eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru 16 Rhagfyr 2016 (Rhifyn 479):

16 Rhagfyr 2016 • Rhifyn 479

 
 
 
 
 
 

Newyddion Addysg yng nghymru

ALNDecember9090

Cyflwyniad Bill ADY uchelgeisiol newydd

Ar ddydd Llun 12 Rhagfyr cyhoeddodd y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg Ddatganiad Gweinidogol Ysgrifenedig yn cyhoeddi cyflwyniad cyfraith uchelgeisiol i greu dull newydd beiddgar i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  Os caiff ei basio, bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn hollol ailwampio'r system ar gyfer cefnogi disgyblion ag ADY, gan effeithio ar bron pob dosbarth yng Nghymru. 


Dyddiad i'ch dyddiadur: Digwyddiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol

  • Caerfyrddin - 28 Chwefror 2017
  • Casnewydd - 2 Mawrth 2017
  • Llandudno -7 Mawrth 2017
  • Caerdydd - 9 Mawrth 2017

cymwysterau yng nghymru

Mae cymwysterau yn newid

Mae cymwysterau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn newid. Mae rheoleiddwyr y cymwysterau hyn ym mhob awdurdodaeth yn goruchwylio'r newidiadau a mae gwybodaeth ar wefan Cymwysterau Cymru, yn cynnwys ffeithlunYn y dyfodol, bydd gwahaniaethau yn y rhan fwyaf o bynciau rhwng awdurdodaethau. Bydd rhai o'r rhain yn amlwg ar unwaith, megis y drefn raddio ar gyfer cymwysterau TGAU neu'r berthynas rhwng UG a Safon Uwch. Mae gwahaniaethau eraill yn llai amlwg, er enghraifft, gwahaniaethau yn y cynnwys neu'r dulliau asesu a ddefnyddir o fewn pynciau.

Newidiadau i TGAU Cymraeg Ail Iaith

O fis Medi 2017 ymlaen, bydd TGAU Cymraeg Ail Iaith yn newid. Mae Cymwysterau Cymru, Llywodraeth Cymru, CBAC, Estyn a’r Consortia Addysg Rhanbarthol wedi cynhyrchu tudalen wybodaeth ar y cyd i roi gwybodaeth i ddisgyblion, athrawon, arweinwyr ysgolion, rhieni ac eraill i ddeall yn well y goblygiadau iddyn nhw ac i baratoi ar gyfer y newid hwn. Dilynwch y ddolen uchod i ddysgu mwy am y newidiadau penodol sy’n digwydd, prif nodweddion y cymhwyster TGAU newydd, y gefnogaeth a fydd ar gael i athrawon sy’n paratoi ar gyfer addysgu’r cymhwyster newydd, a’r effaith bosib ar ysgolion.

TGAU Cymraeg Ail Iaith – cyfarfodydd rhanbarthol

Mae Cymwysterau Cymru yn cynnal cyfres o gyfarfodydd rhanbarthol am ddim i gefnogi'r gwaith o weithredu'r TGAU Cymraeg Ail Iaith diwygiedig ym mis Medi 2017. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cynnig cyfle i athrawon pwnc ac arweinwyr ysgolion drafod y newidiadau i'r pwnc gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, CBAC, y Cosortia Rhanbarthol a Cymwysterau Cymru.

Cymwysterau Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ysgolion am ddiwygio cymwysterau TGAU a Safon Uwch

Mae Cymwysterau Cymru wedi ysgrifennu i ysgolion a cholegau yng Nghymru i rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gyfres olaf o newidiadau i gymwysterau TGAU a Safon Uwch.

Mae'r llythyr yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r cymwysterau TGAU a Safon Uwch newydd sy'n cael eu diwygio ar gyfer mis Medi 2017. Mae hefyd yn rhoi trosolwg o'r holl bynciau TGAU a Safon Uwch fydd ar gael i ysgolion yng Nghymru o 2017 ymlaen.

mwy o newyddion Addysg

Adroddiad Blynyddol 'Dyfodol Byd-eang' a Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Sbaen

Cafodd adroddiad blynyddol cyntaf y cynllun Dyfodol Byd-eang ei gyhoeddi ddydd Mercher 14 Rhagfyr ac mae'n dangos y cynnydd a wnaed hyd yn hyn o dan Dyfodol Byd-eang i hybu ieithoedd, codi niferoedd sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion yng Nghymru a chyrhaeddiad yn y pynciau hyn. Un o'r prif gyflawniadau o dan y cynllun yw datblygu memorandwm cyd-ddealltwriaeth addysg (MOU) rhwng Cymru a Sbaen.

Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol

Cyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar 14 Rhagfyr.  Mae'n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â sefydliadau sy'n bartneriaid - yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig - i symud tuag at gymdeithas sy'n fwy cynhwysol yn ariannol yng Nghymru. Strategaeth Cynhwysiant Ariannol i Gymru 2016 

Cysoni dyddiadau tymhorau ysgolion ar gyfer 2018 i 2019

Rydym eisiau eich sylwadau ynghylch y dyddiadau tymhorau arfaethedig ar gyfer 2018/19 a chyfarwyddyd drafft gan y Gweinidog.

Blaenoriaethau ar gyfer y Sector Addysg Bellach a darpariaeth chweched dosbarth 2017/18 

Mae'r blaenoriaethau wedi'u gosod yng nghyd-destun yr Agenda Sgiliau, sef swyddi a thwf, cynaliadwyedd ariannol, cydraddoldeb a thegwch a meincnodi sgiliau rhyngwladol. Bydd cadarnhau'r themâu a bennwyd yn darparu fframwaith ar gyfer datblygu strategaethau a chynlluniau gweithredol at y dyfodol.

Cyfres fideo o'r #YGA2016 nawr ar gael! 

Mae'r cyflwyniadau hefyd ar gael ar Dysgu Cymru. 

Cyfranogiad Disgyblion: canllaw arfer orau (Estyn)

Dysgu oedolion yn y gymuned yng Nghymru (Estyn)

Hwb

Canllawiau rheoli gwybodaeth i ysgolion

Mae’r ddogfen ganllaw ddiweddaraf ar ddiogelwch gwybodaeth ar gael erbyn hyn.  Mae’n sôn am y dulliau rheoli diogelwch sydd ar gael o fewn HwbCloud (HwbMail, HwbSites a HwbDrive).

CwrddHwb Porthmadog – 19 Ionawr 2017

Archebwch eich lle nawr!

newyddion arall

Cystadleuaeth Raspberry Pi 2016-2017 – ymgeisiwch nawr!

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 15 Mawrth 2017

Mae cystadleuaeth flynyddol Raspberry Pi yn rhoi cant o becynnau datblygu sy’n cynnwys y cyfrifiadur un bwrdd, maint cerdyn credyd, i ysgolion ledled Prydain. Mae’r gystadleuaeth yn herio timau o blant a phobl ifanc i ddyfeisio rhaglenni arloesol i wneud y byd yn lle gwell. 

Hoffech chi helpu i siapio cymwysterau a’r system gymwysterau yng Nghymru?

Rydym yn dymuno recriwtio dau aelod i Fwrdd Cymwysterau Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 20 Ionawr 2017.

Sioe Deithiol CA4 ganmoliaethus FFT yn helpu athrawon uwchradd i ddeall amrywiaeth sydd ar gael o fesurau cynnydd a chyrhaeddiad

Mae arbenigwyr data addysg FFT Education yn cynnal cyfres o sioeau teithiol dwy awr  ganmoliaethus ledled Cymru i ddod â thimau arwain ysgolion a chyrff llywodraethu i fyny yn gyflym gyda'r data diweddaraf Cyfnod Allweddol 4 Fischer Family Trust ar gafael yn FFT Aspire.

Archebwch eich ymweliad STEM rhad-ac-am-ddim i Ganolfan y Dechnoleg Amgen

Mae grantiau'r CDA ar gael i ysgolion a cholegau yng Ngogledd Cymru ac mae'r cynnig yn agored i 11-18. Cysylltwch â Gabrielle Ashton ar 01654 705984 am ragor o wybodaeth.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym