|
|
Helpwch i ffurfio dyfodol arolygu yng Nghymru.
Mae Estyn wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer y modd y maent yn
arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru.
Bydd y cynigion yn dod i rym o Fedi 2017.
Os ydych yn gysylltiedig ag addysg yng Nghymru, hoffai Estyn glywed
gennych – p’un a ydych yn weithiwr addysg proffesiynol, yn llywodraethwr, yn
rhiant neu’n ddysgwr.
|
|
|
Neges
eleni yw bod 'Bwlio yn fusnes i bawb’ er mwyn galluogi plant a phobl ifanc i
adnabod ac ymateb i fwlio sy’n digwydd iddyn nhw neu i rywun arall wyneb yn
wyneb neu ar lein – mae rhagor o wybodaeth ar sut y gallech helpu rhwystro bwlio
yma.
Mae
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau
i rieni y mae eu plant yn cael eu bwlio ac ar gyfer plant
sy’n cael eu bwlio
|
|
|
Cyhoeddwyd heddiw (dydd Iau, 3
Tachwedd) y bydd rhwydwaith cenedlaethol newydd er rhagoriaeth mewn mathemateg
yn cael ei greu i roi hwb i safonau mewn ysgolion yng Nghymru.
|
Negeseuon defnyddiol y gall ysgolion eu defnyddio i rannu
gyda rhieni a gofalwyr.
Mae'r ddogfen yn
esbonio'n fras pam y bydd y cwricwlwm yn newid a'r amserlen ar gyfer hynny. Mae
croeso i chi eu defnyddio mewn cylchlythyrau neu lythyrau at rieni, Adroddiadau
Blynyddol i rieni neu ar eich gwefannau.
Yr hydref hwn byddwch yn gweld yr hysbyseb teledu diweddaraf sy’n annog
rhieni/gofalwyr i gefnogi eu plant drwy wneud y pethau bychain yn y cartref -
drwy ddarllen gyda nhw, sicrhau eu bod yn cael brecwast, cymryd diddordeb yn eu
bywyd ysgol a rhoi iddynt yr hyder i wneud yn dda. Beth am lawrlwytho’r hysbyseb a’i rannu ar wefan
eich ysgol?
Ydych chi’n sicrhau bod y gwiriadau iawn o ran diogelwch a chymwysterau
wedi’u gwneud wrth gyflogi athrawon cyflenwi a staff cymorth cyflenwi?
Lleoliad athro i ymweld â CERN -
7-11 Chwefror 2017
Mae gwahoddiad i chi fynegi'ch
diddordeb ar gyfer recriwtio athrawon ffiseg ysgolion uwchradd i ymweld
â CERN. Cyfle unwaith ac am byth a wnaiff ymestyn eich profiadau a chyfoethogi
bywydau’ch myfyrwyr. Caiff costau teithio, cynhaliaeth a chostau cyflenwi
dysgu eu cefnogi tra o’r ysgol. Fideo
o’r athrawon gwyddoniaeth cyntaf o Gymru yn CERN.
E-bostiwch DYSG (dysg@cymru.gsi.gov.uk) am eich datganiadau o ddiddordeb
neu am ragor o wybodaeth.
Cynllun pum mlynedd i archwilio cymwysterau
galwedigaethol yng Nghymru
Cyhoeddwyd cynllun pum mlynedd i archwilio ansawdd ac addasrwydd
cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru.
Mae cymwysterau galwedigaethol yn cyfrif am tua 90 y cant o'r holl
gymwysterau rheoleiddiedig sydd ar gael yng Nghymru ac yn cyfrif am tua 60 y
cant o'r holl gymwysterau a gaiff eu dyfarnu i ddysgwyr.
Bydd y strategaeth, sydd wrthi'n cael ei llunio, yn nodi dull Cymwysterau Cymru o fynd i'r afael â'r dasg.
Rydym yn galw ar
ddysgwyr i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r
Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a chreu logo newydd i gynrychioli diogelwch ar-lein yng
Nghymru.
Cliciwch yma am
ragor o fanylion.
Dyma’r rhifyn
cyntaf o’r cylchgrawn ar-lein cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr ac athrawon
Astudiaethau Crefyddol Cyfnod Allweddol 3.
Mae’r cylchgrawn yn cynnwys cyfres o erthyglau a thasgau/gweithgareddau
cyfoes sy’n hybu sgiliau addysg grefyddol, llythrennedd a rhifedd dysgwyr. Bydd y cylchgrawn ar gael yn dymhorol ac ar
gael am ddim ar Hwb.
Adnodd dan sylw yr wythnos hon yw'r Pecyn Dysgu Y Lleng Brydeinig Frenhinol (Y Cyfnod Sylfaen, CA2-4).
Canllaw sydyn i ddefnyddwyr Hwb sy'n dymuno creu
a rheoli dosbarthiadau ar-lein ar Hwb.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal stondin yn sioe
Bett 2017 er mwyn arddangos yr offer sydd ar gael i ysgolion drwy’r rhaglen
Dysgu yn y Gymru Ddigidol. Os ydych yn bwriadu ymweld â Bett, gwnewch yn siŵr
eich bod yn cofrestru
ar gyfer eich tocyn rhad ac am ddim a dewch i’n gweld ar stondin H310.
Dewch i gael paned a sgwrs am y dechnoleg addysgol
sydd ar gael am ddim i chi. Archebwch nawr!
Gan
ddeall bod diogelwch gwybodaeth yn sylfaenol i'r ymagwedd ddigidol gynhenid,
mae Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a Jisc wedi
ymrwymo i raglen o newid yn gyrru cydymffurfiad ag ISO 27001:2013 – y safon
ryngwladol ar gyfer rheoli diogelwch gwybodaeth – ar draws y sector dysgu seiliedig
ar waith, erbyn Gorffennaf 2017.
Cysylltwch Alyson Nicholson i gael
rhagor o wybodaeth.
Mae RhDB-Cymru yn cynorthwyo athrawon i ddatblygu eu dysgwyr fel
dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd. Mae Cylchlythyr yr
hydref yn cynnwys astudiaethau achos newydd sy’n enghreifftio cysylltu themâu
lleol â rhai byd-eang, ac sy’n herio camdybiaethau am yr argyfwng ffoaduriaid.
|