eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru 27 Mawrth 2017 (Rhifyn 489)

27 Mawrth • Rhifyn 489

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

musicinstruments9090

Cyllid newydd ar gyfer offerynnau cerdd mewn ysgolion - Kirsty Williams

Heddiw, mae'r Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bydd pob cyngor yng Nghymru yn cael £10,000 yn ychwanegol i brynu offerynnau cerdd i ddisgyblion.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Angen arbenigwyr pwnc (Cymwysterau Cyffredinol)

Mae Cymwysterau Cymru yn awyddus i gomisiynu arbenigwyr pwnc sy'n meddu ar wybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad o ddysgu a/neu asesu pynciau penodol.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cymwysterau Cymru

Offeryn Mapio ar gyfer Fframwaith Cymhwysedd Digidol y Cwricwlwm Newydd

Mae Arloeswyr Digidol wedi datblygu offeryn mapio newydd ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Mae'n caniatáu i ysgolion groesgyfeirio gwaith addysgu cyfredol mewn pynciau ac ar gyfer gwahanol flynyddodd ag elfennau o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, er mwyn dangos lefelau o ran maint o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol sydd wedi'i gynnwys. Mae hynny yn ei dro yn eu helpu i gynllunio i gynnwys yr ystod lawn o sgiliau ar gyfer pob elfen dros y flwyddyn. Bydd yr offeryn yn helpu ysgolion i rannu'r gwaith o gynnwys elfennau'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol mewn modd mwy cytbwys ar draws yr ysgol hefyd.

Profi gan ddefnyddwyr ar gyfer Dysgu Cymru

Bydd yr holiadur byr hwn yn profi pa mor dda y mae'r safle wedi'i gynllunio, ac yn ein helpu i sicrhau ei bod yn haws dod o hyd i'n dogfennau.  Fel rhan o ymdrechion i barhau i wella, efallai y byddwn yn anfon rhagor o holiaduron drwy Dysg. Rydym yn gwerthfawrogi'ch help yn fawr!

Penodiadau cyhoeddus - cadeirydd a dirprwy gadeiryddion Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ymroddgar a medrus ar gyfer rôl y cadeirydd a dirprwy gadeiryddion Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg ("y bwrdd"). Yn cau 31 Mawrth

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

Ydy eich ysgol neu goleg wedi cynnal rhai prosiectau digidol diddordol eleni? Beth am wneud cais ar gyfer Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 7 Ebrill am 4.00 pm.

Athrawon: Rydym eisiau eich barn

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad ar gyfer safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.  Darganfyddwch  be fydd y safonau newydd yn ei olygu i chi a phryd y byddant yn gymwys.

hwb

E-byst diogel – Amgryptio Negeseuon Hwb

Amgryptio Negeseuon Hwb (HME) yw un o’r tri rheolydd ar lefel uwch sydd wedi’u hamlinellu yn ein dogfen canllawiau ar ddiogelwch gwybodaeth all gael eu defnyddio i ychwanegu haen arall o ddiogelwch i e-byst. Dim ond e-byst sy’n cael eu hanfon o gyfrif Hwbmail i gyfrif e-bost allanol sy’n cael eu diogelu gan HME. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r Canllawiau ar ddiogelu HwbMail.

Digwyddiadau CwrddHwb tymor yr haf

Mwy am yr offer sydd gan Hwb i’w cynnig ac enghreifftiau o arferion gorau wrth ddefnyddio technoleg yn yr ystafell ddosbarth. Archebwch eich lle nawr ar gyfer un o'n digwyddiadau CwrddHwb tymor yr haf

  • Maesteg - 16 Mai
  • Aberhonddu - 13 Mehefin

adnoddau

Darwinian Ifanc – adnodd am ddim ar gyfer yr ystafell ddosbarth

Cylchgrawn rhyngwladol ar gyfer disgyblion ysgol mewn gwyddoniaeth, hanes naturiol, mathemateg, peirianneg a mentergarwch.  Yn eich ysbrydoli i wneud prosiectau a cyhoeddi eich gwaith, syniadau a profiadau eich hun.

Lleisiau Synthetig

Mae lleisiau synthetig Cymraeg ar gael am ddim i ysgolion, unigolion a sefydliadau anfasnachol drwy ebostio cymru@rnib.org.uk. Datblygodd RNIB y lleisiau gyda chwmni meddalwedd testun i lafar IVONA, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae lleisiau Geraint a Gwyneth yn ddefnyddiol ar gyfer meddalwedd darllen sgrin a defnyddio cyfrifiaduron i ddarllen gwefannau a dogfennau. 

Ap Geiriaduron

Mae cynnwys Y Termiadur Addysg ar gael am ddim o fewn yr Ap Geiriaduron o’r App Store, Google Play a’r Amazon App Store. Mae’r Ap Geiriaduron yn eich galluogi i chwilio a throsi miloedd o dermau addysg safonol a geirfa gyffredinol yn Saesneg ac yn Gymraeg ar eich dyfais iPhone, iPad neu Android hyd yn oed pan nad oes gennych gysylltiad i’r we.

CIWB

Rhifynau 15 ac 16

Ar gyfer dysgwyr Ail Iaith CA3 – canfyddwch fwy amdanynt

Newyddion arall

UK German Connections

Ceisiadau yn cau 31 Mawrth, 2017

Mae UK German Connections  yn cynnig cyrsiau haf yn yr Almaen ar gyfer disgyblion blwyddyn 10 a 12 ac athrawon (fel arweinwyr grŵp. Gallwch wneud cais ar-lein drwy ddefnyddio'r dolenni canlynol:

Gwobrau Athrawon Almaeneg 2017

Mae Gwobrau eleni’n edrych i ddathlu cyflawniadau athrawon Almaeneg ar draws y DU. Mae’r cyfnod i ymgeisio ar gyfer y Gwobrau yn cau ar 1 Mai 2017.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Diwygio’r cwricwlwm

Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews