Y diweddaraf am frechiadau COVID – dyddiad terfyn y rhaglen brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn / Update to COVID vaccination – spring boosters cut-off

https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/317472b

CIW Logo 2021
twitter

@care_wales

Internet 48x48

Gwefan / Website

youtube

YouTube

email 48x48

E-bost / Email

twitter

@arolygu_gofal

Facebook 48x48

Cymraeg / Saesneg

Anfonwyd ar ran Llywodraeth Cymru / Sent on behalf of Welsh Government

Saesneg isod / English below

Y diweddaraf am frechiadau COVID – dyddiad terfyn y rhaglen brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn

Welsh Government logo

 

Dyddiad terfyn ar gyfer yr ymgyrch brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn:

Yn unol â chyngor yn y Llyfr Gwyrdd, bydd y gwaith o gyflwyno’r rhaglen brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2022. Bydd hyn yn caniatáu i’r rhai sy’n cael brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn adael digon o fwlch rhwng dosau, os yw’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn barnu eu bod yn gymwys ar gyfer brechiad atgyfnerthu yn hydref 2022.

Y rhai sydd ar fin troi’n 75 oed:

Er mwyn gadael digon o amser i bobl fynychu apwyntiadau brechu, bydd y rhai sy’n troi’n 75 oed ar neu cyn 30 Mehefin yn gymwys i gael eu brechu ar unrhyw adeg yn ystod rhaglen y gwanwyn ar yr amod bod o leiaf 3 mis wedi mynd heibio ers unrhyw ddos cynharach. Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl yn 74 oed ar ddiwrnod y brechiad, ond yn gymwys am eu bod yn troi’n 75 oed cyn y dyddiad terfyn.

Mae’r dull hwn yn gyson â’r dull a ddefnyddir mewn rhaglenni eraill (e.e. ffliw tymhorol), ac yng ngwledydd eraill y DU (yr Alban a Lloegr) ar gyfer eu rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID yn y gwanwyn.

Oedi oherwydd haint:

Os yw rhywun sy’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn wedi cael haint COVID yn ddiweddar, bydd angen iddo aros 28 diwrnod (4 wythnos) o’r dyddiad y cafodd brawf positif cyn y gall fynd am frechiad. Bydd yn dal i allu cael ei frechu ar ôl 30 Mehefin fel rhan o’r ymgyrch hon os bydd yn rhaid iddo ohirio.

Grwpiau oedran eraill - dosau sylfaenol ac atgyfnerthu:

Er ein bod yn parhau i gyflwyno ein rhaglen brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn, nid yw’n rhy hwyr i unrhyw un sydd angen dos sylfaenol (cyntaf, ail neu drydydd) neu frechiad atgyfnerthu ar gyfer yr hydref gael ei frechu. Edrychwch i weld beth yw’r trefniadau yn eich ardal: https://llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19

Brechlyn COVID ar gyfer teithio rhyngwladol:

Cynlluniwch ymlaen llaw os credwch y bydd angen ichi gael eich brechu cyn teithio dramor. Mae’r rhaglen frechu yn dilyn cyngor clinigol JCVI ynghylch bylchau rhwng brechiadau.

Mae’r brechlyn COVID yn dal i fod am ddim drwy’r GIG ond ni fyddwch yn cael eich brechu’n gynt ar gyfer teithio – cynghorir yr amserlen frechu am resymau diogelwch ac effeithiolrwydd.

Ar gyfer oedolion, rhaid cael bwlch o 8 wythnos rhwng y dos cyntaf a’r ail ddos. Yna 12 wythnos arall cyn brechiad atgyfnerthu, a 12 wythnos eto i’r rhai sy’n gymwys i gael brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn. Mae’r cyngor ynghylch bylchau rhwng brechiadau’n amrywio yn dibynnu ar oedran, pa mor agored i niwed yw rhywun yn glinigol a haint COVID-19 blaenorol. Mae manylion llawn i’w cael ym mhennod 14a y Llyfr Gwyrdd: Llyfr Gwyrdd COVID-19, pennod 14a (publishing.service.gov.uk)

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://llyw.cymru/teithio-rhyngwladol-i-gymru-ac-o-gymru-coronafeirws

Cefndir brechiadau atgyfnerthu yn y gwanwyn:

Nododd y cyngor a roddwyd yn natganiad JCVI ar 21 Chwefror 2022 fod “dos yn y gwanwyn i’r bobl fwyaf agored i niwed yn y boblogaeth, yn ymateb cymesur o dan yr amgylchiadau presennol” ac “fel strategaeth ragofalus ar gyfer 2022”, mae JCVI yn cynghori y dylid cynnig dos yn y gwanwyn, tua 6 mis ar ôl y dos diwethaf o’r brechlyn, i:

  • oedolion 75 oed a hŷn;
  • preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn;
  • unigolion 12 oed a hŷn sydd ag imiwnedd gwan, fel y’u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd

Update to COVID vaccination – spring boosters cut-off

Welsh Government logo

End date for spring boosters campaign:

In line with advice in the Green Book, the delivery of the spring booster programme will cease on 30 June 2022. This will allow those receiving a spring booster to have a sufficient interval between doses, if they are deemed eligible by the JCVI for an autumn 2022 booster.

Rising 75s:

In order to leave enough time for people to attend vaccination appointments, those who turn 75 on or before the 30 June are eligible for vaccination at any time in the spring programme provided there is at least 3 months interval after any earlier dose. This means some people will be 74 on the day of vaccination, but are eligible because they turn 75 before the cut-off date.

This approach is consistent with the approach used in other programmes (e.g. seasonal flu), and in other UK nations (Scotland and England) for their spring COVID programme.

Delays because of infection:

If someone eligible for a spring booster has had a COVID infection recently, they will need to wait 28 days (4 weeks ) from the date they tested positive before they can be vaccinated. They will still be able to get vaccinated after 30 June as part of this campaign if they have to postpone.

Other age groups - primary and booster doses:

Whilst we continue to roll out our spring booster programme, it is not too late for anyone who needs a primary dose (first, second or third) or autumn booster to be vaccinated. Please check for local arrangements: https://gov.wales/get-your-covid-19-vaccination

Covid vaccination for international travel:

Please plan ahead if you think you’ll need to be vaccinated before travelling abroad. The vaccine programme follows JCVI clinical advice on vaccine intervals.

Covid vaccination is still free through the NHS but you will not be ‘fast-tracked’ for travel – the vaccine schedule is advised for safety and effectiveness.

For adults there must be an 8 week gap between first and second doses. Then a further 12 weeks before a booster, and 12 weeks again for those eligible for Spring boosters. The advice on vaccination intervals differs depending on age, clinical vulnerability and prior Covid-19 infection. For full details are contained in the Green book chapter 14a: COVID-19 Greenbook chapter 14a (publishing.service.gov.uk)

More information is available here.

Spring boosters background:

The advice contained in the JCVI statement of 21 February 2022 stated that “a spring dose for the most vulnerable persons in the population, is a proportionate response in the current circumstances”  and that “as a precautionary strategy for 2022, JCVI advises a spring dose, around 6 months after the last vaccine dose, should be offered to:

  • adults aged 75 years and over;
  • residents in a care home for older adults;
  • individuals aged 12 years and over who are immunosuppressed, as defined in the Green Book

Hawlfraint y Goron / Copyright © 2022 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.

Help  |  Cysylltwch â ni / Contact Us