eCylchlythyr Dysg cyn-11 oed Llywodraeth Cymru – 9 Medi 2016 (Rhifyn 152)

9 Medi• Rhifyn 152

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

MathsEdu

Adnoddau mathemateg i rieni

Yn dilyn adborth gan rieni/gofalwyr, un thema sy'n codi dro ar ôl tro yw eu bod yn pryderu am eu sgiliau mathemateg a'u gallu i gefnogi eu plant gartref. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag arbenigwyr rhifedd yng Nghymru i gynhyrchu detholiad o adnoddau mathemateg ar gyfer plant 3 i 16 oed i annog rhieni/gofalwyr i ymgysylltu â'u plant a'u helpu gyda'u gwaith cartref mathemateg.

PfS130130

Mae Cynnydd ar gyfer Llwyddiant wedi’i lansio’n swyddogol!

Rhaglen hyfforddi drwy waith yw Cynnydd ar gyfer Llwyddiant. Bydd yn cyllido pobl ifanc 25 oed neu’n hŷn, sy’n gweithio yn y sector gofal plant, sector y blynyddoedd cynnar (gan gynnwys y Cyfnod Sylfaen) a’r sector chwarae yng Nghymru i ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol ar lefel 2 a 3

FaCE

Rhaglenni dysgu fel teulu – Adnodd newydd yn Wynebu’r her gyda’n gilydd (YGaTh): Pecyn cymorth ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd i ysgolion yng Nghymru

Mae adnodd newydd wedi’i ychwanegu at Thema 4 yn y pecyn cymorth YGaTh. Gall rhaglenni dysgu fel teulu fod yn gyfrwng da i annog a chynorthwyo teuluoedd i fod yn rhan o ddysg eu plentyn. Defnyddiwch yr adnodd i fyfyrio ar eich arferion.

cwricwlwm i Gymru

Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol bellach ar gael i Ysgolion a Lleoliadau yng Nghymru

Wedi’i datblygu gan yr Ysgolion Arloesi, dyma’r elfen gyntaf i ymddangos o’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r Fframwaith a dogfennau ategol ar gael ar Dysgu Cymru.


Animeiddiad Cwricwlwm i Gymru

Mae’r animeiddiad hwn yn dod â’r datblygiadau i’r cwricwlwm yn fyw mewn ffordd hygyrch iawn.  Gwyliwch a rhannwch.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Diweddariad Hwb

Bu llawer o ddatblygiadau newydd cyffrous i lwyfan Hwb dros gyfnod yr Haf. Am restr lawn o ddatblygiadau darllenwch yr erthygl ar dudalen newyddion Hwb.

Cynhadledd Genedlaethol EOTAS

Eleni bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ei chynhadledd genedlaethol gyntaf erioed ar addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Cofrestrwch eich presenoldeb ar y dolenni isod .

YmgynghoriFfioedd cofrestru ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru (2017).

Mae cyfle i ymateb o hyd

Cynigion ar gyfer modelau ffioedd cofrestru i’w defnyddio gan Gyngor y Gweithlu Addysg o 1 Ebrill 2017 ymlaen.

Arolwg Dysg – helpwch ni i wella'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu â chi!

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer sydd wedi tanysgrifio i'n e-gylchlythyrau, felly roedden ni'n meddwl y byddai'n gyfle gwych i ni gasglu eich barn o ran sut gallwn ni wella'r cylchlythyr.  Rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n darparu'r wybodaeth iawn, yn y fformat gorau, ar yr adeg gywir. Cymerwch funud neu ddwy i gwblhau ein harolwg. Mae'n ddienw ac mae'ch adborth yn bwysig iawn i ni.

Lleihau Biwrocratiaeth mewn Ysgolion a Cholegau

Eich cyflwyniadau erbyn dydd 21 Hydref.

Rydym yn croesawu eich sylwadau, neu unrhyw newidiadau ac ychwanegiadau i'r ddogfen Prosiect Biwrocratiaeth

Diddymu cytundebau cartref-ysgol

Ni fydd yn ofynnol i ysgolion a gynhelir greu Cytundeb Cartref-Ysgol. Darganfyddwch fwy.

Dyddiad i'r dyddiadur! CwrddHwb Rhuthun, Sir Ddinbych 29 Medi 2016

Mae CwrddHwb cyntaf y flwyddyn academaidd hon yn nesáu. Beth am ddod draw i gael clywed am sut gall Hwb eich cefnogi wrth fabwysiadau’r fframwaith cymhwysedd digidol newydd a llawer mwy. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac  archebu eich tocyn ar ein tudalen Digwyddiadau CwrddHwb.

adnoddau

Cadw Dysgwyr yn Ddiogel - Modiwl 1

Dyma’r modiwl cyntaf mewn cyfres o dri wedi eu hanelu at helpu ysgolion i ddeall diogelu a beth yw eich cyfrifoldebau. Mae’r modiwl yn darparu arweiniad ar sut i greu a chynnal amgylchedd ddiogel i ddysgwyr.  

Yn galw ar bob ysgol: cwblhewch yr arolwg e-Ddiogelwch

Rydym ni’n galw ar bob ysgol yng Nghymru! A fyddech cystal â chwblhau arolwg e-Ddiogelwch byr i roi gwybod i ni pa faterion e-Ddiogelwch rydych chi’n ymdrin â nhw, pa adnoddau rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer eich gwaith e-Ddiogelwch, a sut mae’r adnoddau hyn yn eich helpu i amddiffyn plant ar-lein.

Archebwch le nawr! Gweithdai rhanbarthol 360 Cymru

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, mae SWGfL yn cynnal pedwar digwyddiad rhanbarthol ar gyfer ymarferwyr addysg ac awdurdodau lleol ar ddiweddariadau i'r offeryn 360 Cymru.


Posau mathemateg i blant bach #posbach

Ydych chi’n defnyddio Trydar? Chwiliwch am bosau mathemateg cyflym i blant 6-8 oed pob bore Gwener gan Gareth Ffowc Roberts.

Bydd y #posbach cyntaf yn cael ei lansio ar gyfrif Twitter @GarethFfowc ar ddydd Gwener, 9 Medi a phob bore Gwener wedi hynny.

 

Adnoddau Pori Drwy Stori ar gyfer holl ddisgyblion dosbarth derbyn

Dosberthir rhaglen Pori Drwy Stori am ddim i bob ysgol gynradd yng Nghymru er mwyn cefnogi ymwneud rhieni mewn llythrennedd a rhifedd. Adnoddau tymor yr hydref yw’r Sialens Rhigwm a’r Calendr Dyna Dywydd.

ADroddiadau ac Ystadegau

Ymateb i adroddiad Estyn, Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal

Adroddiad llawn Estyn

Deilliannau diwedd y cyfnod sylfaen ac asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol o’r pynciau craidd yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3

Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2016

Asesiadau athrawon y cwricwlwm cenedlaethol o'r pynciau di-graidd

Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2016

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant cyn-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym