eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru 3 Mawrth 2017 (Rhifyn 487)

 3 Mawrth 2017 • Rhifyn 487

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

TeachingTomorrow130130

Cynigion ar gyfer safonau addysg newydd yng Nghymru

Mae cynigion i ailwampio safonau addysgu yng Nghymru wedi’u datgelu gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams. 

consultation9090

Ymgynghoriad ar y safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth mewn ysgolion ar agor nawr

I gael rhagor o wybodaeth am y safonau proffesiynol gan gynnwys y safonau sydd mewn grym ar hyn o bryd cliciwch yma.

Seren 90 x 90

Rhwydwaith Seren 2017: Tu hwnt i'r cwricwlwm - 15 a 16 Mawrth 2017

DYDDIAD CAU I GOFRESTRU

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, yn gofyn penaethiaid am 'eich cymorth a’ch cefnogaeth wrth annog cynifer o ddysgwyr Seren â phosibl ledled Cymru i ddod i’r gynhadledd' gendlaethol hon. 

agenda9090

Grŵp arbenigol ar gydberthnasau iach i roi cyngor ar y cwricwlwm

Heddiw cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, y byddai grŵp arbenigol newydd yn cael ei greu i roi cyngor ar gydberthnasau iach fel rhan o gwricwlwm yr ysgol.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Meddwl cyfrifiadurol – adnoddau newydd ar gyfer Blynyddoedd 1-3 a Blynyddoedd 4-6

Mae adnoddau digidol newydd gan Barefoot wedi'u hychwanegu at wefan HWB, diolch i waith ar y cyd â BT.
Bydd yr adnoddau di-dâl, ar gyfer blynyddoedd 1-3 a 4-6, yn cefnogi gweithgareddau addysgu sy'n gysylltiedig â'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, ym maes Data a Meddwl Cyfrifiadurol. Cawsant eu datblygu gan South West Grid for Learning.

I gael hyd i'r adnoddau, dewiswch ‘syniadau ar gyfer tasgau yn yr ystafell ddosbarth’ sydd wrth ymyl y datganiad perthnasol yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a mewngofnodwch i Hwb i weld y deunyddiau.

Mae esboniad hawdd ei ddarllen o’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) nawr ar gael wefan Llywodraeth Cymru

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

Defnyddio technoleg ddigidol mewn modd arloesol? Ymgeisiwch am Wobr Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017. Y dyddiad cau yw dydd Gwener Ebrill 7fed am 4 o’r gloch.

Dweud eich dweud - cymwysterau yn sector Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Mae Cymwysterau Cymru wedi dechrau adolygiad mawr yn ymchwilio i ystod ac ansawdd y cymwysterau sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

O fis Mawrth 2017, Mae Cymwysterau Cymru ar hyn o bryd yn adolygu'r ystod ac ansawdd y cymwysterau yn y sector Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh). Hwn yw'r trydydd yn ein cyfres o adolygiadau sector o gymwysterau galwedigaethol.

Byddwch yn rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru 2017

Mae Wythnos Prentisiaethau (6 – 10 Mawrth)yn dathlu'r effaith gadarnhaol mae Prentisiaethau yn ei chael ar unigolion, busnesau a'r economi.

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru fel rhan o Wythnos Prentisiaethau. Gallwch ein 'hoffi' ar Facebook a'n dilyn ni ar Twitter i gael gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd. #Appweekcymru

E-byst diogel – Amgryptio Negeseuon Hwb

Amgryptio Negeseuon Hwb (HME) yw un o’r tri rheolydd ar lefel uwch sydd wedi’u hamlinellu yn ein dogfen canllawiau ar ddiogelwch gwybodaeth all gael eu defnyddio i ychwanegu haen arall o ddiogelwch i e-byst. Dim ond e-byst sy’n cael eu hanfon o gyfrif Hwbmail i gyfrif e-bost allanol sy’n cael eu diogelu gan HME. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r Canllawiau ar ddiogelu HwbMail.

Rhaglen Ehangu’r Cadetiaid mewn Ysgolion

Gwnewch gais drwy Raglen Ehangu’r Cadetiaid er mwyn rhoi cyfle i ddisgyblion yn eich ysgol ddatblygu amrywiaeth o sgiliau.

Rheoli Cwynion - Canllawiau Arferion Da ar gyfer Colegau Addysg Bellach a Darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith

Nod y canllawiau arferion da hyn yw cynnig cymorth ac arweiniad i golegau Addysg Bellach a darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith ynghylch sut i wella eu ffocws ar gwsmeriaid, a rheoli, adrodd a diffinio cwynion. Efallai y bydd darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned hefyd am ddilyn y canllawiau hyn.

hwb

Romeo a Juliet - Gweithdai Omidaze ar gyfer ysgolion

Mae Omidaze yn darparu gweithdai ar y thema o bŵer yn Romeo a Juliet gan Shakespeare. Gan dynnu cymariaethau â gwleidyddiaeth gyfoes, bydd y gweithdy yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r DU a sustem etholiadol Cymru a gweithiau Shakespeare. Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar y Parth Dysgu Creadigol.

CwrddHwb Trefynwy – 21 Mawrth 2017

Hoffech chi weld arfer da athrawon sy’ ar flaen y gad wrth ddefnyddio technoleg? Archebwch eich lle nawr ar gyfer ein CwrddHwb yn Nhrefynwy!

ADNODDAU

Cofio Dros Heddwch

Nod y pecyn hwn yw cefnogi disgyblion CA2-CA4 wrth ddeall sgil-effeithau’r Rhyfel Mawr a rhyfeloedd dilynol ar bobl yng Nghymru a thu hwnt.

Poster Hawliau Plant (Uwchradd)

Hawliau plant wedi’u cyflwyno mewn modd syml ar un poster ar gyfer ysgolion uwchradd.

mwy o newyddion addysg

Grantiau Lefèvre a Charles de Gaulle

Mae'r grantiau hyn yn galluogi myfyrwyr o Ffrainc yn y DU ac i ymgymryd â phrosiectau cydweithredol ac ymweliadau partner.

Rhaid cyflwyno’ch ceisiadau erbyn 15 Mai 2017.

Gwobrau Athrawon Almaeneg 2017

Mae Gwobrau eleni’n edrych i ddathlu cyflawniadau athrawon Almaeneg ar draws y DU. Mae’r cyfnod i ymgeisio ar gyfer y Gwobrau yn cau ar 1 Mai 2017.

Cyfleoedd i Lywodraethwyr – Swyddi Gwirfoddol

Mae WEA Cymru yn edrych i benodi nifer o bobl cymwys ac addas i’r bwrdd llywodraethol fydd yn dod i rym yn Ebrill 2017. Am ragor o wybodaeth.

Ydych chi'n barod am Gofal Plant sy’n ddi-dreth?

Gall darparwyr gofal plant ar draws y DU, gan gynnwys ysgolion neu rhai hynny sy'n darparu ar leoliad yr ysgol, gofrestru ar gyfer cynnig newydd llywodraeth y DU. Mae Gofal Plant sy’n di-dreth yn cynnig hyd at £ 2,000 y plentyn y flwyddyn, neu £ 4,000 os yw’r plentyn yn anabl. Rhaid i ddarparwyr gofal plant gofrestru i allu derbyn taliadau gan rieni drwy'r cynllun.

Cylchlythyr Gwaddol Addysg

Mae pecyn cymorth  Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF) Sutton Trust yn darparu gwybodaeth ynghylch amrywiaeth o ymyriadau y gellir eu defnyddio i helpu dysgwyr dan anfantais i gyflawni eu potensial. Efallai byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol i dderbyn y cylchlythyr i gael y  newyddion ac adnoddau diweddaraf.

Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn galw am geisiadau gan ysgolion uwchradd a chanol

Dyma’r rhwydwaith cenedlaethol mwyaf o’i fath yn y byd. Mae’n dod ag ysgolion, ymarferwyr iechyd ac addysg, ac ymchwilwyr ynghyd i wella iechyd pobl ifanc. Gall ysgolion sy’n rhan o’r rhwydwaith dderbyn data ar iechyd a lles eu myfyrwyr, yn rhad ac am ddim

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym