eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 6 Ionawr 2017 (Rhifyn 159)

6 Ionawr 2017 • Rhifyn 159

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

ALNDecember9090

Cyflwyniad Bill ADY uchelgeisiol newydd

Ar ddydd Llun 12 Rhagfyr cyhoeddodd y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg Ddatganiad Gweinidogol Ysgrifenedig yn cyhoeddi cyflwyniad cyfraith uchelgeisiol i greu dull newydd beiddgar i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).    

Dyddiad i'ch dyddiadur: Digwyddiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol

  • Caerfyrddin - 28 Chwefror 2017
  • Casnewydd - 2 Mawrth 2017
  • Llandudno -7 Mawrth 2017
  • Caerdydd - 9 Mawrth 2017

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Cymorth o £500,000 gan Lywodraeth Cymru i glybiau hwyl a chinio newydd adeg gwyliau’r haf  – Kirsty Williams

Bydd buddsoddiad o’r newydd gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ddarparu prydau a gweithgareddau o ansawdd yn ystod gwyliau haf ysgolion er mwyn helpu disgyblion o rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg heddiw.

Gostyngiad mewn absenoldeb mewn ysgolion cynradd yn ystod y degawd diwethaf – Kirsty Williams

Mae’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi croesawu ffigurau newydd sy’n dangos bod absenoldeb mewn ysgolion cynradd yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf

Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol mewn ysgolion cynradd

Dyma ymateb i adroddiad Estyn sy’n archwilio effaith arweiniad Llywodraeth Cymru ar reoli absenoldeb staff mewn ysgolion cynradd.

Cyfranogiad Disgyblion: canllaw arfer orau (Estyn)

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r nodweddion sydd gan ysgolion sy’n rhoi llais cryf i’w disgyblion ac mae’n cynnwys astudiaethau achos i helpu pob ysgol i wella cyfranogiad ei disgyblion.

Y bwlch yn cau eto i ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim

Mae’r bwlch rhwng disgyblion yng Nghymru sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion yn parhau i gau yn ôl y ffigurau swyddogol diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw.

Arolwg ar Broffil y Cyfnod Sylfaen

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 13 Ionawr 2017

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i gael cymaint o farnau â phosibl ar Broffil y Cyfnod Sylfaen. Bydd eich ymatebion yn llywio ein hymagwedd yn y dyfodol ac i’n helpu i benderfynnu oes angen gwneud unrhyw ddiwygiadau. 

11 cam gweithredu i gefnogi dysgu proffesiynol a datblygiad arweinyddiaeth yng ngweithlu y #CyfnodSylfaen

Ymsefydlu statudol ar gyfer ANGau yng Nghymru – canllaw newydd

Mae’r canllaw yn amlinellu’r broses ymsefydlu, y gofynion statudol a’r cymorth sydd ar gael. Mae hefyd yn cyfeirio at wybodaeth bellach.

Cyfres fideo o'r #YGA2016 nawr ar gael! 

Gallech hefyd lawrlwytho'r cyflwyniadau ar dudalen Dysgu Cymru.

Cysoni dyddiadau tymhorau ysgolion ar gyfer 2018 i 2019

Rydym eisiau eich sylwadau ynghylch y dyddiadau tymhorau arfaethedig ar gyfer 2018/19 a chyfarwyddyd drafft gan y Gweinidog.

Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol

Cyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar 14 Rhagfyr.  Mae'n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â sefydliadau sy'n bartneriaid - yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig - i symud tuag at gymdeithas sy'n fwy cynhwysol yn ariannol yng Nghymru. Strategaeth Cynhwysiant Ariannol i Gymru 2016 

Byw Heb Ofn - Cyngor ar Gam-drin Domestig, Trais Rhywiol a Thrais yn erbyn Menywod

Adolygiad o’r adnoddau addysgu presennol ynghylch perthynas iach a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae’r pecyn cymorth, yr wybodaeth a’r canllawiau hyn yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sy’n arddangos yr arferion gorau, er mwyn i ddarparwyr addysg gynradd, uwchradd ac addysg bellach eu defnyddio yn eu lleoliadau addysg.

Hwb

CwrddHwb Porthmadog – 19 Ionawr 2017

Archebwch eich lle nawr!

Sioe Bett 2017

Wrthi’n cynllunio trip i Bett 2017? Peidiwch ag anghofio cofrestru ar gyfer eich tocyn am ddim i weld pa dechnolegau sy’n cael eu hariannu’n ganolog a chymorth rydyn ni’n eu cynnig i ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 

E-byst diogel – Amgryptio Negeseuon Hwb

Amgryptio Negeseuon Hwb (HME) yw un o’r tri rheolydd ar lefel uwch sydd wedi’u hamlinellu yn ein dogfen canllawiau ar ddiogelwch gwybodaeth all gael eu defnyddio i ychwanegu haen arall o ddiogelwch i e-byst. Dim ond e-byst sy’n cael eu hanfon o gyfrif Hwbmail i gyfrif e-bost allanol sy’n cael eu diogelu gan HME. I gael rhagor o wybodaeth bydd angen mewngofnodi i Hwb i ddarllen y Canllawiau ar ddiogelu HwbMail.

ADNODDAU A CHYSTADLAETHAU

Adnoddau Dysgu ac Addysgu STEM newyddi Cyfnod Allweddol 2

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB), gyda phartneriaid, wedi comisiynu datblygu adnoddau dosbarth CA2 newydd ac am ddim, ynghyd â ffilm fer, i ychwanegu gwerth at ddeunyddiau cwricwlwm cenedlaethol. 

Archwilio Pam

Cyfres o lyfrau ar-lein a gweithgareddau i gefnogi addysg grefyddol. (Cyfnod Sylfaen)

Adnoddau Barefoot Computing

Mae adnoddau cyfrifiadura Barefoot i ysgolion cynradd yn helpu athrawon cynradd i ddysgu disgyblion i fod yn hyderus wrth feddwl yn gyfrifiadurol. Bydd angen mewngofnodi i Hwb er mwyn gallu gweld a defnyddio’r casgliad hwn. (CA2)

Blwyddyn Newydd Tseiniaidd 2017 – Pecyn Addysg Cynradd

Mae'r pecyn yn cynnwys gwybodaeth a gweithgareddau i helpu athrawon a disgyblion i ddysgu mwy am yr wŷl hon, ac am ddiwylliant a iaith Tsieina. 

Cystadleuaeth Raspberry Pi 2016-2017 – ymgeisiwch nawr!

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 15 Mawrth 2017

Mae cystadleuaeth flynyddol Raspberry Pi yn rhoi cant o becynnau datblygu sy’n cynnwys y cyfrifiadur un bwrdd, maint cerdyn credyd, i ysgolion ledled Prydain. Mae’r gystadleuaeth yn herio timau o blant a phobl ifanc i ddyfeisio rhaglenni arloesol i wneud y byd yn lle gwell. 

Cystadleuaeth Geiriau Can a Barddoniaeth - ar agor nawr!

CASCADE: Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Cystadleuaeth Geiriau Can a Barddoniaeth ar gyfer pobl ifanc sydd gan brofiad o fod mewn gofal gyda'r thema "Negeseuon i Ysgolion".

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant cyn-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym