eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru 20 Chwefror 2017 (Rhifyn 486)

20 Chwefror 2017 • Rhifyn 486

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

NDLE

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

Ymgeisiwch nawr! Rydym nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017. Y dyddiad cau yw Dydd Gwener Ebrill 7fed.

NRNT1 130130

Cefnogi Marcio Rhesymu Rhifyddol

Unwaith eto yn 2017, byddwn yn darparu’r Gwasanaeth Cefnogi Marcio ar gyfer Profion Rhesymu Rhifyddol Blynyddoedd 7 i 9. Darllenwch am fwy.

Mwy o newyddion Addysg

Casglu data am y gweithlu ysgolion 

Hoffem gael eich barn

Estyn - Ymgynghoriad ar drefniadau arolygu newydd ar gyfer gwasanaethau addysg llywodraeth leol

Os ydych yn gysylltiedig ag addysg yng Nghymru, rhannwch eich barn.

Cyllid ar gyfer Grant i Ysgolion Uwchradd i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf

Mae gan holl ysgolion uwchradd Cymru tan fis Mawrth 2018 i wneud cais am grant gwerth £1000 i ddatblygu prosiectau i goffáu canmlwyddiant y rhyfel a fydd yn gyfle i ddisgyblion drin a thrafod. Gall ysgolion wneud cais am ffurflen gais drwy FWWCommemorationGrant@wales.gsi.gov.uk 

Gwobrau Ysbrydoli! 2017 -  Enwebiadau'n cau ddydd Gwener 3 Mawrth 2017

Dathliad o chyflawniadau dysgu

Edrychwn am eich enwebiadau o lwyddiannau dysgu yn ysbrydoli eraill i ddychwelyd at neu fynd ati i ddysgu, pobl sydd wedi gwella eu bywydau neu fywydau pobl eraill, a chael profiad cadarnhaol neu newid bywyd o addysg oedolion. Cyflwynwch eich enwebiadau Gwobrau Ysbrydoli! #carudysgu

Profiadau fideo deinamig ar HWB 

Mae Office 365 Video ar gael nawr ar gyfer eich ysgol drwy Hwb! Gallwch lanlwytho, rhannu a chwarae fideo yn ddiogel yn eich ysgol. Gall athrawon fanteisio ar y datblygiad cyffrous hwn i ‘fflipio’ eu hystafell ddosbarth a chaniatáu i ddysgwyr ffrydio nifer o fideos sydd wedi’u lanlwytho gan athrawon ar unrhyw ddyfais sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd. 

DYDDIADAU I’CH DYDDIADUR

Cynhadledd Seren 2017: dim ond ychydig diwrnodau ar ôl i gofrestru!

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru i fynd i’r gynhadledd, cliciwch yma.

CwrddHwb Trefynwy – 21 Mawrth 2017

Hoffech chi weld arfer da athrawon sy’ ar flaen y gad wrth ddefnyddio technoleg? Archebwch eich lle nawr am ein CwrddHwb yn Nhrefynwy!

'Siarad yn Broffesiynol' 2017

8 Mai 2017, Neuadd y Ddinas Caerdydd

Mae Cyngor y Gweithlu'n gwahodd 4 comisynydd Cymru i sôn am ddyfodol addysg Cymru a’r rôl y gallant eu chwarae wrth siapio polisi addysg. Yn siarad ar y llwyfan fydd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru; Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol; Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg a Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

newyddion arall

Cylchgrawn addysg newydd gan y Rhwydwaith Maethu

Cyhoeddiad a greuwyd gan y Rhwydwaith Maethu ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw MAKING IT HAPPEN. Nod y cylchgrawn hwn yw cefnogi ac ysbrydoli'r gofalwyr maeth i helpu plant sydd dan eu gofal i godi eu dyheadau academaidd a chyflawni eu potensial mewn addysg. 

Dysgwrdd ASE Caerdydd - Dewch i drafod Data

2 Mawrth  2017 - 5pm

Coleg Catholig Dewi Sant, Ffordd Ty Gwyn, Caerdydd  CF23 5QD

Rhagor o fanylion ar Teachmeet Wiki

Cystadleuaeth Prosiect Gwyddoniaeth Yr Urdd

Dyddiad cau 1 Mawrth 2017

Ydych ddysgwyr chi’n hoff o Wyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, Peirianneg neu Fathemateg? Anogwch nhw i gystadlu fel unigolion neu grwpiau gyda’r cyfle gwych o ennill gwobr i’w wario gan ysgol y fuddugol ar unrhyw adnodd STEM.

Cysylltu Dosbarthiadau'r Cyngor Brydeinig

Ymunwch â Connecting Classrooms y Cyngor Brydeinig am gefnogaeth gyda’ch Sgiliau Ehangach a Fframwaith Cymhwysedd Digidol am ddim. Unwaith i chi ymuno, byddem yn eich cefnogi gyda phartneriaeth broffesiynol tramor, gyda grant o £3,000 ar gael am daith ryngwladol.

Hyfforddiant rhagarweiniol FFT Aspire ledled Cymru  

Mae FFT Education yn cynnig rhagor o hyfforddiant cyfrifiadurol rhagarweiniol ymarferol FFT Aspire ledled Cymru, gyda dyddiadau newydd yng Nglannau Dyfrdwy, Abertawe, Caerdydd a Wrecsam. Archebwch lle heddiw!

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym