eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru 10 Mawrth 2017 (Rhifyn 488)

10 Mawrth 2017 • Rhifyn 488

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

cfwstage9090

Blog Cwricwlwm - postiad newydd!


Sut y bydd gwaith yr Arloeswyr yn dylanwadu ar Feysydd Dysgu a Phrofiad.

NDLEAWARDS130130

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017 - derbyn ceisiadau 

Ydy eich ysgol neu goleg wedi cynnal rhai prosiectau digidol diddordol eleni? Beth am ddweud wrthon ni am eich llywddiannau digidol drwy wneud cais am Wobr Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 7 Ebrill am 4.00 pm.

ALN9090

Ymgynghoriad ar ddewisiadau ar gyfer gweithredu Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Dweud eich dweud ar sut orau i weithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.

Mae esboniad hawdd ei ddarllen o’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) nawr ar gael wefan Llywodraeth Cymru.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Athrawon o Gymru yn dychwelyd o daith i CERN i addysgu'r hyn sy'n bwysig

Mae athrawon o Gymru wedi dod yn ôl i'r ddaear yn dilyn taith i'r Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN), yn y Swistir.

Modiwl diwrnod hyfforddiant HMS – Lliniaru ar effeithiau amddifadedd drwy'r celfyddydau, diwylliant a Threftadaeth

Datblygwyd i gefnogi ymarferwyr ac ysgolion, wrth ddefnyddio'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i liniaru ar effeithiau amddifadedd. Mae 4 modiwl wedi eu cyhoeddi u’w defnyddio.

Gŵyl y Gelli 2017

Ydych chi wedi archebu eich lle yng Ngŵyl y Gelli eleni? Gŵyl yw hon i ysbrydoli  dysgwyr o bob oedran, ac mae’n rhad ac am ddim i bob ysgol a gynhelir lle bydd gan ddisgyblion ac athrawon gyfle i gyfarfod awduron anhygoel o amrywiaeth eang o feysydd. Am ragor o fanylion gweler yma.  Archebwch eich lle drwy Aine@hayfestival.org.

diweddariadau Ôl-16

Gwobrau VQ: gwahodd enwebiadau

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw canol dydd 21 Ebrill 2017

Bydd y Gwobrau VQ yn cydnabod llwyddiannau unigolion a chyflogwyr ar draws pedwar chategori gwahanol: 

  • Dysgwr Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel FfCChC 3 neu is
  • Dysgwr VQ y Flwyddyn (Lefel FfCChC 4 neu uwch)
  • Hyfforddwr VQ y Flwyddyn, a 
  • Cyflogwr VQ y Flwyddyn.

Cliciwch yma am y ffurflenni enwebu ar gyfer y pedwar chategori.

hwb

Office 365

Mae newidiadau wedi'u gwneud i'r ffordd y mae defnyddwyr yn gallu cael mynediad at Office 365. Wrth glicio ar yr eicon Office 365 ydych bellach a ailgyfeirir i dangosfwrdd Office 365. Fe welwch ar y dangosfwrdd newydd nifer o wahanol deils ynghyd â dolenni i’r amryw gyfleusterau sydd ar gael drwy Office 365. I ddod o hyd i’ch e-bost cliciwch ar y deilsen Outlook.

Adnodd Diogelwch Ar-lein 360 Degree Safe Cymru – Lansio Diweddariadau

Rhagor o wybodaeth am y diweddaraf ynghylch 360 Degree Safe Cymru, y teclyn sy’n helpu ysgolion yng Nghymru i adolygu a gwella eu polisïau a’u harferion diogelwch ar-lein.

CwrddHwb Trefynwy – 21 Mawrth 2017

Ydych chi wedi archebu eich lle ar gyfer CwrddHwb Pontypridd eto? Peidiwch â cholli’r cyfle!

newyddion arall addysg

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru - Fforymau Adborth Rhanbarthol #TrafodGofalPlant

Cylchlythyr y Rhaglen Dysgu Byd-Eang Cymru

Mae RhDB-Cymru yn cefnogi athrawon i ddatblygu eu dysgwyr ‘yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’. Darllenwch cylchlythyr y gwanwyn ar gyfer y diweddaraf.

'Siarad yn Broffesiynol' 2017

8 Mai 2017, Neuadd y Ddinas Caerdydd

Mae Cyngor y Gweithlu'n gwahodd 4 comisynydd Cymru i sôn am ddyfodol addysg Cymru a’r rôl y gallant eu chwarae wrth siapio polisi addysg. Darllenwch fwy i weld pwy fydd brif siaradwyr y llwyfan.

Cynorthwywyr Iaith Tsieiniaidd 

Mae grantiau British Council ar gael i ariannu Cynorthwyydd Iaith Tsieineaidd yn 2017-18. Mae’r grantiau yma, ar gael yng Nghymru yn unig, yn galluogi hyd at dri Chynorthwyydd Iaith Tsieineaidd am ddim o Hydref 2017 ymlaen. Am fwy o wybodaeth ar Gynorthwywyr Iaith Tsieineaidd cysylltwch ag iepwales@britishcouncil.org

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym