eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru 31 Ionawr 2017 (Rhifyn 483)

31 Ionawr 2017• Rhifyn 483

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

blog9090

Blog newydd yr Cwricwlwm i Gymru

Y Fframwaith Cymhwysedd Digidol: Cwestiynau Cyffredin

Rydych wedi gofyn mwy o gwestiynau, a dyma’r atebion.

QualsLogo130130

Cymwysterau Cymru: eisiau adolygwyr arbenigol

Fel rhan o’i raglen o adolygiadau sector, mae Cymwysterau Cymru yn hysbysebu am adolygwyr arbenigol yn y sectorau TGCh ac Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Rhwydwaith Seren 2017: Tu hwnt i’r cwricwlwm

Hoffai Llywodraeth Cymru a The Brilliant Club eich gwahodd i Gynhadledd Genedlaethol Seren.


Pryd: Dydd Mercher 15 Mawrth a ddydd Iau 16 Mawrth

Lleoliad: Parc Cefn Lea, Dolfor, y Drenewydd, SY16 4AJ

Awdurdod newydd i oruchwylio sgiliau a'r sectorau addysg uwch a phellach yng Nghymru

Ar ddydd Mawrth 31 Ionawr cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, y bydd awdurdod strategol newydd yn cael ei greu i oruchwylio sgiliau, cyllid ar gyfer ymchwil a'r sectorau addysg uwch a phellach yng Nghymru.

Agor Ysgol Anghenion Addysgol Ychwanegol Newydd

Mae ysgol Anghenion Addysgol Ychwanegol newydd, sydd werth £13m ac sydd â lle ar gyfer 100 o ddisgyblion, wedi’i hagor yn swyddogol gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Cylch gwaith Estyn ar gyfer 2017-2018

Cylch Gwaith Estyn ar gyfer 2017/18 a gyhoeddwyd gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg. 

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

O hyn hyd pan agorir y broses ymgeisio ar gyfer 2017 ym mis Chwefror, byddwn yn rhannu adnoddau arfer da gan yr ysgolion hynny enillodd wobrau neu glod uchel y llynedd ar Hwb. 

Profiadau fideo deinamig ar Hwb

Mae Office 365 Video ar gael nawr ar gyfer eich ysgol drwy Hwb! Gallwch lanlwytho, rhannu a chwarae fideo yn ddiogel yn eich ysgol. Gall athrawon fanteisio ar y datblygiad cyffrous hwn i ‘fflipio’ eu hystafell ddosbarth a chaniatáu i ddysgwyr ffrydio nifer o fideos sydd wedi’u lanlwytho gan athrawon ar unrhyw ddyfais sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd.

Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 - Enwebiadau Ar Agor!

Mae’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018.  Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sectorau Addysg, Llywodraeth Lleol, Cymunedau, Trechu Tlodi, Tai ac Adfywio sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 01/03/2017

Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid 2017

Mae’r cyfnod enwebu wedi dechrau.

Cynhelir y Gwobrau Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghaerdydd ar 23 Mehefin 2017. Mae'r noson yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid a gweithwyr ieuenctid rhagorol ledled Cymru.

diweddariadau ôl-16

Mesurau cyson ar gyfer dysgu ôl-16 yng Nghymru

Rydym eisiau eich sylwadau ar newidiadau arfaethedig i’r mesurau perfformiad ar gyfer dosbarthiadau chwech ysgolion a cholegau addysg bellach.

Canllawiau diwygiedig: ‘Sicrhau darpariaeth i bobl ifanc ag anawsterau dysgu mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol’

Mae coleg prif ffrwd yn gallu cwrdd ag anghenion y rhan fwyaf o bobl ifanc ag anawsterau dysgu, gan gynnwys y rheini ag anghenion cymhleth. Ond mewn rhai achosion, mae angen mynediad at ddarparwr arbenigol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau diwygiedig sy'n nodi ei disgwyliadau ar gyfer sicrhau darpariaeth ôl-16 i bobl ifanc ag anawsterau dysgu,

Adolygu Gweithgareddau Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - A oes gennych chi farn ar addysg cyfrwng Cymraeg ôl-16?

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg  wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen er mwyn adolygu gwaith Y  Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Rhan o waith y grŵp bydd ystyried a ddylai cylch gwaith y Coleg ymestyn i gynnwys y sector ôl-16. Hoffai’r grŵp eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth i’w helpu yn eu trafodaethau.

DYDDIADAU I’CH DYDDIADUR

Sioe Wyddoniaeth Ryfeddol – Cadwch le RHAD AC AM DDIM

Ddydd Llun, 13 Mawrth, 1.30pm-2.30pm, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 

Crëwyd y sioe hon â myfyrwyr 11-14 mewn golwg, ond mae croeso i fyfyrwyr o bob oed (gwefan Saesneg yn unig).

CwrddHwb Penarth – 15 Chwefror 2017

Ydych chi wedi archebu eich lle ar gyfer CwrddHwb Penarth eto? Peidiwch â cholli’r cyfle!

ADNODDAU a Chystadleuthau

Her newydd werth £10 mil ar gyfer arloeswyr ifanc mewn technoleg

Cystadleuaeth werth £10 mil i ddisgyblion ysgol uwchradd 11-16 oed yw gwobr Longitude Explorer. Ei nod yw datblygu sgiliau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Dydd Gwener, 3 Mawrth 2017 yw’r dyddiad cau. 

Cyfres Dosbarth Gwyddoniaeth y Gymanwlad – Adnoddau newydd

Mae’r Cyngor Prydeinig wedi datblygu cyfres o adnoddau, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Frenhinol, er mwyn ehangu addysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion.  Mae’r pedwerydd adnodd yma yng nghyfres Dosbarth Gwyddoniaeth y Gymanwlad yn ymchwilio i’r pwnc o ddiogelwch bwyd byd-eang ac yn llawn o syniadau am weithgareddau i helpu myfyrwyr i archwilio’r pwnc ymhellach.

Rhowch gynnig ar wylio’r fideo gyda’ch dosbarth? (cynnwys ar gael yn Saesneg yn unig)

Cystadleuaeth Prosiect Gwyddoniaeth Yr Urdd

Dyddiad cau 1 Mawrth 2017

Ydych ddysgwyr chi’n hoff o Wyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, Peirianneg neu Fathemateg?

Anogwch nhw i gystadlu fel unigolion neu grwpiau gyda’r cyfle gwych o ennill gwobr i’w wario gan ysgol y fuddugol ar unrhyw adnodd STEM.

Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori

Wythnos nesaf yw Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori. Beth am roi cynnig ar y llyfrau sain ar Hwb gyda'ch dosbarth? 

Y Termiadur Addysg nawr ar gael ar Hwb

Gwefan a noddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu termau safonol yn y byd addysg (CA3/4, U/UG).

Newyddion arall

Her Mathemateg Tîm UKMT (ar gyfer Blynyddoedd 8 a 9) cyfle olaf i gystadlu

Cystadleuaeth cenedlaethol yw'r Team Maths Challenge gyda'r nod o ymgysylltu a gwella sgiliau meddwl, cyfathrebu a gwaith tîm mathemategol y dysgwyr.

Ysbrydoli! Enwebiadau Gwobr 2017 - Galwad am enwebiadau

Bydd enwebiadau'n cau ddydd Gwener 3 Mawrth 2017

Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu llwyddiannau unigolion eithriadol, prosiectau a chyflogwyr a ddangosodd angerdd, ymrwymiad ac egni rhagorol i'w gwella eu hunain, eu cymuned neu eu gweithle drwy ddysgu, yn aml yn wyneb amgylchiadau anodd.

 

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym