|
|
Portffolio ar-lein yw’r PDP sydd ar gael i gofrestreion Cyngor y Gweithlu Addysg yn unig, gyda’r bwriad o’ch helpu i gofnodi a myfyrio ar eich datblygiad proffesiynol a chynllunio eich gyrfa ar gyfer y dyfodol. Yr ymarferwr sy’n berchen ar ei Basbort ei hyn ac bydd i fyny i’r unigolion benderfynu gyda phwy a sut y dylai hi neu fe rannu’i Basbort.
|
Ymateb i adolygiad
thematig Estyn o gymedroli asesiadau athrawon yng Nghyfnod Allweddol 2 a
Chyfnod Allweddol 3: adolygiad o gywirdeb a chysondeb.
Mae Arweinwyr Digidol ar gael yn eich Consortia Addysg
Rhanbarthol i'ch cefnogi gyda mabwysiadu a defnyddio offer digidol a'r adnoddau
sydd ar gael drwy Hwb a Hwb+.
Hysbyseb am rai newidiadau pwysig sy'n ymwneud â’r Arolwg
o Gyrchfannau myfyrwyr ar gyfer 2016/17 a gynhaliwyd gan Gyrfa Cymru, ac i'ch
annog i barhau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Prosbectws Ardal Gyffredin
cynhwysfawr o ansawdd uchel i bobl ifanc sy'n gwneud penderfyniadau am eu dysgu
yn eich ardal, fel rhan o'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.
Hoffem glywed eich barn am y meini
prawf drafft ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon (AGA) yng
Nghymru a’r cynigion i wella swyddogaethau a rôl Cyngor y Gweithlu Addysg.
Ddatganiad
Llafar yn y Siambr ar: Y Rhaglen Newid Addysg Gychwynnol i Athrawon: hynt y
rhaglen a'r wybodaeth ddiweddaraf, Kirsty Williams AC.
Ydych chi’n sicrhau bod y gwiriadau iawn o
ran diogelwch a chymwysterau wedi’u gwneud wrth gyflogi athrawon cyflenwi a
staff cymorth cyflenwi?
Gwasanaeth cyngor
a chymorth cyfrinachol, di-dâl i blant a phobl ifanc, neu’r rhai sy’n gofalu
amdanyn nhw, os byddan nhw’n teimlo bod plentyn yn cael triniaeth annheg.
Dyddiad i’ch dyddiadur! Gweithdy RHAD AC AM DDIM Llywodraeth Cymru a Dangos Hiliaeth y Cerdyn Coch
Rydym ni’n galw
ar bob ysgol yng Nghymru! A fyddech cystal â chwblhau arolwg e-Ddiogelwch byr i
roi gwybod i ni pa faterion e-Ddiogelwch rydych chi’n ymdrin â nhw, pa adnoddau
rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer eich gwaith e-Ddiogelwch, a sut mae’r
adnoddau hyn yn eich helpu i amddiffyn plant ar-lein.
Dyma’ch atgoffa olaf o ddigwyddiad
gyrfaoedd a sgiliau mwyaf Cymru sydd o wythnos nesaf yn dod i Landudno a
Chaerdydd.
- Venue
Cymru, Llandudno: 5 - 6 Hydref
- Arena
Motorpoint, Caerdydd: 12 - 13 Hydref.
Archebwch le nawr
13 Hydref 2016, Stadiwm Dinas Caerdydd
(Saesneg yn unig)
Dyma'r rhifyn
trydedd ar ddeg yng nghyfres Ciwb sydd wedi anelu at ddisgyblion blwyddyn 9.
Thema'r erthyglau yma yw “Cymraeg - hwyl, gŵyl a gwaith”. Y tro yma,
rydych chi’n mynd i ddarllen am "Yr Urdd", "Shwmae Sumae",
"Gweithio i’r diwydiant teledu" a llawer mwy. Darllenwch a mwynhewch!
Cyfle penigamp i’ch ysgol chi cael hwyl a rhannu syniadau yn Gymraeg.
Sut felly, gall eich ysgol gymryd rhan? Gallech rannu digwyddiadau’ch ysgol chi drwy Twitter neu drwy Facebook ac os hoffech ychydig o
ysbrydoliaeth cyn y 15fed, cliciwch yma am syniadau o #shwmaesumae 2013-2015.
Ydych chi’n dysgu yn ardal Aberteifi? Dewch i
glywed sut gall Hwb gefnogi eich dysgu yng NghwrddHwb Aberteifi ar 2 Tachwedd.
Mae'r adnoddau
diweddaraf ar Hwb yn cynnwys:
Mae ein tudalen
ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy
Diogel 2017 nawr ar gael ar Hwb! Darllenwch hi i gael gwybod beth yw’r
dyddiad, beth fydd y slogan y flwyddyn nesaf, a sut i gymryd rhan. A chyn bo
hir, byddwn yn lansio ein cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy
Diogel felly cadwch lygad allan.
Helpu cenhedlaeth o bobl ifanc i roi o’u hamser a’u talent i wella eu
cymuned
Cynigir y rhaglen First Give i ysgolion yn rhad
ac am ddim ac fe’i hariannir yn llawn gan ymddiriedolaethau dyrannu grantiau
(Saesneg yn unig).
Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar y
broses o ddatblygu cymwysterau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol (gan gynnwys
gofal plant a gwaith chwarae). Gallai hyn olygu mai dim ond un fersiwn
gymeradwy o bob un o'r cymwysterau y caniateir ei defnyddio ar raglenni dysgu a
ariennir yng Nghymru. Mae croeso i bartïon sydd â diddordeb roi adborth ar y
ddogfen ymgynghori erbyn 5 Hydref, 5pm.
Trosglwyddo o
wyddoniaeth ysgol gynradd i wyddoniaeth ysgol uwchradd
Mae Techniquest Glyndŵr wedi derbyn arian oddi wrth Lywodraeth Cymru i
greu rhaglen o ddiwrnodau paratoi i ddisgyblion cynradd fydd yn eu galluogi i
ymdopi’n well â bywyd yn yr ysgol uwchradd. Mae diwrnodau Techniquest
Glyndŵr yn canolbwyntio’n benodol ar hwyluso’r trosglwyddo o wyddoniaeth CA2 i
wyddoniaeth CA3.
-
Dyddiad: 14 Tachwedd 2016
-
Amser: 14:30 - 17:00
-
Lle: Techniquest Glyndŵr
|