|
|
Yn dilyn adborth gan rieni/gofalwyr, un thema sy'n codi
dro ar ôl tro yw eu bod yn pryderu am eu sgiliau mathemateg a'u gallu i gefnogi
eu plant gartref. Felly rydym wedi cydweithio â arbenigwyr rhifedd yng Nghymru
i gynhyrchu detholiad o adnoddau mathemateg ar gyfer plant 3 i 16 oed i annog
rhieni/gofalwyr i ymgysylltu â'u plant a'u helpu gyda'u gwaith cartref
mathemateg.
|
|
|
Mae adnodd newydd wedi’i ychwanegu at Thema 4 yn
y pecyn cymorth YGaTh. Gall rhaglenni dysgu fel teulu fod yn gyfrwng da i annog
a chynorthwyo teuluoedd i fod yn rhan o ddysg eu plentyn. Defnyddiwch yr adnodd
i fyfyrio ar eich arferion.
|
|
|
Bu
llawer o ddatblygiadau ar Hwb dros gyfnod yr haf. Am restr llawn o’r
newidiadau, darllenwch ein erthygl
newyddion ar Hwb.
|
Wedi’i datblygu gan yr Ysgolion Arloesi,
dyma’r elfen gyntaf i ymddangos o’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r Fframwaith
a dogfennau ategol ar gael ar Dysgu
Cymru
Mae’r animeiddiad newydd yn
dod â’r datblygiadau i’r cwricwlwm yn fyw mewn ffordd hygyrch iawn. Gwyliwch a rhannwch.
Dros y flwyddyn
ddiwethaf rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer sydd wedi tanysgrifio
i'n e-gylchlythyrau, felly roedden ni'n meddwl y byddai'n gyfle gwych i ni
gasglu eich barn o ran sut gallwn ni wella'r cylchlythyr. Rhaid i ni
sicrhau ein bod ni'n darparu'r wybodaeth iawn, yn y fformat gorau, ar yr adeg
gywir. Cymerwch funud neu ddwy i gwblhau ein harolwg. Mae'n ddienw ac mae'ch
adborth yn bwysig iawn i ni.
Cynhadledd Genedlaethol EOTAS
Eleni bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ei chynadleddau
genedlaethol gyntaf erioed ar addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Cofrestrwch
isod.
Cliciwch yma am
ddiweddariad byr ynghylch ysgolion uwchradd ac arbennig.
Mae CwrddHwb
cyntaf y flwyddyn academaidd hon yn nesau. Beth am ddod draw ii gael clywed am
sut gall Hwb eich cefnogi wrth fabwysiadau’r fframwaith cymhwysedd digidol
newydd a llawer mwy. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac archebu eich tocyn ar ein tudalen Digwyddiadau CwrddHwb.
Mae amser i ymateb o hyd
Cynigion ar gyfer
modelau ffioedd cofrestru i’w defnyddio gan Gyngor y Gweithlu Addysg o 1 Ebrill
2017 ymlaen.
Ni fydd yn ofynnol i ysgolion a gynhelir greu
Cytundeb Cartref-Ysgol. Darganfyddwch fwy.
Eich cyflwyniadau erbyn dydd 21 Hydref 2016.
Rydym yn croesawu eich sylwadau,
neu unrhyw newidiadau ac ychwanegiadau i'r ddogfen Prosiect Biwrocratiaeth.
Darganfyddwch fwy drwy clicio'r dolenni uchod.
Mae digwyddiad
gyrfaoedd a sgiliau mwyaf Cymru yn dod i Landudno a Chaerdydd.
- Venue Cymru, Llandudno: 5/6
Hydref
- Arena Motorpoint,
Caerdydd: 12/13 Hydref
Mae’r
digwyddiadau rhyngweithiol yma yn croesawu dros 100 o sefydliadau sydd yn
ysbrydoli bron i 10,000 o ymwelwyr gan gynnig iddynt wybodaeth am y nifer o
wahanol gyfleoedd gyrfaol ar gael.
Caiff Gwobrau
Prentisiaethau Cymru eu cyflwyno ar 20 Hydref yn Venue Cymru, Llandudno. Nod y
gwobrau hyn yw cydnabod llwyddiannau unigolion, cyflogwyr a darparwyr ar draws
Cymru.
Mae pecynnau
noddi ar gael ar sawl gwahanol lefel a pho gynharaf y byddwch yn sicrhau
nawdd, y mwyaf o gyfleoedd a fydd ar gael i chi.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 029 2049 5861
17-19 Tachwedd
Mae’r
Sioe Sgiliau, yr achlysur mwyaf ar gyfer sgiliau yn y Deyrnas Unedig, yn cymryd
lle yn NEC Birmingham ar 17-19 Tachwedd. Bydd cystadleuwyr yn ymladd am yr aur
mewn amrywiaeth o sgiliau gwahanol, o drin gwallt i beirianneg awyrenegol,
Dylunio Gwefannau i plastro. Byddai ymweliad i’r Sioe Sgiliau yn cynnig cyfle i
gefnogi #TeamWales ac i wylio’r unigolion talentog yn gwneud ei gwneud, yn
ogystal ag ymweld â stand Cymru a rhoi eich hunain ymlaen am amrediad o
sesiynau rhyngweithiol.
Cyfle
i grwpiau o fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen gwirfoddoli #SkillsShow16.
Pa ddiffyg sydd mewn sgiliau yng
Nghymru? Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2015
yw’r brif ffynhonnell gwybodaeth ynghylch y gofyn am sgiliau ymhlith cyflogwyr
a’r buddsoddiad mewn sgiliau yng Nghymru ac yn y DU. Mae adroddiad Cymru yn trefnu’r canfyddiadau
yn ôl rhanbarth, sector, maint y sefydliad a galwedigaeth. Mae hefyd yn ymdrin
â’r newidiadau o’r arolygon blaenorol yn 2011 a 2013.
Mae adolygiad o
ran pa mor dda mae colegau yng Nghymru yn cynllunio
ac yn cyflawni eu cwricwlwm i sicrhau cyfleoedd dilyniant i ddysgwyr ar bob
lefel bellach ar gael ar wefan Dysgu Cymru.
Ysgol Gyfun Cwm
Rhymni yw un o’r ‘ysgolion arloesi’ sy’n datblygu ac yn arbrofi â’r cwricwlwm
newydd i Gymru. Mae’n defnyddio gwreiddiau Cymreig a chysylltiadau byd-eang i
ddarparu profiadau dysgu cyfoethog, diddorol i ddisgyblion.
Rydym ni’n galw
ar bob ysgol yng Nghymru! A fyddech cystal â chwblhau arolwg e-Ddiogelwch byr i
roi gwybod i ni pa faterion e-Ddiogelwch rydych chi’n ymdrin â nhw, pa adnoddau
rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer eich gwaith e-Ddiogelwch, a sut mae’r
adnoddau hyn yn eich helpu i amddiffyn plant ar-lein.
Dyma’r modiwl
cyntaf mewn cyfres o dri wedi eu hanelu at helpu ysgolion i ddeall diogelu a
beth yw eich cyfrifoldebau. Mae’r modiwl yn darparu arweiniad ar sut i greu a
chynnal amgylchedd ddiogel i ddysgwyr.
Achebwch le nawr! Gweithdau rhanbarthol 360 Cymru.
Mewn partneriaeth
â Llywodraeth Cymru, mae SWGfL yn cynnal pedwar digwyddiad rhanbarthol ar gyfer
ymarferwyr addysg ac awdurdodau lleol ar ddiweddariadau i'r 360 gradd offeryn
diogel Cymru.
Mae technoleg yn galluogi cymaint o ffyrdd
newydd o ddysgu, ond gyda hyn daw cyfrifoldeb i sefydliadau i sicrhau bod eu
dysgwyr yn ddiogel ac yn gyfrifol ar-lein. Mae Prevent
- rhan o strategaeth wrthderfysgaeth y llywodraeth – sy’n cynyddu lefel hon o
gyfrifoldeb. Gall Jisc, gynorthwyo darparwyr
addysg bellach gyda Prevent, gwella ymarferion, creu polisïau a darparu
hyfforddiant.
Mae adnodd newydd ‘Branwen Ferch Llyr’ wedi ei gynnwys
ar Hwb i gefnogi Uned 5 'Rhyddiaith yr Oesoedd Canol' manyleb Safon Uwch
Cymraeg Iaith Gyntaf CBAC.
Mae Forces Fitness yn cynnal sialensiau
ffitrwydd mewn tîm ar gyfer pob ysgol uwchradd yng Nghymru am DDIM. Mae'r
sesiynau yn darparu cynghorion iach ar ffitrwydd a maeth i’r cyfranogwyr ar yr
un pryd ȃ chyd-weithio mewn timau i oresgyn heriau meddyliol a chorfforol.
Adroddiad
llawn Estyn
Adroddiad llawn Estyn
Adroddiad
llawn Estyn
|