|
|
Mae Kirsty Williams, yr
Ysgrifennydd Addysg, wedi cyhoeddi bod arolwg
cenedlaethol newydd yn cael ei lansio i gael barn athrawon a staff cymorth
ar hyd a lled Cymru.
|
|
|
Helpwch i ffurfio dyfodol arolygu yng Nghymru.
Mae Estyn wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer y modd y maent yn
arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Bydd y cynigion yn dod i rym o Fedi 2017.
Os ydych yn gysylltiedig ag addysg yng Nghymru, hoffai Estyn glywed
gennych – p’un a ydych yn weithiwr addysg proffesiynol, yn llywodraethwr, yn
rhiant neu’n ddysgwr.
|
|
|
Neges
eleni yw bod Bwlio y fusnes i bawb’ er mwyn galluogi plant a phobl ifanc i
adnabod ac ymateb i fwlio sy’n digwydd iddyn nhw neu i rywun arall wyneb yn
wyneb neu ar lein – mae rhagor o wybodaeth ar sut y gallech helpu rhwystro
bwlio yma. Mae
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau
i rieni y mae eu plant yn cael eu bwlio ac ar gyfer plant
sy’n cael eu bwlio
|
|
|
Cyhoeddwyd ar y 3
Tachwedd y bydd rhwydwaith cenedlaethol newydd er rhagoriaeth mewn mathemateg
yn cael ei greu i roi hwb i safonau mewn ysgolion yng Nghymru.
|
Barn
y rheini ar y rheng flaen: Athrawon yn siarad am y Fframwaith Cymhwysedd
Digidol – sut y mae’n dod yn ei flaen a sut y caiff ei ddefnyddio (Fideo)
Negeseuon defnyddiol y gall ysgolion eu defnyddio i rannu
gyda rhieni a gofalwyr.
Mae'r ddogfen yn
esbonio'n fras pam y bydd y cwricwlwm yn newid a'r amserlen ar gyfer hynny. Mae
croeso i chi eu defnyddio mewn cylchlythyrau neu lythyrau at rieni, Adroddiadau
Blynyddol i rieni neu ar eich gwefannau.
Rhannwch
hysbyseb teledu newydd 'Mae addysg yn dechrau yn y cartref'
Yr hydref hwn byddwch yn gweld yr hysbyseb teledu diweddaraf sy’n annog
rhieni/gofalwyr i gefnogi eu plant drwy wneud y pethau bychain yn y cartref -
drwy ddarllen gyda nhw, sicrhau eu bod yn cael brecwast, cymryd diddordeb yn eu
bywyd ysgol a rhoi iddynt yr hyder i wneud yn dda. Beth am lawrlwytho’r hysbyseb a’i rannu ar wefan
eich ysgol?
Ydych chi’n sicrhau bod y gwiriadau iawn o ran diogelwch a chymwysterau
wedi’u gwneud wrth gyflogi athrawon cyflenwi a staff cymorth cyflenwi?
Lanlwythwch a rhannwch ddolenni o’r canllawiau electroneg ar eich gwefannau ond os hoffech archebu ragor o gopïau i rannu i rieni a gofalwyr eich dysgwyr ebostiwch DYSG (dysg@cymru.gsi.gov.uk)
Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn fwy diogel 2017 - Cystadleuaeth nawr ar agor
Rydym yn galw ar
ddysgwyr i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r
Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a chreu logo newydd i gynrychioli diogelwch ar-lein yng
Nghymru.
Cafodd
Cadw dysgwyr yn ddiogel ei gyhoeddi ar
ddechrau 2015 ar ôl i randdeiliaid nodi bod angen dulliau dysgu cyson er mwyn
helpu i weithredu'r canllawiau. Mae'r modiwlau hyn ar gyfer pob aelod o staff mewn lleoliad
addysgol, ac mae'r modiwl cyntaf yn gyflwyniad cyffredinol i ddiogelu - ceir
dolen isod. Gellir agor y modiwlau drwy fynd i'r RHESTR CHWARAE. Nid oes angen
mewngofnodi i Hwb. Modiwl 1
Canllaw sydyn i ddefnyddwyr Hwb sy'n dymuno creu
a rheoli dosbarthiadau ar-lein ar Hwb
Adnoddau
dan sylw yr wythnos hon:
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal stondin yn sioe
Bett 2017 er mwyn arddangos yr offer sydd ar gael i ysgolion drwy’r rhaglen
Dysgu yn y Gymru Ddigidol. Os ydych yn bwriadu ymweld â BETT, gwnewch yn siŵr
eich bod yn cofrestru
ar gyfer eich tocyn rhad ac am ddim a dewch i’n gweld ar stondin H310.
Dewch i gael paned a sgwrs am y dechnoleg addysgol
sydd ar gael am ddim i chi. Archebwch nawr!
Cynhelir darlithoedd ysbrydoledig a
gweithdai ar gyfer athrawon Cynradd ac Uwchradd, sy'n anelu at fynd i'r afael
â'r cwricwlwm gwyddoniaeth a thechnoleg newydd, yn Amgueddfa Genedlaethol
Cymru, Caerdydd, ar ddydd Sadwrn 19 Tachwedd, 2016
10:00am—2:30pm.
Mae RhDB-Cymru yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu dysgwyr fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd. Mae Cylchlythyr yr hydref yn cynnwys astudiaethau achos newydd sy’n enghreifftio cysylltu themâu lleol â rhai byd-eang, ac sy’n herio camdybiaethau am yr argyfwng ffoaduriaid.
Gan
ddeall bod diogelwch gwybodaeth yn sylfaenol i'r ymagwedd ddigidol gynhenid,
mae Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Jisc wedi
ymrwymo i raglen o newid yn gyrru cydymffurfiad ag ISO 27001:2013 – y safon
ryngwladol ar gyfer rheoli diogelwch gwybodaeth – ar draws y sector dysgu
seiliedig ar waith, erbyn Gorffennaf 2017. Cysylltwch Alyson Nicholson i gael
rhagor o wybodaeth.
|