Coronavirus (COVID-19): Latest update from CIW

https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/28f3a5a

Care Inspectorate Wales
twitter

@care_wales

website

Gwefan / Website

youtube

YouTube

email

E-bost / Email

twitter

@arolygu_gofal

facebook

Cymraeg / Saesneg

Saesneg yn isod / English below

Annwyl Gydweithiwr

Gwyddom ei bod yn debygol y bydd gennych gwestiynau ar ôl i'r Gweinidog Addysg gyhoeddi'r cynlluniau ar gyfer cynyddu'r gweithrediadau mewn ysgolion a chynyddu'r niferoedd sy'n mynychu gwasanaethau gofal plant o 29 Mehefin 2020. Rydym am wneud popeth y gallwn i leddfu unrhyw bryderon a all fod gennych. Os na allwn ateb eich cwestiynau, byddwn yn eich cyfeirio at y ffynhonnell wybodaeth orau.

notifications - welsh screen shot

Rydym yn sylweddoli y gallwch fod yn poeni'n benodol am drefniadau ar gyfer ailagor gwasanaethau a gafodd eu cau yn ystod y pandemig ac am lacio rhai o ofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Os gwnaethoch gau eich gwasanaeth oherwydd y pandemig a'ch bod bellach yn ailagor, dylech ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i roi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Ceir rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn yn y llun (cliciwch y llun i weld).

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau yr wythnos nesaf ynglŷn â mesurau diogelu i'w dilyn mewn gwasanaethau gofal plant a chwarae. Rydym yn disgwyl i ddarparwyr ddarllen y canllawiau hyn yn ofalus a chymryd camau i gydymffurfio â nhw. I'r sefydliadau gofal plant a chwarae hynny sy'n cael eu cynrychioli gan 'Cwlwm' a 'Chwarae Cymru', byddant yn ffynhonnell bwysig o gymorth ac arweiniad hefyd.

Mae trefniadau Llywodraeth Cymru o ran llacio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol dros dro mewn perthynas â phlant gweithwyr allweddol a phlant sy'n agored i niwed, yn parhau i fod yn berthnasol hyd nes yr hybysbysir fel arall. Dylech barhau i geisio cymeradwyaeth gan eich awdurdod lleol ar gyfer unrhyw drefniadau llacio rydych yn eu gwneud ac, fel o'r blaen, roi gwybod i AGC am y newidiadau drwy ddefnyddio eich cyfrif ar-lein. Mae dolen i'r canllawiau yma.

Rydym bellach wrthi'n ystyried sut y gallwn symud ymlaen o ymateb i'r argyfwng i'r cam nesaf o ‘adfer’. Nid ydym yn bwriadu ailddechrau cynnal arolygiadau arferol hyd nes ei bod yn ddiogel i ni wneud hynny. Rydym yn deall y bydd angen amser arnoch i ddod i'r arfer â'r trefniadau newydd ac rydym am gefnogi'r gwaith o adfer y sector gofal plant a chwarae. Rydym yn gobeithio bod ein galwadau ffôn gyda chi wedi bod yn ddefnyddiol; dros y misoedd nesaf, byddwn yn datblygu ein hymgysylltiad â chi er mwyn ein helpu i ddarparu sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Gall hyn olygu y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy ddulliau fidogynadledda er mwyn trafod eich gwasanaeth ac efallai y byddwn yn gofyn i chi rannu gwybodaeth â ni yn electronig. Pan fo'n ddefnyddiol, byddwn yn crynhoi'r trafodaethau hyn mewn nodyn cryno i chi. Ni fyddwn yn cyhoeddi hwn.

Er na fyddwn yn dechrau cynnal adolygiadau arferol o wasanaethau ar unwaith, gallwn wneud hynny os byddwn o'r farn ei fod yn angenrheidiol er mwyn gwneud gwaith dilynol mewn perthynas â phryder neu os na allwn fodloni ein hunain fel arall ynghylch diogelwch gwasanaeth. Bydd unrhyw arolygiad ar y safle yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Ein prif flaenoriaeth fydd diogelwch pobl bob amser – plant, staff, ymwelwyr a'n timau arolygu.

Byddwch yn deall bod hon yn sefyllfa ddigynsail a'i bod yn amhosibl rhagweld beth fydd yn digwydd dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau y mae AGC yn eu gwneud. Byddwn hefyd yn rhannu cyngor gan Lywodraeth Cymru ar ein gwefan cyn gynted ag y bydd ar gael ac yn diweddaru ein Cwestiynau Cyffredin cyn gynted â phosibl.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau penodol ar gyfer AGC, anfonwch y rhain atom drwy e-bost i AGC@llyw.cymru. Os gallwn ateb eich cwestiynau, byddwn yn gwneud hynny. Os yw'r atebion y tu hwnt i'n cylch gwaith, byddwn yn anfon y cwestiynau hyn ymlaen fel y bo'n briodol gan roi gwybod i chi unwaith y byddwn wedi gwneud hynny.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant a chwarae, gan gynnwys Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws neu'r Cynnig Gofal Plant, yna defnyddiwch mewnflwch trafod gofal plant.

Mae gennym adran Cwestiynau Cyffredin ar ein gwefan sydd ar gael yma.

Byddwn yn ystyried sut rydym yn symud o'r cam adfer i'r cam nesaf. Ni fydd hyn yn golygu dychwelyd i'r drefn cyn y pandemig o reidrwydd, am ein bod wedi dysgu bod ffyrdd gwahanol o gyflawni ein rôl. Os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau ynglŷn â hyn, anfonwch nhw i AGC@llyw.cymru. Byddwn yn ysgrifennu atoch eto pan gaiff newidiadau sylweddol pellach eu cyhoeddi.

Yn gywir

Gillian Baranski sig

 

 

 

 

Gillian Baranski
Prif Arolygydd
Arolygiaeth Gofal Cymru


Dear Colleague

We know you are likely to have questions now the Minister for Education has announced the plans for schools to increase operations and for childcare to increase the numbers in attendance from 29 June 2020. We want to do all we can to alleviate any concerns you might have. Where we cannot answer your questions we will direct you to the best source of information.

Notifications - english screen shot

We realise you may be particularly concerned about arrangements for reopening services that closed during the pandemic and about the relaxation of some of the requirements of the National Minimum Standards (NMS). If you closed your service because of the pandemic and are now reopening, you should use your online account to inform Care Inspectorate Wales (CIW). Further information about how to do this is in the image (click image to enlarge).

Welsh Government plans to issue guidance next week about protective measures to be followed in childcare and play services. We expect providers to read this guidance carefully and take action to comply with it. For those childcare and play organisations who are represented by ‘Cwlwm’ and ‘Play Wales’, they will also be an important source of support and guidance.

Welsh Government’s temporary relaxation of the NMS in respect of the children of critical workers and vulnerable children will continue to apply until further notice. You should continue to seek approval from your local authority for any relaxation you make and, as before, inform CIW of the changes using your online account. A link to the guidance is here.

We are now considering how we move from responding to the crisis, to the next phase of ‘recovery’. We do not intend to resume routine inspections until it is safe to do so. We understand you will need time to adjust to new arrangements and we want to support the recovery of the childcare and play sector. We hope you have found our ‘check-in’ calls helpful; over the coming months we will develop our engagement with you to help us provide assurance about the quality and safety of services. This may mean we contact you by telephone or video conferencing to discuss your service and we might ask you to share information with us electronically. Where it is helpful, we will summarise these discussions in a brief note for you. We will not publish this.

While we will not be immediately commencing routine inspection of services, we may do so if we conclude it is necessary to follow up a concern or where we cannot otherwise satisfy ourselves about the safety of a service. Any on-site inspection will be in line with Public Health Wales and Welsh Government guidance. Our first priority will always be the safety of people – children, staff, visitors and our inspection teams.

You will understand this is an unprecedented situation and it is impossible to predict what will happen in the coming weeks and months. We will continue to keep you updated about any changes CIW is making. We will also share advice from the Welsh Government on our website as soon as it is available and update our Frequently Asked Questions (FAQs) as quickly as possible.

If you have specific questions for CIW please email these to us at ciw@gov.wales. If we are able to answer your questions, we will do so. If the answers lie outside our remit we will forward the questions on as appropriate and let you know we have done so.

If you have questions about Welsh Government funding for childcare and play, including the Coronavirus Childcare Assistance Scheme (C-CAS) or the Childcare Offer, then please use the Talk childcare mailbox.

We have an area of our website dedicated to FAQs, which you can access here.

We will be considering how we move from our recovery phase to the next stage. This will not necessarily mean a return to how we did things pre-pandemic as we have learned there are different ways of carrying out our role. If you have ideas or suggestions on this, please do send them to ciw@gov.wales. We will write to you again when further significant changes are announced.

Yours sincerely

Gillian Baranski sig

 

 

 

 

Gillian Baranski
Chief Inspector
Care Inspectorate Wales


Hawlfraint y Goron / Copyright © 2020 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.

Help  |  Cysylltwch â ni / Contact Us