eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru : 9 Rhagfyr 2016 (Rhifyn 478)

9 Rhagfyr 2016 • Rhifyn 478

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

KW9090

Fideo o'r #YGA2016 nawr ar gael!

Ar ddydd Iau, 17 Tachwedd a Dydd Llun, 21 Tachwedd, cynhaliwyd Y Gynhadledd Addysg Genedlaethol: Ymgorffori Diwygio Addysg yng Nghymru - y Genhadaeth Genedlaethol.

 

Roedd prif siaradwyr y digwyddiad yn cynnwys Kirsty Williams, AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, yr Athro Mick Waters a'r Athro John Furlong.  Gallech hefyd lawrlwytho'r cyflwyniadau ar dudalen Dysgu Cymru.

FSM9090

Y bwlch yn cau eto i ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim

Mae’r bwlch rhwng disgyblion yng Nghymru sy’n derbyn prydau ysgol am ddim a’u cyd-ddisgyblion yn parhau i gau yn ôl y ffigurau swyddogol diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw.

Bydd Cymru yn ddigon dewr i gyflawni’r genhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg – Kirsty Williams

Bydd Cymru yn ddigon dewr i gyflawni ei chenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg meddai Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, heddiw (dydd Mawrth 6 Rhagfyr) wrth i ganlyniadau PISA gael eu cyhoeddi. Datganiad a’r adroddiad llawn

#cwricwlwmigymru

Datblygu’r Cwricwlwm newydd i Gymru: Astudiaeth Achos

Bu i Ysgol Bryn Elian helpu i ddatblygu’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Yma mae Allen Heard yn rhannu ei brofiadau o weithio gyda’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol hyd yn hyn.

Blog newydd - Gwerthusiad o’r Model Ysgolion Arloesi

Argymhellodd ‘Dyfodol Llwyddiannus‘ y dylid cynnal gwerthusiad annibynnol o’r dull gweithredu ar gyfer datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r gwerthusiad hwn bellach ar waith, ac yn canolbwyntio ar y strwythur newid i ddechrau.

mwy o newyddion addysg

Ymsefydlu statudol ar gyfer ANGau yng Nghymru – canllaw newydd

Mae’r canllaw yn amlinellu’r broses ymsefydlu, y gofynion statudol a’r cymorth sydd ar gael. Mae hefyd yn cyfeirio at wybodaeth bellach.

Ceisiadau ar gyfer pythefnos o gwrs preswyl haf (6-19 Awst 2016) yn CERN ar agor

Yn agored i holl athrawon gwyddoniaeth uwchradd.  Dyddiad cau 31 Rhagfyr 2016.  Ffurflen gais

Byw Heb Ofn - Cyngor ar Gam-drin Domestig, Trais Rhywiol a Thrais yn erbyn Menywod

Adolygiad o’r adnoddau addysgu presennol ynghylch perthynas iach a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae’r pecyn cymorth, yr wybodaeth a’r canllawiau hyn yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sy’n arddangos yr arferion gorau, er mwyn i ddarparwyr addysg gynradd, uwchradd ac addysg bellach eu defnyddio yn eu lleoliadau addysg.

Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth cerdyn Nadolig y Prif Weinidog

Travis Carter, naw oed, o Ysgol Gymraeg Cwmbrân yw enillydd y gystadleuaeth i lunio cerdyn Nadolig Prif Weinidog Cymru. Daeth ei gerdyn i’r brig o blith y cannoedd o gardiau eraill yn y gystadleuaeth.

 

Sioe Bett 2017

Wrthi’n cynllunio trip i Bett 2017? Peidiwch ag anghofio cofrestru ar gyfer eich tocyn am ddim i weld pa dechnolegau sy’n cael eu hariannu’n ganolog a chymorth rydyn ni’n eu cynnig i ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

CwrddHwb Porthmadog – 19 Ionawr 2017

Archebwch eich lle nawr!

ADNODDAU a chystadleuthau

Ymddiriedolaeth Addysgol Yr Holocost – Gwersi o Auschwitz

Mae’r Prosiect Gwersi o Auschwitz yn mynd a myfyrwyr ac athrawon o bob rhan o’r DU i wersyll crynnhoi a marwolaeth Auschwitz-Birkenau.  Ei nod yw i codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth mewn ysgolion ac ymhlith y cyhoedd ehanagach o’r Holocost a’I berthansedd heddiw. 

Cystadleuaeth Geiriau Can a Barddoniaeth - ar agor nawr!

CASCADE: Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal Cystadleuaeth Geiriau Can a Barddoniaeth ar gyfer pobl ifanc sydd gan brofiad o fod mewn gofal gyda'r thema "Negeseuon i Ysgolion".

Gweiddi - Rhifyn 40 - Blwyddyn Gron

Mae cylchgrawn Gweiddi nawr yn fyw! Thema’r rhifyn yma yw “Blwyddyn Gron”. Gan ei bod hi’n ddiwedd y flwyddyn, rydyn ni’n edrych yn ôl yn y rhifyn hwn. Beth oedd yn y Sioe Dillad Technolegol ym mis Mawrth? Pa offer arbennig sydd wedi cael eu dyfeisio ar gyfer cŵn? Pam roedd gwylan yn drewi o saws cyrri yn ystod yr haf? Darllenwch a mwynhewch!

 

newyddion arall

Gwobr Clercod 2017

Oes gennych chi Glerc eithriadol? Enwebiadau i'w derbyn erbyn dydd Gwener 16 Rhagfyr 2016.

Cysylltu Dosbarthiadau

Ymunwch â'r rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau y Cyngor Prydeinig ar gyfer dysgu proffesiynol rhad ac am ddim i'ch cefnogi gyda'r Sgiliau Ehangach a Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Darllenwch fwy.

Sioe Deithiol CA4 cyflenwol FFT yn helpu athrawon uwchradd i ddeall amrywiaeth sydd ar gael o fesurau cynnydd a chyrhaeddiad

Mae arbenigwyr data addysg FFT Education yn cynnal cyfres o sioeau dwy-awr teithiol cyflenwol ledled Cymru i ddod â thimau arwain ysgolion a chyrff llywodraethu i fyny yn gyflym gyda'r data diweddaraf Cyfnod Allweddol 4 Fischer Family Trust ar gafael yn FFT Aspire.

Prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE): ffilmiau byr a straeon digidol

Mae adnoddau digidol newydd ar gael i helpu i godi ymwybyddiaeth o brofiadau plant aelodau'r lluoedd arfog.

Digwyddiadau ar gyfer Myfyrwyr yng Nghymru - Rhaglen Cefnogi Mathemateg Ymhellach

Mae FMSP Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnal 3 cynhadledd undydd i fyfyrwyr blwyddyn 12 ym mis Ionawr 2017 - Prifysgol Aberystwyth 16 Ionawr; Prifysgol Caerdydd 18 Ionawr a Phrifysgol Bangor 20 Ionawr. Bydd y cynhadleddau yn cynnwys gweithdai a sgyrsiau hwyliog a heriol. 

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym