|
|
Mae tudalennau gwe’r Cwricwlwm newydd i Gymru wedi eu diweddaru
i sicrhau bod y wybodaeth yn fwy hygyrch ac yn darparu strwythur ar gyfer
diweddariadau rheolaidd fel bo datblygiadau’r cwricwlwm yn digwydd.
|
|
|
Bydd Dysg yn
cymryd saib dros wyliau'r haf! Diolch i
chi am ddarllen a gobeithio i chi ei gael yn ddefnyddiol. Os hoffech chi i adael inni wybod eich barn am
yr e-gylchlythyr neu os oes syniadau gennych ar sut y gellir ei wella, rhowch
wybod i ni drwy lenwi ein
harolwg neu e-bostiwch yn uniongyrchol dysg@wales.gsi.gov.uk
Mwynhewch
yr haf a welwn ni chi’n mis Medi!
|
Rydym
wedi gweithio gyda nifer o ysgolion i gynhyrchu astudiaethau
achos i weithredu ymhellach y fframwaith llythrennedd a rhifedd (FfLlRh).
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penderfynu tynnu’n ôl y penderfyniad i newid y lefelau disgwyliedig ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3 ac felly unrhyw newidiadau i'r rheoliadau gosod targedau o ganlyniad i hyn, er mwyn cynyddu’r lefel cyflawniad ddisgwyliedig ar gyfer dysgwyr mewn Saesneg, Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 2 a 3 o Haf 2018 ymlaen.
Darganfodir yma copi o’r llythr a anfondwyd at y Sector Addysg.
Cynigion ar gyfer modelau ffïoedd cofrestru i’w defnyddio gan Gyngor y Gweithlu Addysg o 1 Ebrill 2017 ymlaen.
Mae’r llythyr am y Prosiect Biwrocratiaeth a Thablau’r Archwiliad sydd
wedi'u hatodi yn amlinellu gwybodaeth a gaiff ei defnyddio i lunio dogfen
gynhwysfawr. Bydd hon yn ddefnyddiol i ysgolion a cholegau fel adnodd ar gyfer
cynllunio gwaith a meincnodi. Mae'n canolbwyntio ar nodi enghreifftiau o
ddatganiadau sy'n ddyblyg neu'n ddiangen er mwyn lleihau a lliniaru'r baich
biwrocrataidd. Rydym yn croesawu eich sylwadau, neu unrhyw newidiadau ac ychwanegiadau i'r
ddogfen Prosiect Biwrocratiaeth – Tablau’r
Archwiliad. Anfonwch nhw drwy e-bost at: SchoolsandYoungPeopleWorkforceUnit@Cymru.gsi.gov.uk
erbyn dydd Gwener 21 Hydref.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams,
yn llawn canmoliaeth am y ffordd y mae arweinwyr yn Ysgol Gymunedol Doc
Penfro yn cynnwys rhieni a gofalwyr yn addysg y plant yno.
Gwobrau Dewi
Sant 2017
Ydych chi'n adnabod unigolyn neu grŵp o bobl sy’n
cyflawni pethau rhyfeddol ac yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymunedau yn y
sector addysg, neu bobl ifanc sy’n ysbrydoli a’n cyflawni pethau gwych?
Enwebwch ar gyfer Gwobrau Dewi Sant, yr acolâdau uchaf a
roddir gan y Prif Weinidog i ddathlu llwyddiannau mwyaf Cymru yn y categorïau
Dinasyddiaeth a Phobl Ifanc.
Enwebwch
yma tan 21
Hydref 2016.
Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn
dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr sy’n gysylltiedig â
rhaglenni Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau o safon uchel ledled Cymru. Cynigir
pecynnau nawdd ar sawl lefel. Po gyntaf y gwnewch y trefniadau, mwyaf o
gyfleoedd a gewch.
Adolygiad o
gynllunio dilyniant mewn addysg bellach yng Nghymru
Mae adolygiad o ran pa mor
dda mae colegau yng Nghymru yn cynllunio ac yn cyflawni eu cwricwlwm i sicrhau
cyfleoedd dilyniant i ddysgwyr ar bob lefel bellach ar gael ar wefan Dysgu Cymru.
Hunanasesu ar gyfer
darparwyr ôl-16
Caiff
y canllawiau ar y gofynion i ddarparwyr gyflwyno adroddiad hunanasesu blynyddol
a chynllun datblygu ansawdd eu diweddaru bob blwyddyn yng ngoleuni profiad,
adborth oddi wrth ddarparwyr ac unrhyw newidiadau ym mlaenoriaethau Llywodraeth
Cymru. Mae fersiwn ddiweddaraf ar gael ar ein gwefan neu drwy ddolen o wefan Dysgu Cymru.
Ar ei hymweliad cyntaf â'r ddinas ers cael ei phenodi'n
Ysgrifennydd Addysg, dywedodd Kirsty Williams fod croeso i fyfyrwyr a staff o'r
Undeb Ewropeaidd ym Mhrifysgol Abertawe (Dydd Iau 14 Gorffennaf).
Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol
2016 ar gael nawr i ysgolion uwchradd, ysgolion canol ac ysgolion arbennig eu
lawrlwytho. Ceir yn y canllawiau hyn
rai pwyntiau allweddol a allai fod yn ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod
canlyniadau’r profion gyda rhieni/gofalwyr.
Mae’r dogfennau a fydd ar gael i esbonio canlyniadau’r
Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau Dysgwyr”, templed
Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar gael nawr ar wefan
Dysgu Cymru.
Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel
canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd
Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r
disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol.
Profion Cenedlaethol 2017
Mae dyddiadau Profion Cenedlaethol
2017 wedi’u pennu fel a ganlyn:
-
Ysgolion Uwchradd: 26 Ebrill – 10 Mai 2017
-
Ysgolion Cynradd: 3 – 10 Mai 2017
-
Ysgolion Canol: 26 Ebrill – 10 Mai 2017
Meic ydi'r llinell gymorth
gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc (0-25) yng Nghymru. Ers
sefydliad Meic yn 2011, mae wedi delio gyda bron i 30,000 o gysylltiadau, yn
ymwneud ag amrywiaeth eang o faterion o straen arholiadau i fwlio, iselder i
anhwylderau bwyta, a llawer mwy. Gwyliwch y fideo.
Dyddiad cau wedi ymestyn: Cystadleuaeth Straeon
Difyr Dahl
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i
ysgolion yng Nghymru yn unig, felly mae’n gyfle ardderchog i’ch ysgol chi
ennill un o’r gwobrau gwych isod!
- Sioe Roald Dahl – Dychmygwch! ar gyfer eich ysgol
chi (gwerth £150!)
- Gwerth £100 o lyfrau darllen
- Sylw i’ch ysgol chi mewn casgliad a gyhoeddir o
weithiau ar y rhestr fer
Mae Cystadleuaeth Straeon Difyr Dahl yn
gystadleuaeth swyddogol Roald Dahl 100 Cymru i blant sy’n mynychu Ysgol Gynradd
(Blwyddyn 3 i 6) neu Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7 i 13) yng Nghymru.
Uwchraddio Hwb+
Er mwyn parhau â’r gwaith o ddatblygu safleoedd Hwb+ ar gyfer ysgolion, caiff pob un o’r 1600+ o safleoedd ysgol yng Nghymru eu huwchraddio yn ystod gwyliau’r haf.
Bydd y gwaith uwchraddio’n golygu bod platfform cyfan Hwb+, gan gynnwys gwefannau i’r cyhoedd, yn cael ei symud o’r SharePoint 2010 presennol i SharePoint 2013.
Mae hyn yn waith uwchraddio sy’n ymwneud â’r platfform cyfan, ac felly o ddydd Gwener 22 Gorffennaf, er y bydd holl safleoedd Hwb+ yn parhau ar gael, byddant ar ffurf darllen yn unig.
Caiff yr holl safleoedd a chynnwys sydd wedi eu symud eu rhyddhau erbyn dydd Iau 1 Medi.
Rydym ni’n galw ar bob ysgol yng Nghymru! A fyddech
cystal â chwblhau arolwg e-Ddiogelwch byr i roi gwybod i ni pa faterion
e-Ddiogelwch rydych chi’n ymdrin â nhw, pa adnoddau rydych chi’n eu defnyddio
ar gyfer eich gwaith e-Ddiogelwch, a sut mae’r adnoddau hyn yn eich helpu i
amddiffyn plant ar-lein.
Hwb+
a'r flwyddyn academaidd newydd
I sicrhau bod eich safle Hwb+ yn cynnwys y defnyddwyr, y
dosbarthiadau a’r pynciau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, cynhelir
proses ddiweddaru. Yn y rhan fwyaf o achosion, eich awdurdod lleol fydd yn
rheoli'r broses ac ychydig iawn o waith gweinyddol y bydd angen ei wneud yn yr
ysgol. Ceir rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar Hwb. Fodd
bynnag, os ydych yn cael unrhyw drafferthion, cysylltwch â desg gymorth Hwb+
drwy ffonio 029 2099 0200 neu e-bostiwch supportdesk@hwbsupport.net.
|