Egluro’r sefyllfa o ran ymweld â chartrefi gofal a phrofi gweithwyr proffesiynol / Clarification on care home visiting and testing for professionals

https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/31598de

CIW Logo 2021
twitter

@care_wales

Internet 48x48

Gwefan / Website

youtube

YouTube

email 48x48

E-bost / Email

twitter

@arolygu_gofal

Facebook 48x48

Cymraeg / Saesneg

Anfonwyd ar ran Llywodraeth Cymru / Sent on behalf of Welsh Government

Saesneg isod / English below

Egluro’r sefyllfa o ran ymweld â chartrefi gofal a phrofi gweithwyr proffesiynol

Welsh Government logo

 

29 Ebrill 2022

Annwyl Gydweithwyr,                                                                                   

Rydym wedi ysgrifennu atoch o’r blaen ynglŷn â chyhoeddi’r Cynllun Pontio Gofal Cymdeithasol ar 31 Mawrth drwy Arolygiaeth Gofal Cymru:

https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/3114181

Mae’r cynllun yn pwysleisio pwysigrwydd ailgyflwyno mwy o ymdeimlad cartrefol o normalrwydd mewn cartrefi gofal a chyfoethogi bywydau a mwynhad o ddydd i ddydd y bobl sy’n byw yno. Rydym yn deall yr heriau ac yn gwerthfawrogi popeth yr ydych chi a’ch staff wedi’i wneud a phopeth yr ydych yn parhau i’w wneud i gyflawni hyn.

Serch hynny, yn ddiweddar rydym wedi cael nifer o adroddiadau sy’n peri pryder, gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a thrwy ohebiaeth, fod lleiafrif o ddarparwyr yn dal i gyfyngu ar ymweliadau yn gyffredinol a hefyd yn cyfyngu ar ymweliadau hanfodol yn ystod brigiadau o achosion. Mae’n bwysig bod pob darparwr yn sicrhau bod ymweliadau yn gallu parhau yn ystod brigiad o achosion i gefnogi lles pobl, a’u bod yn hwyluso ymweliadau arferol pan nad oes brigiad. Dylid hefyd hwyluso ymweliadau o dan amgylchiadau eithriadol, megis diwedd oes; ni ddylai’r mathau hyn o ymweliadau gael eu cyfyngu i ymwelwyr hanfodol enwebedig yr unigolyn.

Rydym yn ysgrifennu i ailbwysleisio pwysigrwydd ymweliadau â chartrefi gofal ac i egluro’r sefyllfa o ran trefniadau ymweld a phrofi wrth inni newid o ymateb brys i fusnes fel arfer:

  • Dylid galluogi ac annog ymweliadau arferol o dan do pan nad oes brigiad o achosion yn y cartref gofal.
  • Dylai trefniadau ymweld fod mor agored a hyblyg â phosibl. Os defnyddir systemau apwyntiadau, dylent hwyluso ymweliadau yn hytrach na chyfyngu arnynt.
  • Ni ddylid gosod cyfyngiadau amhriodol ar nifer yr ymwelwyr nac ar hyd ac amlder ymweliadau.
  • Caiff pobl enwebu 2 ‘ymwelydd hanfodol’ a fydd yn cael parhau i ymweld â’r cartref gofal o dan do yn ystod brigiad o achosion. Cânt ymweld ar wahân neu’r un pryd.

Er ein bod yn deall y gall llawer o ddarparwyr fod yn bryderus ar ôl dwy flynedd na welwyd mo’u tebyg o’r blaen, rydym yn disgwyl bod gwasanaethau yn mynd ati i drosi i ffordd fwy arferol o weithredu, gan annog a chroesawu ymwelwyr a chaniatáu i bobl symud yn rhydd i mewn ac allan o’r cartref.

Mae’n bosibl bod darparwyr nad ydynt yn cefnogi ymweliadau ystyrlon yn mynd yn groes i reoliadau a chanllawiau statudol o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystyried camau gorfodi os bydd cyfyngiadau diangen ar ymwelwyr yn tanseilio hawliau pobl ac yn torri rheoliadau.

Hoffem gymryd y cyfle hwn i egluro’r disgwyliadau o ran profi ymwelwyr. Dylai perthnasau/ffrindiau sy’n ymweld a gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld (nad ydynt eisoes yn rhan o drefn brofi reolaidd) ddangos tystiolaeth o brawf llif unffordd negatif yn y 24 awr cyn yr ymweliad. Dylai cartrefi gofal sicrhau bod profion llif unffordd ar gael i ymwelwyr i’w defnyddio ar safle’r cartref ac oddi ar y safle.

O ran gweithwyr proffesiynol sy’n ymweld, megis staff iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol, sydd eisoes yn rhan o drefn brofi reolaidd ac sydd felly’n gwneud prawf ddwywaith yr wythnos, nid oes angen iddynt wneud prawf ychwanegol 24 awr cyn ymweld. Dylai’r gweithwyr proffesiynol hyn ddangos tystiolaeth o ganlyniad eu prawf COVID-19 diweddaraf.

 

Yn gywir,

Frank Atherton and Albert Heaney sig

Syr Frank Atherton                                   Albert Heaney CBE
Y Prif Swyddog Meddygol                       Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â: CareHomeTeam@gov.wales 


Clarification on care home visiting and testing for professionals

Welsh Government logo

 

29 April 2022

Dear Colleagues,                                                                               

We have previously written to you about the publication of the Social Care Transition Plan on 31 March via CIW:

https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/3114181

The plan emphasises the importance of re-introducing a greater sense of normality and homeliness in care homes and in enriching the day-to-day lives and enjoyment of the people who live there. We understand the challenges and we appreciate all that you and your staff have done and continue to do to achieve this.

We have, however, recently received a number of concerning reports from Environmental Health Officers and through correspondence that a minority of providers are still restricting visiting generally and are also restricting essential visiting during outbreaks. It is important that all providers enable continuity of visiting for people during outbreaks to support their well-being, as well as facilitating routine visiting when there is no outbreak. Visits in exceptional circumstances, such as end of life, should also be facilitated; these types of visit should not be limited to a person’s nominated essential visitors.

We are writing to re-emphasise the importance of care home visiting and to clarify what visiting and testing arrangements should look like as we move from emergency response to business as usual:

  • Routine indoor visiting should be enabled and encouraged when there is no outbreak at the care home.
  • Visiting arrangements should be as open and flexible as possible. If appointment systems are used they should facilitate rather than restrict visiting.
  • There should not be inappropriate restrictions on visitor numbers or on the length and frequency of visits.
  • People may nominate 2 ‘essential visitors’ who may continue to visit inside the care home during an outbreak. They may visit separately or at the same time.

Whilst we appreciate the anxiety many providers may be facing following an unprecedented two years, we do expect services to be actively transitioning to a more normal way of operating in which visitors are encouraged and welcomed and where people can move more freely in and out of the home.

Providers who do not support meaningful visiting may be in breach of regulations and statutory guidance under the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016. Care Inspectorate Wales will consider enforcement action if unnecessary restriction of visitors is undermining people’s rights and breaching regulations.

We want to take this opportunity to clarify the expectations around visitor testing. Visiting family members/friends and visiting professionals (who are not already part of a regular testing regime) should show evidence of a negative LFD test within the 24 hour period preceding the visit.  Care homes should make LFD tests available to visitors for both off-site and on-site testing. 

Visiting professionals, such as community health and social care staff, who are already part of a regular testing regime and therefore test twice a week, do not need to take an additional test 24 hours before their visit. These professionals should show evidence of their most recent COVID-19 test result.

 

Yours sincerely,

Frank Atherton and Albert Heaney sig

Sir Frank Atherton                                    Albert Heaney CBE
Chief Medical Officer                               Chief Social Care Officer for Wales

 

For further information contact: CareHomeTeam@gov.wales 


Hawlfraint y Goron / Copyright © 2022 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.

Help  |  Cysylltwch â ni / Contact Us