|
|
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a’r Gweinidog
Iechyd y Cyhoedd yn cyhoeddi llythyr
ar y cyd i’r holl ysgolion cynradd yn eu hannog i danysgrifio i wefan
ddwyieithog newydd The Daily Mile. Datganiad i'r
wasg
|
Mae ysgol Anghenion Addysgol Ychwanegol newydd, sydd werth £13m ac sydd â lle ar gyfer 100 o ddisgyblion, wedi’i hagor yn swyddogol gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Cylch
Gwaith Estyn ar gyfer 2017/18 a gyhoeddwyd gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros
Addysg.
Gwobrau Dysgu
Digidol Cenedlaethol 2017
O hyn hyd pan agorir y broses ymgeisio ar gyfer
2017 ym mis Chwefror, byddwn yn rhannu adnoddau arfer da gan
yr ysgolion hynny enillodd wobrau neu glod uchel y llynedd ar Hwb.
Mae Ofice 365 Video ar gael nawr ar gyfer eich
ysgol drwy Hwb! Gallwch lanlwytho, rhannu a chwarae fideo yn ddiogel yn eich
ysgol. Gall athrawon fanteisio ar y datblygiad cyffrous hwn i ‘fflipio’ eu
hystafell ddosbarth a chaniatáu i ddysgwyr ffrydio nifer o fideos sydd wedi’u
lanlwytho gan athrawon ar unrhyw ddyfais sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd.
Rhestr
Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 - Enwebiadau Ar Agor!
Mae’r
Grŵp
Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr
Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018. Os
ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sectorau Addysg,
Llywodraeth Lleol, Cymunedau, Trechu Tlodi, Tai ac Adfywio sydd wedi dangos
llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 01/03/2017.
Mae
Barnardo's Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal yr ail gyfres o
ddigwyddiadau hyfforddi rhanbarthol ar Gamfanteisio Rhywiol ar yr adnodd addysg
ar-lein 'Cudd'. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch heddiw.
Dewch i glywed sut
gall Hwb gefnogi eich dysgu eleni. Archebwch eich lle nawr!
Mae’r Cyngor Prydeinig wedi datblygu cyfres
o adnoddau, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Frenhinol, er mwyn ehangu addysgu
gwyddoniaeth mewn ysgolion.
Mae’r pedwerydd adnodd yma yng nghyfres
Dosbarth Gwyddoniaeth y Gymanwlad yn ymchwilio i’r pwnc o ddiogelwch bwyd
byd-eang ac yn llawn o syniadau am weithgareddau i helpu myfyrwyr i archwilio’r
pwnc ymhellach. Rhowch gynnig ar wylio’r fideo gyda’ch
dosbarth? (cynnwys ar gael yn Saesneg yn unig)
Yn y gweithgaredd hwn, mae disgyblion yn edrych
am batrymau, yn cwblhau dilyniannau ac yn creu eu patrymau eu hunain. Mae yna
gyfle iddyn nhw ddatblygu eu dealltwriaeth o algorithmau drwy lunio
cyfarwyddiadau er mwyn i'r disgyblion eraill ail-greu eu patrymau (CA2).
Wythnos
nesaf yw Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori. Beth am roi cynnig ar y llyfrau
sain ar Hwb gyda'ch dosbarth?
Dyddiad
cau 1 Mawrth 2017
Ydych
ddysgwyr chi’n hoff o Wyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, Peirianneg neu Fathemateg?
Anogwch
nhw i gystadlu fel unigolion neu grwpiau gyda’r cyfle gwych o ennill gwobr i’w
wario gan ysgol y fuddugol ar unrhyw adnodd STEM.
|