eCylchlythyr DYSG cyn-11 Llywodraeth Cymru: 16 Rhagfyr 2016 (Rhifyn 158)

16 Rhagfyr 2016 • Rhifyn 158

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

ALNDecember9090

Cyflwyniad Bill ADY uchelgeisiol newydd

Ar ddydd Llun 12 Rhagfyr cyhoeddodd y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg Ddatganiad Gweinidogol Ysgrifenedig yn cyhoeddi cyflwyniad cyfraith uchelgeisiol i greu dull newydd beiddgar i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  Os caiff ei basio, bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn hollol ailwampio'r system ar gyfer cefnogi disgyblion ag ADY, gan effeithio ar bron pob dosbarth yng Nghymru. 


Dyddiad i'ch dyddiadur: Digwyddiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol

  • Caerfyrddin - 28 Chwefror 2017
  • Casnewydd - 2 Mawrth 2017
  • Llandudno -7 Mawrth 2017
  • Caerdydd - 9 Mawrth 2017

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Y bwlch yn cau eto i ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim

Mae’r bwlch rhwng disgyblion yng Nghymru sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion yn parhau i gau yn ôl y ffigurau swyddogol diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw.

Arolwg ar Broffil y Cyfnod Sylfaen

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 13 Ionawr 2017

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i gael cymaint o farnau â phosibl ar Broffil y Cyfnod Sylfaen, a gyflwynwyd ym mis Medi 2015 fel yr offeryn asesu gwaelodlin statudol ar ddechrau'r Dosbarth Derbyn. Bydd eich ymatebion yn llywio ein hymagwedd yn y dyfodol ac i’n helpu i benderfynnu oes angen gwneud unrhyw ddiwygiadau. 

11 cam gweithredu i gefnogi dysgu proffesiynol a datblygiad arweinyddiaeth yng ngweithlu y #CyfnodSylfaen

Datblygu’r Cwricwlwm newydd i Gymru: Astudiaeth Achos

Bu i Ysgol Bryn Elian helpu i ddatblygu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Yma mae Allen Heard yn rhannu ei brofiadau o weithio gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol hyd yn hyn.

Blog newydd - Gwerthusiad o’r Model Ysgolion Arloesi

Argymhellodd ‘Dyfodol Llwyddiannus‘ y dylid cynnal gwerthusiad annibynnol o’r dull gweithredu ar gyfer datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r gwerthusiad hwn bellach ar waith, ac yn canolbwyntio ar y strwythur newid i ddechrau.

Ymsefydlu statudol ar gyfer ANGau yng Nghymru – canllaw newydd

Mae’r canllaw yn amlinellu’r broses ymsefydlu, y gofynion statudol a’r cymorth sydd ar gael. Mae hefyd yn cyfeirio at wybodaeth bellach.

Cyfres fideo o'r #YGA2016 nawr ar gael! 

Gallech hefyd lawrlwytho'r cyflwyniadau ar dudalen Dysgu Cymru.

Cysoni dyddiadau tymhorau ysgolion ar gyfer 2018 i 2019

Rydym eisiau eich sylwadau ynghylch y dyddiadau tymhorau arfaethedig ar gyfer 2018/19 a chyfarwyddyd drafft gan y Gweinidog.

Cyfranogiad Disgyblion: canllaw arfer orau (Estyn)

Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol

Cyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar 14 Rhagfyr.  Mae'n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â sefydliadau sy'n bartneriaid - yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig - i symud tuag at gymdeithas sy'n fwy cynhwysol yn ariannol yng Nghymru. Strategaeth Cynhwysiant Ariannol i Gymru 2016 

Byw Heb Ofn - Cyngor ar Gam-drin Domestig, Trais Rhywiol a Thrais yn erbyn Menywod

Adolygiad o’r adnoddau addysgu presennol ynghylch perthynas iach a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae’r pecyn cymorth, yr wybodaeth a’r canllawiau hyn yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sy’n arddangos yr arferion gorau, er mwyn i ddarparwyr addysg gynradd, uwchradd ac addysg bellach eu defnyddio yn eu lleoliadau addysg.

Hwb

Canllawiau rheoli gwybodaeth i ysgolion: Ar gael nawr

Mae’r ddogfen ganllaw ddiweddaraf ar ddiogelwch gwybodaeth ar gael erbyn hyn.  Mae’n sôn am y dulliau rheoli diogelwch sydd ar gael o fewn HwbCloud (HwbMail, HwbSites a HwbDrive).

CwrddHwb Porthmadog – 19 Ionawr 2017

Archebwch eich lle nawr!

Sioe Bett 2017

Wrthi’n cynllunio trip i Bett 2017? Peidiwch ag anghofio cofrestru ar gyfer eich tocyn am ddim i weld pa dechnolegau sy’n cael eu hariannu’n ganolog a chymorth rydyn ni’n eu cynnig i ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 

newyddion arall

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth cerdyn Nadolig y Prif Weinidog

Travis Carter, naw oed, o Ysgol Gymraeg Cwmbrân yw enillydd y gystadleuaeth i lunio cerdyn Nadolig Prif Weinidog Cymru. Daeth ei gerdyn i’r brig o blith y cannoedd o gardiau eraill yn y gystadleuaeth.

Cystadleuaeth Raspberry Pi 2016-2017 – ymgeisiwch nawr!

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 15 Mawrth 2017

Mae cystadleuaeth flynyddol Raspberry Pi yn rhoi cant o becynnau datblygu sy’n cynnwys y cyfrifiadur un bwrdd, maint cerdyn credyd, i ysgolion ledled Prydain. Mae’r gystadleuaeth yn herio timau o blant a phobl ifanc i ddyfeisio rhaglenni arloesol i wneud y byd yn lle gwell. 

Cystadleuaeth Geiriau Can a Barddoniaeth - ar agor nawr!

CASCADE: Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Cystadleuaeth Geiriau Can a Barddoniaeth ar gyfer pobl ifanc sydd gan brofiad o fod mewn gofal gyda'r thema "Negeseuon i Ysgolion".

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant cyn-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym