|
|
Darnau fideo #YGA2016 nawr ar gael!
I'r pennaethiaid na chafwyd cyfle i fynychu'r gynhadleddau, mae darnau video a chyflwyniadau o'r digwyddiadau, yn
cynnwys araith yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC, yr
Athro Mick Waters a'r Athro John Furlong ar YouTube fel rhestr wylio.
|
|
|
Helpodd Ysgol Bro Morgannwg i ddatblygu’r
Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Dyma’r athro, Dilwyn
Owen, i esbonio sut mae’r Fframwaith newydd yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgol.
|
Gall carbon monocsid (CO) ladd. Gellir atal
gwenwyno trwy CO yn hawdd. Darllenwch ymlaen i weld sut.
Mae’r canllaw yn
amlinellu’r broses ymsefydlu, y gofynion statudol a’r cymorth sydd ar gael. Mae
hefyd yn cyfeirio at wybodaeth bellach.
Beth am weld y fideo Lleoliad i Athrawon a datganwch eich diddordeb drwy ebostio Dysg@wales.gsi.gov.uk
Yn
agored i holl athrawon gwyddoniaeth uwchradd. Dyddiad cau 31 Rhagfyr
2016. Ffurflen gais
Mae
adnoddau digidol newydd ar gael i helpu i godi ymwybyddiaeth o brofiadau plant
aelodau'r lluoedd arfog.. Mae’r straeon, sy’n cael eu hadrodd gan y plant eu
hunain, rhieni ac athrawon yn dweud am eu profiadau mewn ysgolion yng Nghymru a
rhoi cipolwg i sut fywyd ganddyn nhw.
Ar hyn o bryd mae’r trefniadau a ddefnyddir i fesur perfformiad yn y chweched dosbarth yn wahanol i’r rhai a ddefnyddir mewn addysg bellach/dysgu seiliedig ar waith. Maent yn defnyddio systemau data gwahanol, sy’n golygu na allwn fesur deilliannau mewn ffordd ystyrlon ar draws yr holl leoliadau dysgu, ac nad oes gwybodaeth eglur ar gael i ddysgwyr a’u rhieni i’w helpu i wneud eu dewisiadau.
Mae’r adroddiad yn cynnwys dolenni i bob dogfen a luniwyd ar gyfer ysgolion a’u cyrff llywodraethu dros y flwyddyn academaidd o 2015 i 2016
Dyma'r rhifyn pedwerydd ar ddeg yng nghyfres Ciwb sydd wedi
anelu at ddisgyblion blwyddyn 9. Thema'r rhifyn yma yw “Disgrifio”. Rydych
chi’n mynd i ddarllen am "Anifeiliaid coch, pinc a glas", "Ynys
y Cathod", "Rasio i lawr bryn ar gefn beic" a llawer mwy.
Darllenwch a mwynhewch!
Peidiwch
â cholli allan! Rhowch gynnig ar gystadleuaeth Defnyddio’r Rhyngrwyd yn
Fwy Diogel 2017. Mae’r gystadleuaeth yn cloi ar y 12 Rhagfyr.
Cystadleuaeth
Raspberry Pi 2016-2017 – ymgeisiwch nawr!
Dyddiad
cau y gystadleuaeth yw 15 Mawrth 2017
Mae
cystadleuaeth flynyddol Raspberry Pi yn rhoi cant o becynnau datblygu sy’n
cynnwys y cyfrifiadur un bwrdd, maint cerdyn credyd, i ysgolion ledled Prydain.
Mae’r gystadleuaeth yn herio timau o blant a phobl ifanc i ddyfeisio rhaglenni
arloesol i wneud y byd yn lle gwell. Cysylltwch â RaspberryPi am ragor o wybodaeth.
Mae cylchgrawn newydd Gweiddi nawr yn fyw! Thema'r rhifyn
yma yw “Teg edrych tuag adre”. Gall dysgwyr Cymraeg Cyfnod Allweddol 3 ddarllen
am wahanol fathau o gartrefi, Y Navaho a llawer mwy.
Cyfarfodydd
anffurfiol yw digwyddiadau CwrddHwb ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am syniadau
arloesol ar gyfer addysgu a dysgu digidol. Bydd archebion ar gyfer digwyddiadau eraill Tymor y Gaeaf yn
agor cyn bo hir.
Adnoddau dan sylw yr wythnos hon:
Adroddiad sy'n cyflwyno gwybodaeth am ddysgwyr sydd wedi cofrestru a'u gweithgareddau yn ôl oedran, rhyw, dull astudio, y math o raglen a lefel astudio.
Adroddiad blynyddol a gynhyrchwyd gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn dangos gwybodaeth yn ôl y math o gefnogaeth.
(Taenlen ddogfen agored) (Saesneg yn unig)
Mae’r Rhaglen Dysgu Byd-Eang, Cymru wedi rhoi rhestr o syniadau ac adnoddau
at ei gilydd er mwyn rhoi dimensiwn byd-eang i 10 o hawliau plant poblogaidd.
13
– 15 Ionawr 2017, Neuadd Gregynog
Wyddoch
chi fod dysgu Lladin yn gallu helpu efo llythrennedd a dysgu ieithoedd eraill?
Dyma
gyfle cyffrous i ddysgu sut y gall y Clasuron a Lladin gael eu plethu i
mewn neu ei gynnwys yn eich addysgu cyfredol. Mae’n agored i unrhyw athro, mewn
unrhyw bwnc, mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru. Cysylltwch â catherine.rozier@swansea.ac.uk am fanylion pellach.
|