eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 27 Mehefin 2016 (Rhifyn 464)

27 Mehefin 2016 • Rhifyn 464

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

WGlogo

Cydweithio i symud Cymru ymlaen

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cyflwyno manylion y cytundeb a wnaed gyda Kirsty Williams pan ymunodd gyda’r Llywodraeth fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Holi barn am y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Mae'r Consortia Rhanbarthol yn holi ysgolion am eu hadborth ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol drafft, a ddatblygwyd gan ymarferwyr o ysgolion Arloeswyr Digidol. Bydd modd iddynt ymateb tan 4 Gorffennaf.

Newidiadau i Ymsefydlu ANG

Mae trefniadau ymsefydlu statudol ar gyfer ANGau yng Nghymru yn newid o fis Medi 2016 ymlaen.

Plant sy'n Derbyn Gofal Deunyddiau Fideo Addysg

Cyhoeddwyd yr adroddiad 'Deall profiadau addysgol a safbwyntiau, cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru' ym mis Tachwedd 2015. Mae amrywiaeth o ddeunyddiau newydd sy'n cyfathrebu prif ganfyddiadau mewn fformatau hygyrch ar gael yma

Ansawdd addysg a hyfforddiant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol oedolion

Dyma ymateb i adroddiad Estyn o ansawdd addysg a hyfforddiant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol oedolion.

Bagloriaeth Cymru

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi llythyr i CBAC yn gofyn am newidiadau i'r manylebau ar gyfer cymwysterau Bagloriaeth Cymru o fis Medi 2016. Nodwyd amrywiaeth o argymhellion yn yr adolygiad Bagloriaeth Cymru gyda amserlenni amrywiol. Manylion yma.

DIWEDDARIADAU ÔL-16

Wythnos Addysg Oedolion: 25 Mehefin – 1 Gorffennaf 2016

Mae’n Wythnos Addysg Oedolion! Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru er mwyn dathlu’r holl gyrsiau amrywiol sydd ar gael i oedolion sy’n dymuno dysgu. Ymunwch â’r ymgyrch i ddathlu dysgu a llwyddiannau’r unigolion yr ydych wedi cydweithio â hwy. #carudysgu a dilynwch @PorthSgiliauGC i gael y newyddion diweddaraf.

Wythnos Gwaith Ieuenctid 23-30 Mehefin

Mae nifer o ddigwyddiadau yn cymryd lle ledled Cymru; darganfyddwch beth sy’n digwydd yn eich ardal chi!

Rhannwch eich storïau / profiadau gan ddefnyddio #CaruWGI a chymerwch ran yn y thunderclap Gwaith Ieuenctid ar 23 Mehefin

hwb

Blogio yn Hwb+

Ydych chi'n cynllunio taith ysgol y tymor hwn? Beth am annog eich disgyblion i ddefnyddio Hwb+ i flogio am eu profiadau? Gall disgyblion ysgrifennu blogiau a'u postio ar wefan gyhoeddus Hwb+ eich ysgol, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w rhieni am yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud. Neu, gellir postio blogiau ar safleoedd dosbarth, pwnc neu flwyddyn yn Hwb+ a'u defnyddio fel pwyntiau trafod pan fyddwch yn dychwelyd i'r dosbarth. I gael rhagor o syniadau ar ddefnyddio blogiau, ewch i dudalennau cymorth Hwb+

Adnoddau Ewro 2016

Gyda Chymru gyfan yn mwynhau’r bencampwriaeth pêl-droed Ewropeaidd, beth am gael golwg ar ein adnoddau thematig Ewro 2016 ar Hwb?

CYMWYS AM OES – FFOCWS AR WYDDONIAETH

Cwestiynau gwyddoniaeth enghreifftiol PISA

Pecyn adnoddau ymgyrch Ffocws ar Wyddoniaeth

ADNODDAU / CYSTADLAETHAU

Estyn - Swyddi gwag

Swyddi Swyddog Gweinyddol

£17,200 - £21,500. Bydd y cyflog dechreuol ar waelod y raddfa.  Gallai cyflog dechreuol uwch gael ei gynnig os gall yr ymgeiswyr ddangos gwybodaeth, sgiliau a phrofiad eithriadol mewn perthynas â’r swydd benodol.

Mae’r rôl wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Dogfen Arweiniad

Cais am gyflogaeth

Ymgeisiwch erbyn 10am ar ddydd Llun 11 Gorffennaf 

Adnodd e-ddysgu ar gael i ysgolion yng Nghymru

Mae FFT Education wedi lansio adnodd E-ddysgu er mwyn helpu llywodraethwyr i fanteisio i'r eithaf ar eu Dangosfwrdd i Lywodraethwyr, sef rhan o system ddata FFT Aspire.  Mae'r Dangosfwrdd yn dangos gwybodaeth am ganlyniadau a chynnydd disgyblion, perfformiad pwnc, cynnydd grwpiau disgyblion, cyd-destun yr ysgol, presenoldeb ac yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau, gan ei gwneud yn drosolwg delfrydol ar gyfer cynllunio tuag at arolygiadau – ewch i elearning.fft.org.uk i gofrestru neu i gael rhagor o wybodaeth.

Alun Davies AC yn dod i Gynhadledd Materion Blynyddoedd Cynnar WCEE

Mae Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg yn falch i gyhoeddi bod Alun Davies (AC) y Gweinidog Dysgu Gydol Oes a’r Gymraeg wedi cytuno i siarad yn ein cynhadledd flynyddol ar 6 Gorffennaf yn Abertawe yng Ngwesty’r Village.

Dyma fydd un o’r cyfleoedd cyntaf i’r Gweinidog amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a’r Cyfnod Sylfaen.

Bydd y gynhadledd yn arddangos amrywiaeth o enghreifftiau o ymarfer Blynyddoedd Cynnar o ysgolion, prifysgolion, cyrff trydydd sector a gwneuthurwyr polisi.

Mae’r nifer o lefydd yn gyfyngedig, am ragor o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch â tegan.waites@wales.ac.uk

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym