|
|
|
Helpwch ddysgwyr i gymryd y cam nesaf ar ôl
canlyniadau arholiadau TGAU a Safon Uwch. Mae’r cyfnod sy’n dilyn canlyniadau
arholiadau yn gyfnod tyngedfennol i bobl ifanc. Mae’n bwysig cynnal
trafodaethau gyda nhw i’w helpu i wneud y dewis cywir, beth bynnag fo’r
canlyniadau. Am wybodaeth ar yr opsiynau sydd ar gael, rannwch ddolenni i wefan
'Ble Nesaf'.
|
|
|
Mae Cymwysterau Cymru wedi cynhyrchu trosolwg o canlyniadau TGAU eleni. Mae’r erthygl ar gael ar ei wefan yma.
|
|
|
Mae systemau arholiadau pedair cenedl
y Deyrnas Unedig wedi ymwahanu fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn
yn adlewyrchu’r newidiadau a fu i bolisi addysg, cymwysterau a phatrymau
cofrestru myfyrwyr i sefyll arholiadau.
|
|
|
Gall ddisgyblion sy'n poeni am eu canlyniadau
Safon A, TGAU ac arholiadau eraill gallu ddod o hyd i gymorth emosiynol drwy
ffonio Meic.
|
|
|
Gallwch glywed am syniadau dysgu digidol arloesol, ac am
adnoddau y gallwch eu defnyddio yn y stafell ddosbarth y flwyddyn academaidd
hon wrth fynychu digwyddiad CwrddHwb.
Gwybodaeth am leoliad ein digwyddiadau a sut i archebu ar
gael yma.
|
Canlyniadau arholiadau 2016: Prentisiaethau
Bydd miloedd o bobl ifanc ar draws
Cymru’n agor yr amlenni hollbwysig hynny'r wythnos hon a fydd yn cynnwys eu
canlyniadau. Bydd llawer yn ystyried pa gamau i’w cymryd nesaf. Gall llwybrau
galwedigaethol, fel prentisiaethau, gynnig sail gadarn ar gyfer gyrfaoedd
cyffrous a fydd yn rhoi cryn foddhad. Mae’r Rhaglen Brentisiaethau, a chaiff ei
chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, yn ffordd wych o
alluogi unigolion i ennill cymwysterau cydnabyddedig a meithrin sgiliau
hanfodol tra’n ennill cyflog. I weld pa brentisiaethau sydd ar gael ewch i ams.careerswales.com
Caiff Gwobrau Prentisiaethau Cymru eu cyflwyno ar 20 Hydref yn Venue Cymru, Llandudno. Nod y gwobrau hyn yw cydnabod llwyddiannau unigolion, cyflogwyr a darparwyr ar draws Cymru. Mae pecynnau noddi ar gael ar sawl gwahanol lefel a pho gynharaf y byddwch yn sicrhau nawdd, y mwyaf o gyfleoedd a fydd ar gael i chi. Mae’r pecynnau canlynol ar gael:
- Noddwr Categori x 4
- Noddwr Taflen y Pryd Bwyd
- Noddwr y Pryd Bwyd
- Noddwr yr Adloniant
- Noddwr Bwrdd
- Noddwr Eitem Hyrwyddo
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 029 2049 5861
Cyfle i grwpiau o fyfyrwyr gymryd rhan
yn rhaglen gwirfoddoli #SkillsShow16.
Fel rhan o'r @WorldSkillsUK, y prif
ddigwyddiad cenedlaethol ar gyfer sgiliau a gyrfaoedd yw’r Sioe Sgiliau 2016 ac
mae wedi’i sefydlu i helpu i lunio dyfodol cenhedlaeth newydd.
Am fwy o wybodaeth darllenwch y Cwestiynau
Cyffredinol, neu, os ydych yn goleg neu’n ddarparwr hyfforddiant a hoffech
drefnu i grŵp o wirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr gennych, cysylltwch â volunteering@worldskillsuk.org
Diweddariad Hwb
Mae nifer o
ddatblygiadau newydd a chyffrous yn dod i Hwb ar ddechrau’r flwyddyn ysgol. Byddwn yn
rhyddhau manylion llawn ar Hwb yr wythnos nesaf, ond yn y cyfamser, gwyliwch am:
- Mathau
ychwanegol o gwestiynau o fewn Rhestrau Chwarae
- Adborth
wedi’i deilwra o fewn Aseiniadau
- Nodwedd
newydd Dosbarthiadau, sy’n caniatau cynnwys dysgwyr o fewn rhwydweithiau.
Os am gael y
wybodaeth ddiweddaraf am nodweddion newydd Hwb, dilynwch ni ar Trydar drwy @HwbNews.
Hwb+ a'r flwyddyn academaidd newydd
I sicrhau bod eich safle Hwb+ yn cynnwys y defnyddwyr, y dosbarthiadau
a’r pynciau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, cynhelir proses ddiweddaru. Yn
y rhan fwyaf o achosion, eich awdurdod lleol fydd yn rheoli'r broses ac ychydig
iawn o waith gweinyddol y bydd angen ei wneud yn yr ysgol. Ceir rhagor o
wybodaeth a chanllawiau ar Hwb. Fodd bynnag, os
ydych yn cael unrhyw drafferthion, cysylltwch â desg gymorth Hwb+ drwy ffonio
029 2099 0200 neu e-bostiwch supportdesk@hwbsupport.net.
Cynhadledd Genedlaethol EOTAS
Eleni bydd Llywodraeth Cymru yn
cynnal ei chynhadledd genedlaethol gyntaf erioed ar addysg heblaw yn yr ysgol
(EOTAS). Bydd yna dau gynhadledd , un yn y De ac un arall yng Ngogledd Cymru.
Cofrestrwch eich presenoldeb ar y dolenni isod .
|
|