Exciting development for care homes in Wales / Datblygiad cyffrous i gartrefi gofal yng Nghymru

https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/2c62891

Care Inspectorate Wales
twitter

@care_wales

website

Gwefan / Website

youtube

YouTube

email

E-bost / Email

twitter

@arolygu_gofal

facebook

Cymraeg / Saesneg

Saesneg isod / English below

Albert Heaney
Dirprwy Cyfarwyddwr Cyffredinol
Deputy Director General
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Health and Social Services

Welsh Government logo

9 Mawrth 2021

Annwyl Gyfaill

Efallai fod rhai ohonoch yn cofio fy ngohebiaeth bron i flwyddyn yn ôl a oedd yn ymwneud â datblygu adnodd capasiti gofal a chymorth, a fyddai ar gael am ddim ar-lein i dracio lleoedd gwag mewn cartrefi gofal i oedolion.

Dywedais ar y pryd y byddai’r adnodd yn cynnwys gwefan at ddefnydd y cyhoedd er mwyn i ddarparwyr cartrefi gofal allu marchnata eu gwasanaethau a gwella’r wybodaeth sydd ar gael i bobl sy’n chwilio am ofal a chymorth, naill ai iddyn nhw eu hunain neu i gyfaill neu aelod o’r teulu. Roeddem wedi bwriadu treialu’r cyfleuster hwn gyda nifer bach o ddarparwyr fis Mai diwethaf. Fodd bynnag, er mwyn inni allu canolbwyntio ar ymateb i’r pandemig COVID-19, fe benderfynwyd cyflwyno fersiwn o’r adnodd a oedd wedi ei haddasu, er mwyn rhoi cyfle i ddarparwyr ledled Cymru gofnodi gwybodaeth am leoedd gwag ar y system. Mae’r nifer sydd wedi manteisio ar y cyfle hwnnw dros yr haf wedi bod yn sylweddol iawn, a hoffwn ddiolch i’r rhan fwyaf ohonoch wrth ichi gymryd rhan yn y gwaith hwn.

Mae’n dda gennyf roi gwybod ichi fod Data Cymru bellach wedi gallu cwblhau’r gwaith, a chyn bo hir byddwn yn barod i roi’r swyddogaethau ychwanegol ar waith yn ôl y bwriad. Bydd ein cydweithwyr o Data Cymru yn cysylltu â chi yn fuan iawn i roi rhagor o wybodaeth am y camau nesaf a’r cynlluniau ar gyfer cyflwyno’r nodweddion newydd.

Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ar gyfer y sector cartrefi gofal, sy’n golygu y bydd cyfeiriadur cynhwysfawr ar gael ar gyfer cartrefi gofal yng Nghymru, ac y bydd y cyhoedd yn cael mynediad at yr wybodaeth briodol i’w helpu i wneud eu dewisiadau gofal.

Rwy’n sylweddoli eich bod i gyd o dan bwysau parhaus ar hyn o bryd, ond hoffwn ofyn ichi gyfrannu at y gwaith hwn, gan sicrhau bod eich gwybodaeth bob amser mor gyfredol â phosibl.

Yn gywir,

Albert Heaney sig

 

 

 

ALBERT HEANEY
Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol


Albert Heaney
Dirprwy Cyfarwyddwr Cyffredinol
Deputy Director General
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Health and Social Services

Welsh Government logo

9 March 2021

Dear Colleague

Some of you may recall my correspondence almost a year ago relating to the development of a free online care and support capacity tool to track vacancies in adult care homes.

At that time, I noted that the tool would have included a public facing website both to allow care home providers to market their services and to improve the information available to people seeking care and support for themselves or a friend or family member. We had intended to pilot this facility with a small number of providers last May. However in order to respond to the COVID-19 situation we decided to introduce a modified version of the tool in order to give providers across Wales the ability to record vacancy information on the system. Take up over the summer has been excellent and I must thank the vast majority of you who have engaged with this work.

I am now pleased to let you know that Data Cymru have been able to complete the work and we will soon be ready to enable the additional functionality planned. Colleagues from Data Cymru will be in touch imminently with further information on next steps and plans for the introduction of the new features.

This is an exciting development for the care home sector, meaning that we will have a comprehensive directory of care homes in Wales, and the public will have access to appropriate information to support their care choices.

I appreciate the continued pressure that you are all under at the moment but I am asking you to please engage with this work and to keep your information as current as possible.

Yours sincerely,

Albert Heaney sig

 

 

 

ALBERT HEANEY
Deputy Director General


Hawlfraint y Goron / Copyright © 2021 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.

Help  |  Cysylltwch â ni / Contact Us