Ystyried pa fenthyciadau a grantiau y gallech eu cael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru? Rydym wedi creu fideo i roi esboniad cyflym a rhwydd i chi. Ewch i'n tudalen You Tube
Os yw'ch myfyrwyr eisioes wedi gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr, ond eu dewis o gwrs, prifysgol neu choleg wedi newid, bydd angen iddynt roi wybod i Cyllid Myfyrwyr Cymru. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw i drwy fewngofnodi u'w cyfrif www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Mae systemau arholiadau pedair cenedl y Deyrnas Unedig wedi ymwahanu fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn yn adlewyrchu’r newidiadau a fu i bolisi addysg, cymwysterau a phatrymau cofrestru myfyrwyr i sefyll arholiadau.
Canlyniadau arholiadau 2016: Prentisiaethau
Bydd
miloedd o bobl ifanc ar draws Cymru’n agor yr amlenni hollbwysig hynny'r
wythnos hon a fydd yn cynnwys eu canlyniadau. Bydd llawer yn ystyried pa gamau
i’w cymryd nesaf. Gall llwybrau galwedigaethol, fel prentisiaethau, gynnig sail
gadarn ar gyfer gyrfaoedd cyffrous a fydd yn rhoi cryn foddhad. Mae’r Rhaglen
Brentisiaethau, a chaiff ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chronfa
Gymdeithasol Ewrop, yn ffordd wych o alluogi unigolion i ennill cymwysterau
cydnabyddedig a meithrin sgiliau hanfodol tra’n ennill cyflog. I weld pa
brentisiaethau sydd ar gael ewch i ams.careerswales.com
Caiff
Gwobrau Prentisiaethau Cymru eu cyflwyno ar 20 Hydref yn Venue Cymru, Llandudno. Nod y gwobrau hyn yw cydnabod llwyddiannau unigolion,
cyflogwyr a darparwyr ar draws Cymru.
Mae pecynnau noddi ar gael ar sawl
gwahanol lefel a pho gynharaf y byddwch yn sicrhau nawdd, y mwyaf o gyfleoedd a
fydd ar gael i chi. Mae’r pecynnau canlynol ar gael:
- Noddwr
Categori x 4
- Noddwr
Taflen y Pryd Bwyd
- Noddwr
y Pryd Bwyd
- Noddwr
yr Adloniant
- Noddwr
Bwrdd
- Noddwr
Eitem Hyrwyddo
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 029 2049 5861
Derbyniodd
FMSP Cymru gyllid pellach i ehangu ei weithgareddau i feysydd newydd ac mae'n
awyddus i benodi athrawon Mathemateg Bellach profiadol fel Cydlynwyr Ardal ar
gyfer canolbarth Cymru, Gogledd Cymru a De Ddwyrain a De Canolbarth Cymru.
Bydd tair swydd llawn amser a gall pob un rannu'r swydd.
Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Waith Ieuenctid ac eisiau wybod beth mae pobl ifanc yn ei feddwl am Wasanaethau Ieuenctid yng Nghymru.
Mae’r arolwg yn cymryd llai na 5 munud i’w gwblhau, a gallwch ddweud eich dweud drwy dilyn y ddolen.
Os hoffech chi i aelod o’r Tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc ddod i’ch ysgol neu sefydliad ieuenctid ichi gymryd rhan yn yr ymchwiliad i waith ieuenctid, dylech gysylltu â 0300 200 6565 neu ebostio: contact@assembly.wales
Cyfle i grwpiau o fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen gwirfoddoli #SkillsShow16.
Fel rhan o'r @WorldSkillsUK, y prif ddigwyddiad cenedlaethol ar gyfer
sgiliau a gyrfaoedd yw’r Sioe Sgiliau 2016 ac mae wedi’i sefydlu i helpu i
lunio dyfodol cenhedlaeth newydd.
Am fwy o
wybodaeth darllenwch y Cwestiynau Cyffredinol, neu, os ydych yn goleg neu’n
ddarparwr hyfforddiant a hoffech drefnu i grŵp o wirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr
gennych, cysylltwch â volunteering@worldskillsuk.org