eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 20 Hydref 2016 (Rhifyn 474)

20 Hydref 2016 • Rhifyn 474

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

aberfan130130

#CofioAberfan

Cofio trychineb Aberfan gyda munud o dawelwch am 9.15am yfory, 21 Hydref 2016.

blog130130

Blog newydd ar gyfer y cwricwlwm

Y ddadl o blaid bod yn feiddgar wrth Ddiwygio’r Cwricwlwm

Yr Athro Graham Donaldson

dcf130130

Cwricwlwm i Gymru  lledaenu’r  neges

Negeseuon defnyddiol y gall ysgolion eu defnyddio i rannu gyda rhieni a gofalwyr.

Mae'r ddogfen yn esbonio'n fras pam y bydd y cwricwlwm yn newid a'r amserlen ar gyfer hynny. Mae croeso i chi eu defnyddio mewn cylchlythyrau neu lythyrau at rieni, Adroddiadau Blynyddol, nosweithiau rhieni neu ar eich gwefannau.

Tests130130 9

System archebu profion darllen a rhifedd cenedlaethol

Gall ysgolion archebu papurau’r profion pan fydd y system archebu’n mynd yn fyw ar 31 Hydref 2016 hyd at 25 Tachwedd 2016. Dylai ysgolion nodi bod y cyfnod archebu’n fyrrach nag yn y blynyddoedd blaenorol.


Gwybodaeth am ddyddiadau cynnal y profion yn 2017 a dyddiadau pwysig eraill.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft y Gymraeg

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, cyhoeddodd y Prif Weinidog a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ymgynghoriad ar eu cynigion ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fel rhan o’r ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wir eisiau clywed barn disgyblion mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru ar ein cynigion. Gallwch ddefnyddio’r adnoddau ar dudalen #Cymraeg2050 - Pobl Ifanc ar ein gwefan i helpu eich disgyblion i fod yn rhan o siapio dyfodol y Gymraeg.

Mae fersiwn lawn o’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan ymgynghoriad Strategaeth y Gymraeg.

Lleoliad athro i ymweld â CERN - 7-11 Chwefror 2017

Mae gwahoddiad i chi fynegi'ch diddordeb ar gyfer recriwtio athrawon ysgolion uwchradd i ymweld â CERN. Cyfle unwaith ac am byth a wnaiff ymestyn eich profiadau a chyfoethogi bywydau’ch myfyrwyr.  Caiff costau teithio, cynhaliaeth a chostau cyflenwi dysgu eu cefnogi tra o’r ysgol. Fideo o’r athrawon gwyddoniaeth cyntaf o Gymru yn CERNE-bostiwch DYSG am eich datganiadau o ddiddordeb neu am ragor o wybodaeth.

diweddariadau ôl-16

Y Gweinidog yn lansio Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau'r de-ddwyrain 2016

Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James AC, wedi llongyfarch y Bartneriaeth Dysgu, Medrau ac Arloesi (LSkIP) a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (RSP) y de-ddwyrain am ddatblygu Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Ranbarthol 2016.

Gweinidog yn ymweld â’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i gynnig y Brentisiaeth Uwch newydd mewn Gwyddor Bywyd a Diwydiannau Gwyddonol Cysylltiedig

Mae Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, wedi ymweld â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr ‒ y darparwr hyfforddiant cyntaf yng Nghymru i gynnig y Brentisiaeth Uwch newydd mewn Gwyddor Bywyd a Diwydiannau Gwyddonol Cysylltiedig.

adnoddau a chystadlaethau

Adnoddau Trychineb Aberfan – CA3

Mae'r adnoddau hyn yn defnyddio deunyddiau gwreiddiol o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyflwyno hanes Trychineb Aberfan.

Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel - Cystadleuaeth Dylunio Logo Diogelwch Ar-lein – Ar Agor Nawr!

Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel yn cael ei gynnal ar 7 Chwefror 2017 ac mae gennym her newydd ar gyfer dysgwyr yng Nghymru.

Dyma alw ar ddysgwyr i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ar gyfer Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel i greu logo newydd ynghylch diogelwch ar-lein yng Nghymru.

Dau Wyneb: Pecyn Adnoddau – CA4

Pecyn i gefnogi addysgu Dau Wyneb Manon Steffan Ros ar gyfer TGAU Drama (mewngofnodwch i weld yr adnodd).

hwb

Digwyddiadau CwrddHwb: Tymor yr Hydref 2016

Ydych chi wedi archebu lle ar gyfer eich CwrddHwb? Peidiwch â cholli’r cyfle!

Rhannu’n allanol – Office 365

Mae defnyddwyr Hwb bellach yn gallu rhannu ffeiliau yn Office 365 gyda defnyddwyr y tu allan i Hwb. Cofiwch: dim ond ffeiliau unigol y mae defnyddwyr yn gallu eu rhannu. Nid yw’n bosibl rhannu ffolderi ond gyda defnyddwyr eraill sydd â chyfrif Hwb.

newyddion arall

Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Comisiynydd Plant Cymru

Gwasanaeth cyngor a chymorth cyfrinachol, di-dâl i blant a phobl ifanc, neu’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw, os byddan nhw’n teimlo bod plentyn yn cael triniaeth annheg.

Llysgenhadon Uwchradd Comisiynydd Plant Cymru

Gall pob ysgol uwchradd ymwneud â gwaith y Comisiynydd i hybu hawliau pobl ifanc yng Nghymru trwy’r cynllun Llysgenhadon Myfyrwyr di-dâl. Bydd y disgyblion yn cael cyfleoedd deniadol i ddysgu am eu hawliau a rhoi gwybod i’r Comisiynydd beth yw eu barn.

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym