eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 10 Chwefror 2017 (Rhifyn 162)

10 Chwefror 2017• Rhifyn 162

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

NRNT2 130130

Cefnogi Marcio Rhesymu Rhifyddol

Unwaith eto yn 2017, byddwn yn darparu’r Gwasanaeth Cefnogi Marcio ar gyfer Profion Rhesymu Rhifyddol Blynyddoedd 7 i 9.

classroom9090

Tasglu Gweinidogol ar gyfer Modelau Cyflenwi

Cwblhaodd y tasglu modelau cyflenwi eu gwaith ym mis Rhagfyr 2016 a chyhoeddwyd ei adroddiad a'r canfyddiadau 2 Chwefror 2017.

estyn

Hoffai Estyn gael gwybod eich barn

Os ydych yn gysylltiedig ag addysg yng Nghymru, rhannwch eich barn.

Mae Estyn wedi lansio ymgynghoriad ar sut dylai arolygu gwasanaethau addysg llywodraeth leol o’r hydref 2018. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.

SID17 9090

Lansio parth diogelwch ar-lein newydd ar gyfer dysgwyr yng Nghymru

Wrth i fwy na 100 o wledydd ledled y byd ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017, cafodd Parth Diogelwch Ar-lein newydd ei lansio gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw i athrawon a dysgwyr yng Nghymru ar Hwb, ein platfform dysgu digidol.

#cwricwlwmigymru

Post blog newydd Cwricwlwm i Gymru

Sylwadau o’r digwyddiad diweddaraf ar gyfer Ysgolion Arloesi

Aeth 25 o Ysgolion Arloesi newydd i Landudno'r mis diwethaf i gael gwybod sut mae’r gwaith cynllunio strategol yn mynd rhagddo ar y cwricwlwm newydd ac i ddechrau paratoi’r ‘Meysydd Dysgu a Phrofiad’.

Cylchlythyr Cwricwlwm i Gymru:  Rhifyn 04     

Mae’r rhifyn diweddaraf o’r cylchlythyr i randdeiliaid ar gael nawr.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

Mae ceisiadau ar gyfer y Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol yn agor dydd Llun 13 Chwefror. Canllawiau i ymgeiswyr ar gael ar Hwb. 

Adroddiad ar y rhwystrau i ddysgu a wynebir gan ddysgwyr o ethnigrwydd a Du a chymysg yng Nghymru

Comisiynwyd yr adroddiad hwn gan Dr Jonathan Brentnall gan Lywodraeth Cymru i nodi'r rhwystrau rhag dysgu sy'n effeithio ar gyrhaeddiad dysgwyr ethnigrwydd Du a Chymysg yng Nghymru.

Canllawiau i rieni a gofalwyr dysgwyr

Oes angen arnoch ragor o gopiiau'r canllawiau ar gyfer ddyfodol nosweithiau rieni? Cysylltwch gyda blwch post DYSG am ragor o gopiiau.

Beth am rannu fersiynau digidol o'r canllaw, 'Sut 'roedd yr ysgol heddiw?' ar wefan eich ysgol. Mae hefyd casgliad o ganllawiau'r Cyfnod Sylfaen i rieni mewn cyfieithiadau i ieithoedd cymunedol digidol i chi rannu gyda rhieni hefyd.

DYDDIADAU I’CH DYDDIADUR

'Cudd' hyfforddi ar Gamfanteisio Rhywiol gyda Barnardo's Cymru

Lleoedd ar gael yn Aberystwyth a Llambed!

Mae Barnardo's Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal yr ail gyfres o ddigwyddiadau hyfforddi rhanbarthol ar Gamfanteisio Rhywiol ar yr adnodd addysg ar-lein 'Cudd'. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch heddiw.

CwrddHwb Penarth – 15 Chwefror 2017

Cyfle olaf i archebu eich lle ar gyfer ein CwrddHwb Penarth.

newyddion arall

E-bwletin Llywodraethwyr Cymru – Ionawr 2017

Rydym yn gobeithio y bydd yr e-fwletin diweddaraf yma o ddiddordeb i chi ac yn addysgiadol. Os oes gennych unrhyw sylwadau am y cynnwys, neu unrhyw syniadau am ddefnydd yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cyfrifon i lywodraethwyr ar gael ar Hwb+

Gall ysgolion fynd ati bellach i greu cyfrifon ar gyfer eu Corff Llywodraethu er mwyn iddynt allu manteisio ar rai o'r nodweddion a gynigir gan Hwb. 

Rhaglen Allymestyn i Ysgolion a Cholegau

Mae’r rhaglen yn cynnig gwyddoniaeth, peirianneg, y celfyddydau a’r dyniaethau, y gyfraith a throseddeg, meddygaeth ac iechyd, a'r Cymraeg a disgwylir i'r ddarpariaeth fod o fwyaf o ddiddordeb i ysgolion a cholegau yn ne Cymru ond mae croeso bob ymholiad.  Darganfyddwch pa weithgareddau a digwyddiadau a gynhigir i bobl ifanc o flwyddyn 6 i flwyddyn 13

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant cyn-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym