Diweddariad Arolygiaeth Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru / Care Inspectorate Wales and Welsh Government update

https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/2feb167

Care Inspectorate Wales
twitter

@care_wales

website

Gwefan / Website

youtube

YouTube

email

E-bost / Email

twitter

@arolygu_gofal

facebook

Cymraeg / Saesneg

Cefnogi unigolion i gadw mewn cysylltiad

Saesneg isod / English below

 

Annwyl ddarparwr,

 

Ar hyn o bryd, mae pethau i weld yn gwella o ran yr amrywiolyn Delta sy'n gyrru heintiau COVID-19 yng Nghymru. Ni chafwyd unrhyw achosion o'r amrywiolyn Omicron yng Nghymru hyd yma, ond rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos.  Er mwyn amddiffyn preswylwyr a staff cartrefi gofal rhag y feirws COVID-19 a feirysau anadlol eraill, mae'r cyngor yn aros yr un fath: sicrhau bod pawb sy'n gymwys ar gyfer brechiad atgyfnerthu COVID-19 a brechlyn ffliw wedi eu cael, parhau â gweithdrefnau atal a rheoli heintiau, gan gynnwys defnyddio cyfarpar diogelu personol priodol, a pharhau i brofi staff ac ymwelwyr yn unol â'r canllawiau y cytunwyd arnynt. Rydym yn gwybod bod profion llif unffordd yn effeithiol iawn wrth wneud diagnosis o heintiau COVID-19 a achosir gan yr amrywiolyn Delta, ac, ar hyn o bryd, mae'n ymddangos y byddant yr un mor effeithiol wrth wneud diagnosis o heintiau a achosir gan yr amrywiolyn Omicron pe byddem yn ei weld yn lledaenu yng Nghymru yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn monitro'r sefyllfa ac yn gwneud cynlluniau ar gyfer ymateb pe bai'r sefyllfa'n newid neu'n gwaethygu.

 

Christmas tree

Gwyddom fod COVID-19 wedi dod â sawl her, yn anad dim yn cyfyngu ar ein gallu i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd i bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal ac felly, wrth i dymor yr ŵyl agosáu, rydyn ni am fod yn glir ynglŷn â'n disgwyliadau o ran darparwyr.

Wrth ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, dylai unigolion cyfrifol sicrhau'r canlynol:

  • Mae pobl yn elwa ar ffyrdd creadigol ac arloesol o gadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau a chymunedau lleol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r defnydd o dechnoleg.
  • Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu cydberthnasau a sut y maent yn cyfathrebu mewn ffordd sy'n addas i’w llesiant. Mae staff yn gallu cydnabod pan fydd pobl yn gweld eisiau'r rhai sydd bwysicaf iddynt ac yn rhoi cefnogaeth iddynt gadw mewn cysylltiad.
  • Mae pobl yn elwa ar ddulliau ymweld sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n greadigol ac yn sicrhau'r cyswllt mwyaf ystyrlon, ac sy'n ddigon hyblyg i ymateb i anghenion a chanlyniadau unigol.
  • Mae ffrindiau, aelodau o'r teulu ac eraill yn teimlo bod croeso iddynt wrth ymweld â'r cartref gofal.
  • Mae parch at hawliau pobl i fywyd preifat a bywyd teuluol yn cael ei hyrwyddo. Mae’r staff yn rhagweithiol, yn ymatebol ac yn hyblyg o ran y ffordd y maent yn sicrhau bod pobl yn cadw mewn cysylltiad ac yn teimlo'n ymgysylltiedig ac yn rhan o gymuned, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yng nghynlluniau personol pobl.
  • Mae pobl yn cael eu hannog a'u cefnogi i fynd allan gyda'u teuluoedd a’u ffrindiau a hwylusir aros dros nos. Mae unrhyw gyfyngiadau a roddir i ffwrdd o’r gwasanaeth yn cael eu hasesu o ran risg, wedi'u cefnogi gan dystiolaeth a'u dogfennu'n glir.
  • Mae staff yn cydnabod lle gallai cyswllt ystyrlon fod o fudd i bobl, hyd yn oed pan nad ydyn nhw'n derbyn ymwelwyr fel mater o drefn. Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda phartneriaid lleol i nodi ffyrdd o gefnogi unigolion a all elwa ar fwy o gyswllt ag eraill y tu allan i'r cartref gofal.

Nid ydym yn disgwyl ei weld

  • dull gweithredu sy’n rhy ofalus ac sy’n canolbwyntio’n ormodol ar osgoi risg mewn perthynas ag ymweld ac ymgysylltu â'r gymuned yn ehangach

Anfonwyd ar ran Llywodraeth Cymru 

Saesneg isod / English below

Cardiau gweithredu Hawdd eu Darllen ynglŷn ag ymweliadau ar gyfer oedolion a phlant sy’n byw mewn cartrefi gofal

Welsh Government logo

Annwyl bawb,

 

Rydym wedi cyhoeddi cardiau gweithredu Hawdd eu Darllen ynglŷn â chael ymwelwyr, a mynd allan yn ystod y pandemig ar gyfer plant ac oedolion sy’n byw mewn cartrefi gofal.

 

Mae’r cardiau gweithredu wedi’u haddasu o brif ganllaw Llywodraeth Cymru ynglŷn ag ymweliadau, a gafodd ei ddiweddaru ar 24 Tachwedd. Mae’r cardiau gweithredu Hawdd eu Darllen wedi’u datblygu mewn ymateb i adborth gan bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal i Age Cymru, yn rhan o’r prosiect Tell Me More.

 

Gellir lawrlwytho’r cardiau gweithredu a’u hargraffu gan ddilyn y ddolen hon: https://llyw.cymru/ymweliadau-chartrefi-gofal-canllawiau-i-ddarparwyr-html#adran-70340

 

Yn ogystal, byddwn yn cyhoeddi cardiau gweithredu hygyrch ar wahân i oedolion a phlant maes o law.

 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â: TimCartrefiGofal@llyw.cymru


Supporting people to stay connected

 

Dear provider,

 

We are currently seeing an improving picture with regards to the Delta variant which is driving Covid-19 infections in Wales. There have been no cases of the Omicron variant detected in Wales to date but we are monitoring the situation closely. To protect care home residents and staff from Covid-19 virus and other respiratory viruses the advice remains the same: ensure all those eligible for the Covid vaccine booster and flu vaccine have received them; continue with infection prevention and control procedures including appropriate PPE and continue to test staff and visitors as per agreed guidance. We know that LFTs are very effective at diagnosing Covid infections caused by the Delta variant and early indications are that it will be equally effective at diagnosing infections caused by the Omicron variant should we see it circulating in Wales in the coming weeks.

Welsh Government is monitoring the situation and making plans for responding should the situation change or worsen.

 

Christmas tree

We know Covid 19 has brought with it many challenges, not least limiting the contact we have all had with family and friends. This has been particularly difficult for people who live in care homes and so as the festive season approaches, we want to be clear about our expectations of providers.

In providing a high quality service Responsible Individuals should ensure:

  • People benefit from creative and innovative ways to stay connected to family, friends and local communities including, but not limited to, the use of technology.
  • People are supported to manage their relationships and how they communicate in a way that suits their wellbeing. Staff recognise when people are missing those who are most important to them and give them support to stay connected.
  • People benefit from approaches to visiting that are person centred, creative and maximise meaningful contact and flexible enough to respond to individual needs and outcomes.
  • Friends, family member or other feel welcome when visiting the care home.
  • Respect for people’s rights to a private and family life is promoted. Staff are proactive, responsive and flexible in how they ensure people stay connected, feel engaged and part of a community and this is reflected in people’s personal plan.
  • People are encouraged and supported to get out and about with their family and friends and overnight stays are facilitated. Any restrictions placed on time away from the service is risk assessed, supported by evidence and clearly documented.
  • Staff recognise where meaningful contact may be beneficial to people, even where they do not routinely receive visitors. The service works with local partners to identify ways to support individuals who may benefit from increased contact with others outside of the care home.

We do not expect to see

  • an overly cautious or risk – adverse approach to visiting and wider community engagement

 

 


Sent on behalf of Welsh Government

Easy read action cards for adults & children living in care homes on visiting

Welsh Government logo

Dear all,

 

We have published Easy Read action cards for children and adults living in care homes about having visitors and going out during the pandemic.

 

The action cards have been adapted from the Welsh Government’s main visiting guidance, which was recently updated on 24 November. The Easy Read action cards have been developed in response to feedback to Age Cymru from people living in care homes, as part of the Tell Me More project.

 

The Easy Read action cards can be downloaded and printed via the following link: https://gov.wales/visits-care-homes-guidance-providers-html#section-70340

 

We will also be publishing separate accessible action cards for adults and children, to follow.

 

For further information contact: CareHomeTeam@gov.wales

 


Hawlfraint y Goron / Copyright © 2021 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.

Help  |  Cysylltwch â ni / Contact Us