Mae'r digwyddiad unigryw, newydd hwn yn dod â chynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru a phrynwyr cenedlaethol a rhyngwladol at ei gilydd i arddangos, blasu a thrafod goreuon y diwydiant yng Nghymru.
Croeso i’m nodyn cyntaf fel Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, a sefydlwyd i helpu
tyfu, hyrwyddo a chryfhau diwydiant bwyd a diod Cymru wrth iddo geisio cyrraedd targed twf o 30%
– neu £7bn mewn gwerthiannau – erbyn y flwyddyn 2020.
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod uchelgeisiol o bob rhan o Gymru’n cael eu hannog i fynychu cynhadledd fydd yn edrych ar arloesi a chyfleoedd ariannu cefnogol, er mwyn ceisio tanio twf o fewn y diwydiant.
Bydd gan SIAL dros 7,000 o arddangoswyr o 105 gwlad ac mae’n cael ei ystyried yn llwyfan allweddol ar gyfer y sector bwyd a diod i hyrwyddo eu cynnyrch i brynwyr o bedwar ban byd.
Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru unwaith eto’n flaenllaw mewn arddangosfa bwysig yn Llundain, Food Matters Live, yn arddangos cynhyrchion newydd, y datblygiadau diweddaraf ac yn profi unwaith yn rhagor fod arloesi ac ansawdd yn ganolog i’r chwyldro bwyd a diod yng Nghymru.
Mae'r cwmnïau o Gymru, Nimbus Foods a Dairy Partners Wales, wedi cyhoeddi gwerth oddeutu £2 miliwn o fusnes ychwanegol yn dilyn help Llywodraeth Cymru i gyrraedd marchnadoedd newydd dramor a chynyddu ymwybyddiaeth ryngwladol o safon bwyd a diod o Gymru.
Byddwch yn barod i gael eich synnu gan yr ystadegau. Dyma ddetholiad o’r prif ffigurau o ran yr hyn y mae’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn ei gynrychioli
Rydym yn taflu 7
miliwn tunnell o fwyd a diod o'n cartrefi bob blwyddyn, sy'n
costio £12.5 biliwn
y flwyddyn i ni. Darganfyddwch
pam ei bod hi'n bwysig i leihau gwastraff bwyd a sut i gymryd
rhan.
YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN
E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru.
Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.