Saesneg yn isod / English below
Cam adfer Arolygiaeth Gofal Cymru
23 Gorffennaf 2020
Annwyl Gydweithiwr
Wrth i ledaeniad COVID-19 arafu, ysgrifennaf atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein cynlluniau i symud ymlaen o'n cam ymateb i'n cam adfer o 31 Gorffennaf 2020. Ni wyddom eto am ba mor hir fydd y cam hwn yn para.
Rydym am adeiladu ar y cydberthnasau cadarnhaol rydym wedi'u datblygu gyda'r darparwyr sydd wedi bod yn gweithredu dros y pedwar mis diwethaf. Rydym yn cydnabod bod ymateb i'r feirws wedi cael effaith sylweddol ar yr holl ddarparwyr; ar yr un pryd, mae'n bwysig ein bod yn parhau i fodloni ein cyfrifoldebau statudol i reoleiddio a rhoi sicrwydd ynglŷn ag ansawdd gofal plant.
Byddwn yn parhau â'n galwadau ffôn gyda darparwyr gofal plant, gyda mwy o ffocws ar y ffordd rydych yn sicrhau diogelwch a llesiant y plant yn eich gofal. Yn achos rhai gwasanaethau, byddwn yn ceisio sicrwydd pellach, ac mae'n bosibl y byddwn hefyd yn arolygu gwasanaethau'n rhithwir neu'n bersonol lle rydym wedi nodi risgiau sylweddol posibl i ddiogelwch a llesiant y plant.
Mae arolygiadau ar y cyd ag Estyn ar gyfer lleoliadau nas cynhelir wedi'u hatal o hyd. Rydym yn cydweithio'n agos â chydweithwyr yn Estyn i ystyried yr opsiynau ar gyfer gweithgarwch monitro ar y cyd ac ailddechrau'r rhaglen arolygu ar y cyd yn y dyfodol.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi'r adroddiadau arolygu hynny y gohiriwyd eu cyhoeddi yn ystod y pandemig.
Gellir dod o hyd i fwy o fanylion am ein dull gweithredu yma.
Yn gywir
Gillian Baranski Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru
|
Care Inspectorate Wales' approach to recovery
23 July 2020
Dear Colleague
As the spread of COVID-19 slows, I am writing to update you about our plans to move from our response phase to that of recovery from 31 July 2020. We do not yet know how long this phase will last.
We want to build on the positive relationships that have developed with providers who have been operating over the last four months. We recognise the significant impact responding to the virus has had on all providers; at the same time, it is important we continue to fulfil our statutory responsibilities in regulating and providing assurance about the quality of childcare.
We will continue our phone calls with childcare providers with an increased focus on how you are ensuring the safety and well-being of children in your care. For some services, we will seek further assurance and we may also carry out a virtual or physical inspection of services where we have identified potential significant risks to the safety and well-being of children.
Joint inspections with Estyn of non-maintained settings remain suspended. We are working closely with colleagues at Estyn to consider the options for joint monitoring activity and restarting the joint inspection programme in the future.
We will also be publishing those inspection reports paused during the pandemic.
More detail about our approach can be found here.
Yours sincerely
Gillian Baranski Chief Inspector Care Inspectorate Wales
|
Hawlfraint y Goron / Copyright © 2020 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.
Help | Cysylltwch â ni / Contact Us
|