eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru 13 Ionawr 2017 (Rhifyn 481):

13 Ionawr 2017 • Rhifyn 481

 
 
 
 
 
 

Newyddion Addysg yng nghymru

kirstywilliams

Blog newydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, AC

Wrth i’r flwyddyn ddechrau, rydym am fwrw ati ar unwaith i ddiwygio ym maes addysg; rydym am gymryd camau dewr a fydd yn gosod Cymru ymhlith y perfformwyr uchaf o ran rhoi’r addysg orau i’n plant mewn byd sy’n newid. Rwyf am gydweithio â chi i symud yr agenda hon yn ei blaen eleni.

QualsLogo130130

Hoffech chi helpu i siapio cymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru?

Rydym yn dymuno recriwtio dau aelod i Fwrdd Cymwysterau Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Ionawr 2017.

consultation9090

Casglu data am y gweithlu ysgolion 

Hoffem gael eich barn

 

mwy o newyddion Addysg

Ysgolion Creadigol Arweiniol – Rownd derfynol yn cau 27 Ionawr

Mae Rhaglen Ysgolion Creadigol Arweiniol yn cefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau creadigol o addysgu a dysgu ar draws y cwricwlwm.

Ewch i’r Parth Dysgu Creadigol i weld prosiectau ysgolion creadigol arweiniol yn cael eu gweithredu. 

Arolwg Dysgu Cymru

Bydd yr holiadur byr hwn ynghylch y cymorth a roddir i ddysgwyr yn profi sut mae’r safle’n cael ei drefnu. Bydd eich cyfraniad yn ein helpu ni i’w gwneud hi’n haws i chi ddod o hyd i’n dogfennau.

Seicolegwyr Addysg yng Nghymru

Gwybodaeth ar rôl y seicolegwyr addysg a'u cyfraniad i addysg yng Nghymru. Mae'r canllaw hwn wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol addysg a rhieni/gofalwyr.

Mwy o gyfleoedd i ymweld â CERN ar gyfer athrawon ffiseg yn 2017

  1. Ymweld â Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN) yn y Swistir yn ystod wythnos agored Athrawon DU (14 -18 Chwefror 2017). O bosib caiff eich costau teithio a llety eu talu gyda chefnogaeth y wobr ENTHUSE.  Anfonwch eich Datganiad o Ddiddordeb i Dysg@wales.gsi.gov.uk os gwelwch chi’n dda.
  2. Ymweld â CERN am gyfnod estynedig yn ystod Rhaglen Wythnosau Athrawon Rhyngwladol 2017 caiff eu cynnal rhwng 6-19 Awst. Dyddiad cau eich ceisiadau yw 22 Ionawr 2017

Dysgwyr Mwy Galluog a Thalentog -Canllawiau i’r sector addysg bellach yng Nghymru

Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar ddau adolygiad a edrychodd ar sut mae pobl ifanc ddisgleiriaf Cymru yn cael y gefnogaeth i gyflawni eu llawn botensial.

Cynllun Gweithredu’r Cyfnod Sylfaen

Bydd nifer o'r dulliau sylfaenol a ddefnyddir yn y Cyfnod Sylfaen, gan gynnwys dysgu drwy brofiad, yn cael eu defnyddio ar draws y cwricwlwm newydd i gyd. Felly, mae'n bwysig ein bod yn parhau i wella dulliau addysgu a dysgu yn y Cyfnod Sylfaen, fel ein bod yn gallu adeiladu'r cwricwlwm newydd ar sylfaen gadarn o arferion.

dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur

Digwyddiadau Rhanbarthol ADY – Archebwch eich lle

Bydd hwn yn gyfle ichi gael gwybod mwy am y rhaglen i drawsnewid y system ADY, derbyn gwybodaeth werthfawr ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a gyflwynwyd yn ddiweddar, rhannu eich safbwyntiau ar yr opsiynau o ran gweithredu’r newidiadau deddfwriaethol, a rhwydweithio gydag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol sy’n helpu i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.

  • Caerfyrddin - 28 Chwefror 2017
  • Casnewydd -  02 Mawrth 2017
  • Llandudno - 07 Mawrth 2017
  • Caerdydd - 09 Mawrth 2017

Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2017

O hyn hyd pan agorir y broses ymgeisio ar gyfer 2017 ym mis Chwefror, byddwn yn rhannu adnoddau arfer da gan yr ysgolion hynny enillodd wobrau neu glod uchel y llynedd ar Hwb. Mae’r adnodd engreifftiol cyntaf ar gael - enillydd gwobr e-ddiogelwch 2016 ac enghraifft clod uchel

'Cudd' hyfforddi ar Gamfanteisio Rhywiol gyda Barnardo's Cymru

Mae Barnardo's Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynnal yr ail gyfres o ddigwyddiadau hyfforddi rhanbarthol ar Gamfanteisio Rhywiol ar yr adnodd addysg ar-lein 'Cudd'. Cofrestrwch yma.

Sioe BETT 2017

Mae gan dîm Hwb stondin yn sioe BETT 2017 yn ExCel Llundain i hyrwyddo’r rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol. Os ydych yn dod i Sioe BETT, galwch heibio stondin H310 i weld pa dechnolegau sy’n cael eu hariannu’n ganolog a’u cynnig i ysgolion a gynhelir yng Nghymru

#DyddMiwsigCymru - Dathlu Cerddoriaeth Cymraeg 2017

Bydd #DyddMiwsigCymru yn digwydd am yr ail dro ar 10 Chwefror, 2017. Gall unrhyw un gymryd rhan yn y dathlu, felly os hoffech eich ysgtol chi gymryd rhan, cliciwch ar y dolen uchod!

Llwybrau Llwyddiant: Cynhadledd Masnacheiddio - 17 Chwefror 2017

Glannau Dyfrdwy 6, Coleg Cambria

Cynulleidfa:

  • Cynrychiolwyr AB sy'n ymwneud â datblygu busnes ac arloesi
  • Rhanddeiliaid â diddordeb mewn newid masnacheiddio a chynaliadwyedd busnes

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017

Digwyddiad Cadw Dysgwyr yn ddiogel ar-lein

Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2017, Y Senedd, Bae Caerdydd

I gefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017, mae’r digwyddiad amser cinio hon yn nodi lansiad swyddogol Parth Diogelwch Ar-lein ar Hwb, platfform dysgu digidol Cymru. 

Ymhlith y prif siaradwyr fydd:

  • Kirsty Williams, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg
  • Dr. Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru
  • Kellie Williams, Arweinydd Digidol – Gwasanaeth Gwella ac Effeithiolrwydd Ysgolion Gogledd Cymru
  • David Wright, Canolfan Rhyngrwyd yn Fwy Diogel DU

Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017 - Pecynnau Addysg

Mae Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU wedi creu pecynnau addysg i gefnogi ysgolion sy'n bwriadu cymryd rhan a chynnal gweithgareddau ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017.

ADNODDAU A CHYSTADLAETHAU

Adnoddau mathemateg i rieni

Yn dilyn adborth gan rieni/gofalwyr, un thema sy'n codi dro ar ôl tro yw eu bod yn pryderu am eu sgiliau mathemateg a'u gallu i gefnogi eu plant gartref. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag arbenigwyr rhifedd yng Nghymru i gynhyrchu detholiad o adnoddau mathemateg ar gyfer plant 3 i 16 oed i annog rhieni/gofalwyr i ymgysylltu â'u plant a'u helpu gyda'u gwaith cartref mathemateg.

Cystadleuaeth Prosiect Gwyddoniaeth Yr Urdd

Dyddiad cau 1 Mawrth 2017

Ydych ddysgwyr chi’n hoff o Wyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, Peirianneg neu Fathemateg?

Anogwch nhw i gystadlu fel unigolion neu grwpiau gyda’r cyfle gwych o ennill gwobr i’w wario gan ysgol y fuddugol ar unrhyw adnodd STEM

Canllawiau Cryno ar Greu Ffilmiau

Cyfres o ddogfennau, yn dilyn y broses o’r cyfnod cyn-cynhyrchu i’r cyfnod ôl-gynhyrchu.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym