|
|
Mae’r rhifyn diweddaraf o’r cylchlythyr i
randdeiliaid ar gael nawr.
|
|
|
Cwblhaodd y tasglu modelau cyflenwi eu gwaith ym
mis Rhagfyr 2016 a chyhoeddwyd ei adroddiad a'r canfyddiadau 2 Chwefror 2017.
|
Mae Wythnos Prentisiaethau yn
dathlu'r effaith gadarnhaol mae Prentisiaethau yn ei chael ar unigolion,
busnesau a'r economi.
Bydd digwyddiadau yn cael eu
cynnal ledled Cymru fel rhan o Wythnos Prentisiaethau. Gallwch ein 'hoffi' ar Facebook
a'n dilyn ni ar Twitter i gael gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd.
#Appweekcymru
Mae catalog cyfleoedd ysgol haf sydd ar gael
i ddysgwyr nawr ar gael ar gyfer CA3 & CA4. Mae’n cynnwys gweithgareddau sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm,
yn cyfoethogi astudiaethau, annog cyfranogiad ac mae ganddynt rôl allweddol o
ran codi dyheadau a chyflwyno dysgwyr at y cyfle
i symud ymlaen i addysg bellach ac uwch.
Oes angen arnoch ragor o gopiiau'r canllawiau ar gyfer ddyfodol nosweithiau rieni? Cysylltwch gyda blwch post DYSG am ragor o gopiiau.
Beth am rannu fersiynau digidol o'r canllaw, 'Sut 'roedd yr ysgol heddiw?' ar wefan eich ysgol, mae hefyd gasgliad o gyfieithiadau i ieithoedd cymunedol i chi rannu gyda rhieni hefyd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am ar ddydd Mercher 22 Chwefror 2017.
Rhaglen gyffrous ar gyfer myfyrwyr STEM blwyddyn 12 yw ‘Black Sea Maritime Archaeology Project (MAP)’ sy’n cynnwys cyfleoedd ymchwil a chyrch i fyfyrwyr na fyddai fel arfer yn cael mynediad i brofiadau o'r fath. (Gwefan Saesneg yn unig).
Casgliad o adnoddau i gynorthwyo ysgolion i ddathlu a bod yn rhan o Ddydd Miwsig Cymru (CA3, CA4 a U/UG) ar 10 Chwefror 2017. Mewngofnodwch i Hwb er mwyn cael mynediad at y deunyddiau hyn.
Mae'n bosib bydd angen cyfrif Hwb arnoch i gael mynediad i rai o'r adnoddau ar Hwb.
Ystyried cyflwyno cais ar gyfer Gwobrau Dysgu
Digidol Cenedlaethol 2017? Canllawiau i ymgeiswyr nawr ar gael ar Hwb.
Amgryptio Negeseuon Hwb (HME) yw un o’r tri rheolydd ar lefel uwch sydd
wedi’u hamlinellu yn ein dogfen canllawiau ar ddiogelwch gwybodaeth all gael eu defnyddio i ychwanegu haen arall o ddiogelwch i e-byst. Dim
ond e-byst sy’n cael eu hanfon o gyfrif Hwbmail i gyfrif e-bost allanol sy’n
cael eu diogelu gan HME. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r Canllawiau ar ddiogelu HwbMail.
Comisiynwyd yr adroddiad hwn gan Dr Jonathan Brentnall gan Lywodraeth Cymru i nodi'r rhwystrau rhag dysgu sy'n effeithio ar gyrhaeddiad dysgwyr ethnigrwydd Du a Chymysg yng Nghymru.
Mae’r adolygiad yn ddangos yr effaith
gadarnhaol a gafodd y rhaglen arwain hon hyd yma ar lwyddo i ddatblygu
gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiad ynghyd â dilyniant uwch arweinwyr yn y sector
addysg bellach yng Nghymru.
A wnaiff ysgolion
nodi’r canlynol os gwelwch yn dda. Mae dyddiad anfon cais ar gyfer
cystadleuaeth 2017 wedi ei ymestyn i 10
Chwefror 2017
|