|
|
Mae'r cyflwyniadau o #YGA2016 nawr ar gael. I'r pennaethiaid na chafwyd cyfle i fynychu'r gynhadleddau, bydd ffilmiau o'r digwyddiadau, yn cynnwys araith yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, yr Athro Mick Waters a'r Athro John Furlong ar YouTube fel rhestr wylio.
|
|
|
Dyddiad cau: 2 Rhagfyr 2016
|
|
|
Darganfyddwch mwy am sut mae
Llywodraeth Cymru yn trawsnewid y system ar gyfer cynorthwyo plant a phobl
ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Amlinellodd Alun
Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes y system newydd yn
ei Ddatganiad Gweinidogol Ysgrifenedig.
#AnghenionDysguYchwanegol
|
|
|
Gall carbon monocsid (CO) ladd. Gellir atal gwenwyno trwy CO yn hawdd. Darllenwch ymlaen i weld sut.
|
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 13 Ionawr 2017
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i gael cymaint o farnau â phosibl ar
Broffil y Cyfnod Sylfaen, a gyflwynwyd ym
mis Medi 2015 fel yr offeryn asesu gwaelodlin statudol ar ddechrau'r Dosbarth
Derbyn. Bydd eich ymatebion yn llywio ein hymagwedd yn y dyfodol ac i’n helpu i
benderfynnu oes angen gwneud unrhyw ddiwygiadau.
11 cam gweithredu i gefnogi dysgu proffesiynol a datblygiad arweinyddiaeth yng ngweithlu y #CyfnodSylfaen
Ar
ddydd Llun 21 Tachwedd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, y
bydd pob ysgol yng Nghymru yn cael y cyfle i fanteisio ar wasanaethau band eang
cyflym iawn, diolch i £5m o gyllid newydd.
Ar
ddydd Iau, 17 Tachwedd, datgelodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams fod
academi newydd wedi’i sefydlu sef Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol.
Mae’r canllaw yn amlinellu’r broses
ymsefydlu, y gofynion statudol a’r cymorth sydd ar gael. Mae hefyd yn cyfeirio at wybodaeth bellach.
Cyfle i blant ag athrawon y cyfnod sylfaen a CA2 o ardal
consortiwm Canolbarth y De i weithio ar gyfres o weithdai amgylcheddol ynghyd ag ymarferwyr o gwmniau celfyddydol proffesiynol fel Arts
Active, y Cwmni Opera Cenedlaethol, Music Theatre Wales a Llenyddiaeth Cymru.
Mae’r
Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Kirsty Williams wedi lansio ymgynghoriad ar
nifer o gynigion newydd i roi hyblygrwydd i gyrff llywodraethu i benodi
llywodraethwyr sydd â'r sgiliau angenrheidiol ac i drefnu eu hunain mewn ffordd
sy'n diwallu eu hanghenion.
#cwricwlwmiGymru
#cymhwysedddigidol
Mae
adnoddau digidol newydd ar gael i helpu i godi ymwybyddiaeth o brofiadau plant
aelodau'r lluoedd arfog.. Mae’r straeon, sy’n cael eu hadrodd gan y plant eu
hunain, rhieni ac athrawon yn dweud am eu profiadau mewn ysgolion yng Nghymru a
rhoi cipolwg i sut fywyd ganddyn nhw.
Mae’r adroddiad yn cynnwys dolenni i bob dogfen a luniwyd ar gyfer ysgolion a’u cyrff llywodraethu dros y flwyddyn academaidd o 2015 i 2016
Cystadleuaeth Raspberry Pi 2016-2017 – ymgeisiwch nawr!
Dyddiad cau y gystadleuaeth yw
15 Mawrth 2017
Mae cystadleuaeth flynyddol
Raspberry Pi yn rhoi cant o becynnau datblygu sy’n cynnwys y cyfrifiadur un
bwrdd, maint cerdyn credyd, i ysgolion ledled Prydain. Mae’r gystadleuaeth yn
herio timau o blant a phobl ifanc i ddyfeisio rhaglenni arloesol i wneud y byd
yn lle gwell. Cysylltwch â RaspberryPi am ragor o wybodaeth.
Peidiwch
â cholli allan! Rhowch gynnig ar
gystadleuaeth Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2017. Mae’r gystadleuaeth yn
cloi ar y 12 Rhagfyr.
Cadw dysgwyr yn
ddiogel
-
Modiwl 1 - cyflwyniad
cyffredinol i ddiogelu
-
Modiwl 2 - yn
disgrifio rôl yr uwch swyddog dynodedig (DSP)
-
Modiwl 3 - yn ymwneud
ag astudiaethau achos
Cafodd
Cadw dysgwyr yn ddiogel ei gyhoeddi ar ddechrau
2015 ar ôl i randdeiliaid nodi bod angen dulliau dysgu cyson er mwyn helpu i
weithredu'r canllawiau. Mae'r modiwlau hyn ar gyfer pob aelod o staff mewn
lleoliad addysgol. Gellir agor y modiwlau drwy fynd i'r RHESTR CHWARAE. Nid oes
angen mewngofnodi i Hwb.
Cyfarfodydd anffurfiol yw digwyddiadau CwrddHwb
ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am syniadau arloesol ar gyfer addysgu a dysgu
digidol. Bydd archebion
ar gyfer digwyddiadau eraill Tymor y Gaeaf yn agor cyn bo hir.
Gall
ysgolion fynd ati bellach i greu cyfrifon ar gyfer eu Corff Llywodraethu er
mwyn iddynt allu manteisio ar rai o'r nodweddion a gynigir gan Hwb.
Canllawiau
i athrawon ar gyfer creu a rhannu eich adnoddau eich hunan ar Hwb.
Adnoddau dan sylw yr wythnos hon:
Mae’r Rhaglen Dysgu Byd-Eang, Cymru wedi rhoi rhestr o syniadau ac adnoddau
at ei gilydd er mwyn rhoi dimensiwn byd-eang i 10 o hawliau plant poblogaidd.
Pecyn Symbolau Hawliau
Plant
Mae
swyddfa’r Comisiynydd Plant wedi lansio adnodd ar gyfer addysgu plant a phobl
ifanc gyda anghenion dysgu arbennig ynglyn â’u hawliau dynol, wedi’u amlinellu
yn CCUHP. Mae’r adnodd ar gael am ddim o www.complantcymru.org.uk
13
– 15 Ionawr 2017, Neuadd Gregynog
Wyddoch
chi fod dysgu Lladin yn gallu helpu efo llythrennedd a dysgu ieithoedd eraill?
Dyma
gyfle cyffrous i ddysgu sut y gall y Clasuron a Lladin gael eu plethu i
mewn neu ei gynnwys yn eich addysgu cyfredol. Mae’n agored i unrhyw athro, mewn
unrhyw bwnc, mewn ysgol gynradd neu uwchradd yng Nghymru. Cysylltwch â catherine.rozier@swansea.ac.uk am fanylion pellach
Addysg gyfrifiadurol
Mae’r
Gymdeithas Frenhinol wedi comisiynu Pye Tait i ddeall sut mae gwersi
cyfrifiadurol (gan gynnwys TGCh) yn cael eu cyflwyno yn ysgolion cynradd ac
uwchradd/colegau y DU, gan gynnwys y rhwystrau sy’n codi. Rydym yn annog pawb
sy’n addysgu’r pwnc hwn i ymateb, fel y gallwn eich cefnogi yn y dyfodol. I
gwblhau’r arolwg ar-lein, ewch i wefan
Pye Tait.
|