|
Mae'n bleser gennym eich gwahodd i gynhadledd ansawdd 2025, a fydd yn cael ei chynnal ar:
- 25 Tachwedd (7.00pm – 8.30pm), a
- 2 Rhagfyr (6:00pm – 7:30pm).
Mae'r gynhadledd hon wedi'i dylunio'n benodol ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae, a bydd yn canolbwyntio ar ansawdd gwasanaethau a'r cymorth sydd bwysicaf i'ch lleoliad a'r plant yn eich gofal.
Beth i'w ddisgwyl
-
Ymarfer cadarnhaol o bob rhan o'r sector – Cyfle i glywed gan ddarparwyr ac arolygwyr
-
Diweddariadau i'r fframwaith arolygu – Cyfle i glywed mwy am yr adolygiad diweddaraf o'r fframwaith arolygu
-
Profiadau darparwyr – Sesiynau holi ac ateb â darparwyr
-
Diweddariadau i bolisïau – Gwybodaeth am adolygiad Llywodraeth Cymru o'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol
-
Adborth o gyfarfodydd ansawdd – Yr hyn rydym yn ei ddysgu o gyfarfodydd ansawdd a sut mae hyn yn llywio ein cymorth
-
Mae eich llais yn bwysig – Byddwn yn cynnwys arolwg bach er mwyn gofyn pa gymorth sydd ei angen ar y sector, felly byddwch yn barod i rannu eich barn a'ch profiadau.
Sut i ymuno
- I ymuno â'r gynhadledd ar 25 Tachwedd (7.00pm tan 8.30pm) – cliciwch yma
- I ymuno â'r gynhadledd ar 2 Rhagfyr (6.00pm tan 7.30pm) – cliciwch yma
Gwybodaeth bwysig i'w darllen cyn y digwyddiad
Caiff y ddau ddigwyddiad eu cynnal drwy Microsoft Teams. Er mwyn i chi ymuno â'r digwyddiad yn hawdd, rydym yn awgrymu y dylech ymuno â ni ar liniadur neu gyfrifiadur gan ddefnyddio'r ap Microsoft Teams.
Caiff rhai elfennau o'r digwyddiadau eu cyflwyno yn Gymraeg a bydd cyfleuster cyfieithu ar y pryd ar gael i ddarparwyr nad ydynt yn siarad / deall Cymraeg.
Edrychwch ar y canllaw defnyddiol hwn sy'n dangos sut i ddewis eich iaith cyn ymuno â'r cyfarfod.
Cofnodi digwyddiadau
Bydd y digwyddiadau'n cael eu recordio a'u rhannu trwy ein sianel YouTube, cylchlythyrau a gwefan. Os yw'n well gennych beidio â chael eich recordio, cadwch eich camera i ffwrdd.
Am fanylion llawn am sut rydym yn trin eich data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Dyma a ddywedodd y rhai a oedd yn bresennol yn y gynhadledd y llynedd am y digwyddiad
Rhoddodd 96% o'r rhai a oedd yn bresennol sgôr o bedair neu bum seren i'r gynhadledd
“Roedd y digwyddiad yn wych. Rwyf wedi bod i ddigwyddiadau eraill gan AGC ond roedd y digwyddiad hwn yn teimlo ac yn edrych yn llawer mwy ‘proffesiynol’ ac yn ysbrydoledig iawn. Diolch – rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr un nesaf”
“Cynhadledd ffantastig, syniadau gwych ac rwy'n teimlo'n hyderus y gallaf ddefnyddio'r wybodaeth i gefnogi ein lleoliad. Diolch”
“Roedd yn ddigwyddiad cefnogol, llawn gwybodaeth ac yn gyfle i ddathlu – ffordd hyfryd o'n hysbrydoli a'n hannog i barhau i ymdrechu i wella er budd ein rhai bach”
Edrychwn ymlaen at eich gweld yno ac at glywed eich cyfraniadau gwerthfawr.
We are delighted to invite you to our quality conference 2025, taking place on:
- 25 November (7.00pm – 8.30pm), and
- 2 December (6:00pm to 7:30pm).
This conference is designed specifically for childcare and play providers focusing on the quality of services and support that matters most to your setting and the children in your care.
What to expect
-
Positive practice from across the sector – Hear from providers and inspectors
-
Inspection framework updates - Hear more about the latest inspection framework review
-
Provider experiences - Q&A sessions with providers
-
Policy updates - Information about the National Minimum Standards review from Welsh Government
-
Quality meetings feedback - What we're learning from quality meetings and how this shapes our support
-
Your voice matters - We'll be including a snap survey asking what the sector needs support with, so come prepared to share your thoughts and experiences.
How to join
- To join the conference on 25 November (7.00pm to 8.30pm) – click here
- To join the conference on 2 December (6.00pm to 7.30pm) – click here
Important information to read before the event
Both events will be held via Microsoft Teams. For you to easily access the event we suggest you join us on a laptop or desktop computer and join us using the Microsoft Teams app.
Some elements of the events will be presented in Welsh and simultaneous translation will be available for providers who don’t speak / understand Welsh.
Please familiarise yourself with this useful guide on choosing your language preference before joining the meeting.
Event recording
The events will be recorded and shared via our YouTube channel, newsletters and website. If you prefer not to be recorded, simply keep your camera off.
For full details about how we handle your data, please see our privacy notice.
Here’s what attendees told us about last year’s conference
96% of attendees rated the conference four or five stars.
“The event was great. I’ve been to other CIW events but this one felt and looked much more ‘professional’ and was really inspiring. Thank you - and really looking forward to the next one”
“Fantastic conference, great ideas and feeling confident to use information to support our setting. Thank you”
“The event was celebratory, informative and supportive- a lovely way to inspire and encourage us to continue to strive to improve for our little ones”
We look forward to seeing you there and hearing your valuable contributions.
Hawlfraint y Goron / Copyright © 2025 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.
Help | Cysylltwch â ni / Contact Us
|