eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru 10 Chwefror 2017 (Rhifyn 485)

10 Chwefror 2017 • Rhifyn 485

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Blog9090

Blog post newydd Cwricwlwm i Gymru

Mae Ysgolion Arloesi newydd yn helpu i ddatblygu’r cwricwlwm. Cymerwch olwg ar ein cylchlythyr

NRNT1 130130

Cefnogi Marcio Rhesymu Rhifyddol

Unwaith eto yn 2017, byddwn yn darparu’r Gwasanaeth Cefnogi Marcio ar gyfer Profion Rhesymu Rhifyddol Blynyddoedd 7 i 9. Darllenwch am fwy.

estyn

Hoffai Estyn gael gwybod eich barn

Os ydych yn gysylltiedig ag addysg yng Nghymru, rhannwch eich barn.

Mae Estyn wedi lansio ymgynghoriad ar sut dylai arolygu gwasanaethau addysg llywodraeth leol o’r hydref 2018. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

SID2017

Lansio parth diogelwch ar-lein newydd ar gyfer dysgwyr yng Nghymru

Wrth i fwy na 100 o wledydd ledled y byd ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017, cafodd Parth Diogelwch Ar-lein newydd ei lansio gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw i athrawon a dysgwyr yng Nghymru ar Hwb, ein platfform dysgu digidol.

NDLE

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

Mae ceisiadau ar gyfer y Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol yn agor dydd Llun 13 Chwefror. Canllawiau i ymgeiswyr ar gael ar Hwb. 

Mwy o newyddion Addysg

Cyllid ar gyfer Grant i Ysgolion Uwchradd i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf

Mae gan holl ysgolion uwchradd Cymru tan fis Mawrth 2018 i wneud cais am grant gwerth £1000 i ddatblygu prosiectau i goffáu canmlwyddiant y rhyfel a fydd yn gyfle i ddisgyblion drin a thrafod. Gall ysgolion wneud cais am ffurflen gais drwy FWWCommemorationGrant@wales.gsi.gov.uk 

Y Gweinidog Sgiliau’n amlinellu cynlluniau ar gyfer cysoni Prentisiaethau ag anghenion Economi Cymru

Mae prentisiaethau’n hanfodol ar gyfer cyflawni llwyddiant economaidd, ac yn offeryn hanfodol ar gyfer adeiladu Cymru gryfach, decach a mwy cyfartal. Mae’n hanfodol fod gan brentisiaid y sgiliau cywir i ddiwallu anghenion busnes nawr ac yn y dyfodol.

Cymwysterau Cymru: eisiau adolygwyr arbenigol

Fel rhan o’i raglen o adolygiadau sector, mae Cymwysterau Cymru yn hysbysebu am adolygwyr arbenigol yn y sectorau TGCh ac Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

Cyfrifon i lywodraethwyr ar gael ar Hwb+

Gall ysgolion fynd ati bellach i greu cyfrifon ar gyfer eu Corff Llywodraethu er mwyn iddynt allu manteisio ar rai o'r nodweddion a gynigir gan Hwb. 

E-bwletin Llywodraethwyr Cymru – Ionawr 2017

Rydym yn gobeithio y bydd yr e-fwletin diweddaraf yma o ddiddordeb i chi ac yn addysgiadol. Os oes gennych unrhyw sylwadau am y cynnwys, neu unrhyw syniadau am ddefnydd yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

DYDDIADAU I’CH DYDDIADUR

Cynhadledd Rhwydwaith Seren: Ar gyfer myfyrwyr 6ed dosbarth a Staff

15-16 Mawrth 2017

Mae Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Seren yn talu costau teithio eich myfyrwyr 6ed dosbarth a staff sydd am fynd i’r Gynhadledd Genedlaethol. Bydd myfyrwyr yn mynychu sesiynau gan academyddion ar bynciau y tu hwnt i’r cwricwlwm Safon Uwch a all gefnogi ceisiadau prifysgol, tra bydd athrawon yn derbyn cyngor yr ymchwil a’r adnoddau diweddaraf ar helpu myfyrwyr gael lle mewn prifysgol, gan gynnwys sesiynau panel gyda phrifysgolion blaenllaw’r DU.  Ymelwch a blog Seren am ddiweddariadau.

'Cudd' hyfforddi ar Gamfanteisio Rhywiol gyda Barnardo's Cymru

Lleoedd ar gael yn Aberystwyth a Llambed!

Mae Barnardo's Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal yr ail gyfres o ddigwyddiadau hyfforddi rhanbarthol ar Gamfanteisio Rhywiol ar yr adnodd addysg ar-lein 'Cudd'. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch heddiw.

Cynhadledd Cymru Ifanc – i bobl ifanc, gan bobl ifanc 

21 Chwefror 2017, Caerdydd

Mae Bwrdd Prosiect Pobl Ifanc yn falch iawn o wahodd pobl ifanc o ledled Cymru i’n hail Gynhadledd Flynyddol! Arweinir gweithdai gan bobl ifanc i bobl ifanc. Bydd yn gyfle i bawb rannu a dysgu mwy am iechyd a llesiant meddwl, bwlio, newid hinsawdd ac addysg.

Gwylgrai Cymru - 17- 20 Awst

#GŵylGrai2017 ydi’r ŵyl gelfyddydau ieuenctid i Gymru, sy’n hwyl, yn arloesol ac yn ddigon o ryfeddod. Fe’i cynllunnir ac fe’i rhaglennir gan bobol ifanc i bobol ifanc. Mae #GŵylGrai2017 yn rhoi stondin i’r gorau o blith celfyddydau ieuenctid heddiw.

adnoddau

Paratowch at Bythefnos Masnach Deg 

27 Chwefror i 12 Mawrth 2017

Cymerwch y cyfle hwn i edrych ar gysylltiadau byd-eang Cymru ac ystyried sut mae ein dewisiadau fel defnyddwyr yn effeithio ar bobl ledled y byd. Mae Rhaglen Dysgu Byd-Eang - Cymru wedi rhoi rhestr gynhwysfawr o adnoddau addysgu a dysgu at ei gilydd i’ch cynorthwyo chi gan gynnwys canllaw i ddilyniant a gweithgaredd newydd ar gyfer CA3 sy’n canolbwyntio ar hanes coco.

Cylchgrawn Gweiddi - CA3 – Cymraeg Iaith Gyntaf

Rhifyn 41 - Y Chwyldro Pobi

Dyma rifyn gyffrous i bobyddion a chogyddion. Mae Rhifyn 41 o Gweiddi yn trafod “Y Chwyldro Pobi” sydd yn ffynu ar draws y byd. Profwch eich hun drwy ateb cwestiynau am y rhaglen deledu boblogaidd, The Great British Bake Off, a dysgwch sut mae bwyd yn rhan allweddol o’n bywyd bob dydd, yn yr ysgol, mewn bwytai, ac hyd yn oed ar ein ffonau symudol. 

Agenda: Canllaw i Bobl Ifanc ar Wneud i Berthnasoedd Cadarnhaol Gyfri

Pecyn cymorth ar-lein sydd wedi ei ddatblygu gyda phobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.  Bwriad y canllaw yw cefnogi pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth yn ddiogel  ac mewn modd creadigol am anghydraddoldebau rhwng y rhywiau, aflonyddu rhywiol a thrais mewn ysgolion a chymunedau (CA3/4).

newyddion arall

Rhaglen Allymestyn i Ysgolion a Cholegau

Mae’r rhaglen yn cynnig gwyddoniaeth, peirianneg, y celfyddydau a’r dyniaethau, y gyfraith a throseddeg, meddygaeth ac iechyd, a'r Cymraeg a disgwylir i'r ddarpariaeth fod o fwyaf o ddiddordeb i ysgolion a cholegau yn ne Cymru ond mae croeso bob ymholiad.  Darganfyddwch pa weithgareddau a digwyddiadau a gynhigir i bobl ifanc o flwyddyn 6 i flwyddyn 13.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym