|
|
Mae
cynigion i ailwampio safonau addysgu yng Nghymru wedi’u datgelu gan yr
Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams.
|
|
|
I gael rhagor
o wybodaeth am y safonau proffesiynol gan gynnwys y safonau sydd mewn grym ar
hyn o bryd cliciwch yma.
|
|
|
DYDDIAD CAU I GOFRESTRU
Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg,
yn gofyn penaethiaid am 'eich cymorth a’ch cefnogaeth wrth annog cynifer o ddysgwyr Seren â phosibl ledled Cymru i ddod i’r gynhadledd' gendlaethol hon.
|
|
|
Heddiw cyhoeddodd Kirsty Williams,
yr Ysgrifennydd Addysg, y byddai grŵp arbenigol newydd yn cael ei greu i roi
cyngor ar gydberthnasau iach fel rhan o gwricwlwm yr ysgol.
|
Mae adnoddau digidol newydd gan Barefoot
wedi'u hychwanegu at wefan HWB, diolch i waith ar y cyd â BT.
Bydd yr adnoddau di-dâl, ar gyfer blynyddoedd 1-3 a 4-6, yn cefnogi
gweithgareddau addysgu sy'n gysylltiedig â'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, ym
maes Data a Meddwl Cyfrifiadurol. Cawsant eu datblygu gan South West Grid for Learning.
I gael hyd i'r adnoddau, dewiswch
‘syniadau ar gyfer tasgau yn yr ystafell ddosbarth’ sydd wrth ymyl y datganiad
perthnasol yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a mewngofnodwch i Hwb i weld y
deunyddiau.
Defnyddio
technoleg ddigidol mewn modd arloesol? Ymgeisiwch am Wobr Dysgu Digidol
Cenedlaethol 2017. Y dyddiad cau yw dydd Gwener Ebrill 7fed am 4 o’r gloch.
Mae Cymwysterau Cymru wedi dechrau adolygiad mawr yn
ymchwilio i ystod ac ansawdd y cymwysterau sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu
a’r amgylchedd adeiledig.
O fis Mawrth 2017, Mae Cymwysterau Cymru ar hyn o bryd yn adolygu'r ystod ac ansawdd y cymwysterau yn y sector Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh). Hwn yw'r trydydd yn ein cyfres o adolygiadau sector o gymwysterau galwedigaethol.
Mae Wythnos Prentisiaethau (6 – 10 Mawrth)yn
dathlu'r effaith gadarnhaol mae Prentisiaethau yn ei chael ar unigolion,
busnesau a'r economi.
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru
fel rhan o Wythnos Prentisiaethau. Gallwch ein 'hoffi' ar Facebook a'n dilyn ni ar Twitter i gael gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd. #Appweekcymru
Amgryptio Negeseuon Hwb (HME) yw un o’r tri rheolydd ar lefel uwch sydd
wedi’u hamlinellu yn ein dogfen canllawiau ar ddiogelwch gwybodaeth all gael eu
defnyddio i ychwanegu haen arall o ddiogelwch i e-byst. Dim ond e-byst sy’n
cael eu hanfon o gyfrif Hwbmail i gyfrif e-bost allanol sy’n cael eu diogelu
gan HME. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r Canllawiau ar ddiogelu HwbMail.
Gwnewch gais drwy Raglen Ehangu’r Cadetiaid er
mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion yn eich ysgol ddatblygu amrywiaeth o sgiliau.
Nod y canllawiau arferion da hyn yw cynnig
cymorth ac arweiniad i golegau Addysg Bellach a darparwyr Dysgu Seiliedig ar
Waith ynghylch sut i wella eu ffocws ar gwsmeriaid, a rheoli, adrodd a diffinio
cwynion. Efallai y bydd darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned hefyd am ddilyn y
canllawiau hyn.
Mae
Omidaze yn darparu gweithdai ar y thema o bŵer yn Romeo a Juliet gan
Shakespeare. Gan dynnu cymariaethau â gwleidyddiaeth gyfoes, bydd y gweithdy yn
cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r DU a sustem etholiadol Cymru a
gweithiau Shakespeare. Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar y Parth
Dysgu Creadigol.
Hoffech chi weld arfer da athrawon sy’ ar flaen y gad
wrth ddefnyddio technoleg? Archebwch eich lle nawr ar gyfer ein CwrddHwb yn Nhrefynwy!
Nod y pecyn hwn yw cefnogi disgyblion CA2-CA4
wrth ddeall sgil-effeithau’r Rhyfel Mawr a rhyfeloedd dilynol ar bobl yng
Nghymru a thu hwnt.
Hawliau plant wedi’u cyflwyno mewn modd syml ar un
poster ar gyfer ysgolion uwchradd.
Grantiau Lefèvre a Charles de Gaulle
Mae'r grantiau hyn yn
galluogi myfyrwyr o Ffrainc yn y DU ac i ymgymryd â phrosiectau cydweithredol
ac ymweliadau partner.
Rhaid cyflwyno’ch ceisiadau erbyn 15 Mai 2017.
Mae Gwobrau eleni’n edrych i ddathlu cyflawniadau
athrawon Almaeneg ar draws y DU. Mae’r cyfnod i ymgeisio ar gyfer y Gwobrau yn
cau ar 1 Mai 2017.
Mae WEA Cymru yn edrych i benodi nifer o bobl
cymwys ac addas i’r bwrdd llywodraethol fydd yn dod i rym yn Ebrill 2017. Am ragor o wybodaeth.
Gall darparwyr gofal plant ar draws y DU, gan
gynnwys ysgolion neu rhai hynny sy'n darparu ar leoliad yr ysgol, gofrestru ar
gyfer cynnig newydd llywodraeth y DU. Mae Gofal Plant sy’n di-dreth yn cynnig
hyd at £ 2,000 y plentyn y flwyddyn, neu £ 4,000 os yw’r plentyn yn anabl.
Rhaid i ddarparwyr gofal plant gofrestru i allu derbyn taliadau gan rieni
drwy'r cynllun.
Mae pecyn
cymorth Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF) Sutton Trust yn darparu
gwybodaeth ynghylch amrywiaeth o ymyriadau y gellir eu defnyddio i helpu dysgwyr
dan anfantais i gyflawni eu potensial. Efallai byddwch yn ei chael yn
ddefnyddiol i dderbyn y cylchlythyr i gael y newyddion ac adnoddau
diweddaraf.
Dyma’r rhwydwaith cenedlaethol mwyaf o’i fath yn
y byd. Mae’n dod ag ysgolion, ymarferwyr iechyd ac addysg, ac ymchwilwyr ynghyd
i wella iechyd pobl ifanc. Gall ysgolion sy’n rhan o’r rhwydwaith dderbyn data
ar iechyd a lles eu myfyrwyr, yn rhad ac am ddim.
|