari hwn yn rhoi cyfle i ysgolion a cholegau, a fyddai fel arall yn colli allan, i ymgeisio am fwrsari o rhwng £50 a £300 i’w ddefnyddio ar gyfer cost mynediad, dysgu a hyd yn oed llety yn CyDA. Cysylltwch ag education@cat.org.uk am ragor o wybodaeth am y bwrsari, ffurflen gais, hyfforddiant ac archebu.   

Ydych chi eisiau data am iechyd a lles eich myfyrwyr yn rhad ac am ddim? 

Mae recriwtio ysgolion uwchradd ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn agored tan ddiwedd Mai. Ymunwch nawr.

Mae’r Rhwydwaith Gymreig hon yn dod ag ysgolion, ymchwilwyr a gwneuthurwyr polisi at ei gilydd i wella iechyd pobl ifanc. Mae 170 + o ysgolion yn aelodau yn barod, felly peidiwch â cholli allan!

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews