eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 27 Mawrth 2017 (Rhifyn 163)

27 Mawrth 2017 • Rhifyn 163

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

musicinstruments9090

Ysgrifennydd y Cabinet yn cyhoeddi cyllid newydd ar gyfer offerynnau cerdd mewn ysgolion

Wythnos diwethaf, wnaeth yr Ysgrifennydd dros Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bydd pob cyngor yng Nghymru yn cael £10,000 yn ychwanegol i brynu offerynnau cerdd i ddisgyblion.

KW9090

Lansio tudalen Facebook addysg newydd

Lansiwyd Addysg Cymru, tudalen Facebook newydd yr adran addysg yn ddiweddar gan Kirsty Williams. Caiff ei ddefnyddio i ddarparu diweddariadau ar gyhoeddiadau allweddol ond hefyd i rannu arfer dda o bob cwr o Gymru. Byddwch cystal â’n dilyn, neu hoffi a rhannu’r dudalen a pan fo’r amser, cyfrannwch.  Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

dcfmapping9090

Offeryn Mapio ar gyfer Fframwaith Cymhwysedd Digidol y Cwricwlwm Newydd

Mae Arloeswyr Digidol wedi datblygu offeryn mapio newydd ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Mae'n caniatáu i ysgolion groesgyfeirio gwaith addysgu cyfredol mewn pynciau ac ar gyfer gwahanol flynyddodd ag elfennau o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, er mwyn dangos lefelau o ran maint o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol sydd wedi'i gynnwys. Mae hynny yn ei dro yn eu helpu i gynllunio i gynnwys yr ystod lawn o sgiliau ar gyfer pob elfen dros y flwyddyn. Bydd yr offeryn yn helpu ysgolion i rannu'r gwaith o gynnwys elfennau'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol mewn modd mwy cytbwys ar draws yr ysgol hefyd.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Athrawon: Rydym eisiau eich barn

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad ar gyfer safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.  Darganfyddwch  be fydd y safonau newydd yn ei olygu i chi a phryd y byddant yn gymwys.

Profi gan ddefnyddwyr ar gyfer Dysgu Cymru

Bydd yr holiadur byr hwn yn profi pa mor dda y mae'r safle wedi'i gynllunio, ac yn ein helpu i sicrhau ei bod yn haws dod o hyd i'n dogfennau.  Fel rhan o ymdrechion i barhau i wella, efallai y byddwn yn anfon rhagor o holiaduron drwy Dysg. Rydym yn gwerthfawrogi'ch help yn fawr!

Newidiadau i hyfforddiant athrawon i ddenu’r goreuon i’r proffesiwn – Kirsty Williams

Cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg fod y rheolau newydd ar gyfer y cyrsiau sy’n hyfforddi athrawon yng Nghymru yn rhan o’r ymgyrch i ddenu’r talent gorau i’r proffesiwn.

 

Mae’r Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru: Addysgu Athrawon Yfory ar gael bellach.

Penodiadau cyhoeddus - cadeirydd a dirprwy gadeiryddion Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ymroddgar a medrus ar gyfer rôl y cadeirydd a dirprwy gadeiryddion Pwyllgor Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg ("y bwrdd"). Yn cau 31 Mawrth 2017

Meddwl cyfrifiadurol – adnoddau newydd

Mae adnoddau digidol newydd gan Barefoot wedi'u hychwanegu at wefan HWB, diolch i waith ar y cyd â BT
Bydd yr adnoddau di-dâl, ar gyfer blynyddoedd 1-3 a blynyddoedd 4-6, yn cefnogi gweithgareddau addysgu sy'n gysylltiedig â'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, ym maes Data a Meddwl Cyfrifiadurol. Cawsant eu datblygu gan South West Grid for Learning. 

 

I gael hyd i'r adnoddau, dewiswch ‘syniadau ar gyfer tasgau yn yr ystafell ddosbarth’ sydd wrth ymyl y datganiad perthnasol yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, a mewngofnodwch i Hwb i weld y deunyddiau.

Ymgynghoriad - dewisiadau ar gyfer gweithredu Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Dweud eich dweud ar sut orau i weithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.

Mae esboniad hawdd ei ddarllen o’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) nawr ar gael wefan Llywodraeth Cymru.

Grŵp arbenigol ar gydberthnasau iach i roi cyngor ar y cwricwlwm

Cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, yn ddiweddar, y byddai grŵp arbenigol newydd yn cael ei greu i roi cyngor ar gydberthnasau iach fel rhan o gwricwlwm yr ysgol.

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

Ydych ysgol neu goleg wedi cynnal rhai prosiectau digidol diddordol eleni? Beth am wneud cais ar gyfer Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 7 Ebrill am 4.00 pm.

Cymhellion hyfforddi athrawon – gwybodaeth i fyfyrwyr

Canllawiau ar y grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n dechrau ar gyrsiau addysg gychwynnol TAR llawnamser i athrawon cyn iddynt ddechrau addysgu.

hwb

Digwyddiadau CwrddHwb tymor yr haf

Mwy am yr offer sydd gan Hwb i’w cynnig ac enghreifftiau o arferion gorau wrth ddefnyddio technoleg yn yr ystafell ddosbarth. 

  • Maesteg - 16 Mai
  • Aberhonddu - 13 Mehefin

E-byst diogel – Amgryptio Negeseuon Hwb

Amgryptio Negeseuon Hwb (HME) yw un o’r tri rheolydd ar lefel uwch sydd wedi’u hamlinellu yn ein dogfen canllawiau ar ddiogelwch gwybodaeth all gael eu defnyddio i ychwanegu haen arall o ddiogelwch i e-byst. Dim ond e-byst sy’n cael eu hanfon o gyfrif Hwbmail i gyfrif e-bost allanol sy’n cael eu diogelu gan HME. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r Canllawiau ar ddiogelu HwbMail.

adnoddau

Darwinian Ifanc – adnodd am ddim ar gyfer yr ystafell ddosbarth

Cylchgrawn rhyngwladol ar gyfer disgyblion ysgol mewn gwyddoniaeth, hanes naturiol, mathemateg, peirianneg a mentergarwch.  Yn eich ysbrydoli i wneud prosiectau a cyhoeddi eich gwaith, syniadau a profiadau eich hun.

Lleisiau Synthetig

Mae lleisiau synthetig Cymraeg ar gael am ddim i ysgolion, unigolion a sefydliadau anfasnachol drwy ebostio cymru@rnib.org.uk. Datblygodd RNIB y lleisiau gyda chwmni meddalwedd testun i lafar IVONA, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Mae lleisiau Geraint a Gwyneth yn ddefnyddiol ar gyfer meddalwedd darllen sgrin a defnyddio cyfrifiaduron i ddarllen gwefannau a dogfennau. 

Ap Geiriaduron

Mae cynnwys Y Termiadur Addysg ar gael am ddim o fewn yr Ap Geiriaduron o’r App Store, Google Play a’r Amazon App Store. Mae’r Ap Geiriaduron yn eich galluogi i chwilio a throsi miloedd o dermau addysg safonol a geirfa gyffredinol yn Saesneg ac yn Gymraeg ar eich dyfais iPhone, iPad neu Android hyd yn oed pan nad oes gennych gysylltiad i’r we.

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr

Pecyn adnoddau i helpu athrawon i baratoi ar gyfer tywys ymweliad eu hunain o amgylch Parc Dinefwr mewn ffordd greadigol, hyderus a llawn dychymyg. Mae’r awgrymiadau am weithgareddau yn hyblyg, ac mae modd eu cynnal mewn sawl ffordd.

Wenfro

A colourful and comprehensive collection of cross-curricular resources aimed at the Foundation Phase. 

Cofio Dros Heddwch

Nod y pecyn hwn yw cefnogi disgyblion CA2-CA4 wrth ddeall sgil-effeithau’r Rhyfel Mawr a rhyfeloedd dilynol ar bobl yng Nghymru a thu hwnt.

newyddion arall

Ydych chi'n barod am Gofal Plant sy’n ddi-dreth?

Gall darparwyr gofal plant ar draws y DU, gan gynnwys ysgolion neu rhai hynny sy'n darparu ar leoliad yr ysgol, gofrestru ar gyfer cynnig newydd llywodraeth y DU. Mae Gofal Plant sy’n di-dreth yn cynnig hyd at £ 2,000 y plentyn y flwyddyn, neu £ 4,000 os yw’r plentyn yn anabl. Rhaid i ddarparwyr gofal plant gofrestru i allu derbyn taliadau gan rieni drwy'r cynllun.

'Siarad yn Broffesiynol' 2017

8 Mai 2017, Neuadd y Ddinas Caerdydd

Mae Cyngor y Gweithlu'n gwahodd 4 comisynydd Cymru i sôn am ddyfodol addysg Cymru a’r rôl y gallant eu chwarae wrth siapio polisi addysg. Darllenwch fwy i weld pwy fydd brif siaradwyr y llwyfan.

BIG Bang Cymru

Mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) yn trefnu day digwyddiad Big Bang eleni. 

  • 28 Mawrth: Venue Cymru, Llandudno
  • 3 Ebrill, Stadiwm Liberty, Abertawe

Yn agored i bob ysgol.  Cofrestrwch yma.

Cylchlythyr y Rhaglen Dysgu Byd-Eang Cymru

Mae RhDB-Cymru yn cefnogi athrawon i ddatblygu eu dysgwyr ‘yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd’. Darllenwch cylchlythyr y gwanwyn ar gyfer y diweddaraf.

Cylchlythyr Gwaddol Addysg

Mae pecyn cymorth  Sefydliad Gwaddol Addysg (EEF) Sutton Trust yn darparu gwybodaeth ynghylch amrywiaeth o ymyriadau y gellir eu defnyddio i helpu dysgwyr dan anfantais i gyflawni eu potensial.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant cyn-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym